Chwaraewr criced - ac un o'r troellwyr gorau yn y gêm
Wyddech chi?: Fe gafodd ei urddo i'r orsedd ar sail ei gyfraniad dros Gymru. Ganwyd Robert Croft yn Nhreforus yn 1970 ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda thîm Morgannwg yn 1989 yn dilyn ymddeoliad Rodney Ontong. Dewiswyd ef i dîm A Lloegr ar daith yn India'r Gorllewin yn 1991-92 ac ennill ei gap ar ôl cymryd 68 wiced yn nhymor 92.
Fe deithiodd i Dde Affrig gyda'r tîm ac yno y dechreuodd ennyn sylw am ei sgiliau batio hefyd ac fe'i cynhwyswyd yn nhîm Lloegr ar gyfer prawf olaf haf 1996 yn erbyn Pacistan.
Yn 1997, enillodd Morgannwg y bencampwriaeth ac yn ystod gaeaf 1997 fe aeth ar daith efo Lloegr i Sharjah ac India'r Gorllewin. Yn dilyn hyn roedd ei ymddangosiad nesaf yn y gyfres undydd efo'r Springboks a'r Sri Lanciaid.
Yn ystod 1998-99 fe hafalodd record y clwb am ymddangosiadau prawf pan enillodd ei 15fed cap yn ystod cyfres y Lludw.
Ym Mawrth 1999 enwyd Croft ym mharti Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd a'r cyntaf o Forgannwg i chwarae yn y gystadleuaeth ac fe chwaraeodd wedyn yn y gyfres yn erbyn Indiaid y Gorllewin yn 2000.
Yn 2001 fe'i dewiswyd i'r sgwad prawf ar gyfer taith y gaeaf i'r India a Seland Newydd, ond roedd o'n un o'r chwaraewyr a wrthododd fynd ar sail yr holl ofnau diogelwch yn dilyn ymosodiadau terfysgwyr yn Efrog Newydd a'r ansicrwydd gweleidyddol ar gyfandir India.
Yn 2002 enwyd ef yn is-Gapten Morgannwg. Ym Medi y flwyddyn hon enillodd Morgannwg deitl Cynghrair Cyntaf Norwich yn erbyn Swydd Gaint yn Nghaergaint a hynny dan gapteiniaeth Croft ei hun.
Ymhlith llawer o ddilynwyr criced Croft yw'r chwaraewyr mwyaf amryddawn ers Fred Titmus.
Ei funud fawr: sgorio 143 yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yn 1995.
Synodd Robert Croft y byd yn Ionawr 2004, pan gyhoeddodd ei fod am ymddeol o'r gêm rhyngwladol, a rhoi ei holl sylw a'i egni fel capten i Forgannwg.