Ysgolhaig, bardd, beirniad a golygydd
Bardd, beirniad, golygydd ac ysgolhaig oedd J. Gwyn Griffiths, un o lenorion mwyaf blaenllaw a dawnus ei ddydd. Nid oedd yn fardd yn y mowld arferol Cymreig ond un a gafodd ei ddylanwadu gan feirdd ac artistiaid Ffrangeg ac Almaeneg.
Ar ben hynny roedd yn ysgolhaig Clasurol, yn uchel iawn ei barch tu allan i Gymru.
Er mai cymharol fechan yw ei gynnyrch barddonol, mae ei gerddi yn gyfoethog eu cyfeiriadau, yn bigog eu neges ac yn hynod gyfoes eu themâu.
Roedd John Gwyn Griffiths yn frodor o'r Porth yn y Rhondda, lle ganwyd ef ym 1911 yn fab i weinidog.
Addysgwyd ef ym Mhrifysgolion Cymru, Lerpwl a Rhydychen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, lle oedd yn Athro y Clasuron ac Eifftoleg.
Sefydlu Cylch Cadwgan
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe sefydlodd Cylch Cadwgan yn ei gartref yn y Porth; ymhlith yr aelodau eraill oedd Pennar Davies, Rhydwen Williams a Gareth Alban Davies.
Prif amcan y grwp oedd torri hualau Anghydffurfiaeth a oedd, yn eu tyb nhw, yn cadw llenyddiaeth Gymraeg yn ei hôl, gan ei rhyddhau i fod yn lenyddiaeth fodern yng ngwir ystyr y gair.
Cyfrannodd at y flodeugerdd Cerddi Cadwgan a ymddangosodd ym 1953. Yr oedd hefyd yn olygydd ar y cylchgrawn Y Fflam, gydag Euros Bowen a Phennar Davies.
Iddewes Almaeneg oedd ei wraig Kate Bosse-Griffiths, ac mae Robat Gruffudd a Heini Gruffudd yn feibion iddynt.
Bardd deifiol o ddychanol
Yn ogystal â'i weithiau ysgolheigaidd niferus sy'n ymwneud â'r Hen Fyd, cyhoeddodd J. Gwyn Griffiths bedair cyfrol o gerddi, sef Yr Efengyl Dywyll (1944), Ffroenau'r Ddraig (1961), Cerddi Cairo (1969) a Cerddi'r Holl Eneidiau (1981); ysgrifennwyd yr olaf tra oedd yr awdur yn Gymrawd Gwadd yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen.
Mae nifer o'r cerddi hyn yn wlatgarol ac yn ysgytwol o ddychanol, tra bod eu ffurfiau yn dangos parodrwydd i arbrofi a chymryd risgiau.
Roedd J.Gwyn Griffiths yn aelod o Blaid Cymru ar hyd ei oes. Bu'n olygydd ar Y Ddraig Goch, papur newydd y Blaid, o 1948 hyd 1952.
Cyhoeddodd hefyd nifer o bamffledi, gan gynnwys Anarchistiaeth (1944) ac Y Patrwm Cydwladol (1949).
Mae ei ymroddiad i'r achos cenedlaethol yn glir yn ei ysgrifau - gweler casgliad ohonynt yn I Ganol y Frwydr (1970), sydd yn trafod, inter alia, cyfrifoldeb moesol y llenor yn y byd modern.
Golygydd
Cyfunodd ei ysgolheictod a'i ddawn fel bardd trwy olygu dwy gyfrol o gyfieithiadau i'r Academi Gymreig, sef Cerddi o'r Lladin (1962) a Cerddi Groeg Clasurol (1989); cyhoeddodd hefyd gyfieithiad rhagorol o Farddoneg Aristotles (1978).
Rhwng 1979 a 1995 roedd yn olygydd cyfres yr Academi o drosiadau Cymraeg o weithiau rhyddiaith gan awduron estron.
Yr oedd J.Gwyn Griffiths yn gyfaill mynwesol i D.J.Williams a golygodd y gyfrol a gyhoeddwyd er anrhydedd i'r llenor hwnnw ym 1965, casgliad o'i storïau cynnar, Y Gaseg Ddu (1970), a'r gyfrol sy'n portreadu ei fywyd a'i waith yn y gyfres Bro a Bywyd (1982).
Bu farw J.Gwyn Griffiths yn Abertawe yn 2004.
Meic Stephens