Bardd gwlad Penrhyn Gŵyr
Bardd gwlad, un o'r ychydig yn y Gymru Saesneg, oedd Cyril Gwynn. Croniclodd ffordd amaethyddol o fyw ym Mro Gŵyr sydd bellach wedi hen ddiflannu.
Rhigymwr oedd yn hytrach na bardd, efallai, ond roedd yn berfformiwr heb ei ail ac roedd ei waith yn tra phoblogaidd yn y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel Byd.
Ganwyd ef ym 1897 yn Llansawel yn Sir Forgannwg ond fe'i magwyd ar ffermydd yn Newton a Langland ym Mhenrhyn Gŵyr, a chyda'r fro honno y'i cysylltir byth wedyn.
Yn wir, 'Bard of Gower' oedd yr enw a dderbyniodd gyda balchder anghyffredin.
Cefndir morwrol
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd ar longau ysgubo ffrwydron ac wedyn ar longau llynges masnachol yr Unol Daleithiau.
Yn fuan wedi iddo ddychwelyd i'w henfro, a phriodi, pwyswyd ar 'y bachgen a siaradai fel bardd' i draddodi rhai o'i benillion mewn cyngerdd yn y Gower Inn, Parkmill, a dyna sut y dechreuodd ddod yn adnabyddus.
Daeth ei amryw swyddi - bu'n was fferm, yn chwarelwr, yn weithiwr ffordd ac yn yrrwr stêm-roler - ag ef i gysylltiad â phobl a straeon o bob rhan o'r penrhyn, a dechreuodd cofnodi bywyd yr ardal yn ei rigymau, a alwai'n Gower Yarns pan y cyhoeddwyd casgliad cyntaf ym 1928.
Roedd galw mawr amdanynt mewn ciniawau ymryson-aredig, priodasau, gwylnosau, partïon Nadolig a swperau cynhaeaf.
Daethai allan dwy neu dair gwaith yr wythnos i gyflawni ei ddyletswydd fel bardd y bobl, gan adrodd ei 'chwedlau' ar ei gof.
Gwnaeth ddigon o arian o'i rhigymau i brynu ei fferm ei hun, ym Mhort Eynon, ym 1946. Ond gorfododd iechyd ei wraig hwy i'w gwerthu ym 1950.
Gweithiodd am rai blynyddoedd fel peirianydd ym Mynachlog Nedd nes y penderfynodd ddilyn dau o'u saith plentyn i Awstralia ym 1964, lle bu farw ym 1988.
Ym 1976 cyhoeddodd Cymdeithas Gŵyr, The Gower Yarns of Cyril Gwynn, sy'n cynnwys deuddeg darn o'r pamffled gwreiddiol ynghyd â 19 o ddarnau diweddarach.
Gwerthwyd y llyfryn wrth y miloedd, gan fod pobl lleol yn dal â diddordeb yn ei waith a'r ffordd o fyw a dathlwyd ganddo.
Mae llawer o'r rhigymau yn dibynnu ar linell glo drawiadol ac felly yn gomedïau; mae nifer yn son am y gwrthdaro rhwng pobl ymhongar o'r tu allan a dyfeisgarwch cynhenid y bobl cynhenid.
Roedd Cyril Gwynn yn ddylanwad ar yr Harri Webb ifanc. Bu farw 'Bardd Gŵyr' ym 1988.
Meic Stephens