BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Terry Griffiths
Terry Griffiths

Ganwyd: 16 Hydref 1947

Magwyd: Llanelli


Cyn bencampwr snwcer y byd

"I'm in the final now, you know," meddai Griffiths mewn cyfweliad efo David Vine ar ôl ennill y gêm gyn derfynol yn erbyn Eddie Charlton yn 1979.

Fe ddaeth gyrfa snwcer Terry i'r brig pan oedd pencampwyr eraill o Gymru hefyd yn amlwg ym maes chwaraeon. Yn Ebrill 1979, fe gurodd Cymru Loegr 27-3 i ennill y bedwaredd goron driphlyg ac ar ben hyn fe enillodd Terry rownd derfynol pencampwriaeth snwcer y byd.

Er ei fod yn chwarae snwcer ers ei arddegau - fe enillodd bencampwriaeth Llanelli a'r Cylch yn 16 oed - pan gymerodd ran ym mhencampwriaethau'r byd, dyna'r ail dro yn unig iddo chwarae'n broffesiynol. Y tro cyntaf, fe gurodd Dennis Taylor 24 ffrâm i 16.

Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach fe gyrhaeddodd rownd derfynol Prydain ond collodd yno i John Virgo. Fe enillodd y Masters a'r Masters Gwyddelig ond fe gollodd ei deitl byd i Steve Davies.

Yn 1982 enillodd y teitl Prydeinig ar ôl curo Alex 'Hurricane' Higgins yn y ffrâm ddiwethaf un.

Yn dilyn hyn, fe enillodd Terry bencampwriaeth Cymru yn 1985 ac 1986. Roedd hi'n flwyddyn dyngedfennol gan iddo gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth y byd am yr eildro ond fe gollodd eto i Steve Davies.

Y dyddiau hyn mae'n enwog fel hyfforddwr ac mae'n helpu rhai o enwau mawr snwcer.

Yn 1999 fe lansiodd Academi Snwcer Ieuenctid Cymru.

Ei funud fawr: ei fuddugoliaeth yn erbyn Dennis Taylor i ennill pencampwriaeth y byd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy