BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Matthew Stevens
Matthew Stevens

Ganwyd: 11 Medi 1977

Magwyd: Caerfyrddin

Addysg: Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin


Chwaraewr snwcer o'r radd flaenaf

Mae Stevens ymhlith y deg uchaf o chwaraewyr snwcer y byd. Yn 2000, fe enillodd Masters Benson a Hedges ac yn yr un flwyddyn cyrhaedodd rownd derfynol pencampwriaeth Embassy y Byd.

Ganwyd a magwyd Stevens yng Nghaerfyrddin, ac roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn snwcer yn ifanc iawn. Yn ddim ond 11 oed fe sicrhaodd ei gant cyntaf ac yn 13 oed dechreuodd ennill twrnamentiau i'r ifanc. Enillodd dwrnament Ieuenctid Cymru yn 14 oed a gadael yr ysgol yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar y gêm. Erbyn iddo gyrraedd 17 oed roedd wedi troi'n broffesiynol.

Yn 1998 dewiswyd ef yn Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Snwcer y Byd ac ers hynny mae'n mynd ymlaen o nerth i nerth. Enillodd y Regal Masters yn 1999 ac fe gyrhaeodd rownd derfynol pencampwriaeth Prydain. Y flwyddyn ganlynol enillodd gystadleuaeth Benson a Hedges a chyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd Embassy. Yn 2002 fe gyrhaeoddodd rownd gyn derfynol Masters Thailand a Phencampwriaeth y Byd Embassy. O ran safon y byd, chweched ydy'r safle uchaf mae Stevens wedi ei gyrraedd hyd yn hyn.

Ym mis Tachwedd 2003, llwyddodd Matthew i wireddu breuddwyd oes, sef trechu Stephen Hendry o 10 ffrâm i 8 yn rownd derfynol Pencampwriaeth UK. Hon oedd rownd derfynol gyntaf iddo ei mynychu ar ôl colli ei dad ychydig flynyddoedd ynghynt ac meddai :"Collais fy nhad rhai blynyddoedd yn ôl a dyma'r rownd derfynol cyntaf i mi ers hynny. Felly hoffwn gyflwyno'r fuddugoliaeth er cof am fy nhad."

Ar Ionawr 6, 2004 daeth Matthew Stevens yn dad am y tro cyntaf, pan anwyd mab iddo ef a'i gariad, ac fe roddwyd yr enw Freddie Stevens arno.

Mae Matthew yn ymarfer yn galed, yn chwarae bum niwrnod yr wythnos ac ymarfer am rai oriau ar ben hynny. Mae e'n chwarae yn Matchroom Terry Griffiths yn Llanelli.

Mae'n byw o hyd yng Nghaerfyrddin ac yn gefnogwr brwd a ffyddlon i Lanelli ac yn ei amser hamdden mae'n mwynhau chwarae golff a rhedeg. Ei hoff raglen deledu ydy 'Question of Sport' ar BBC Un a'r 'Goodfellas' ydy'i hoff ffilm.

Matthew Stevens a Shaun Murphy yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd, 2005Cyrhaeddodd Mathew Stevens rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn y Crucible yn Sheffield am yr ail dro yn 2005, ac er iddo ddangos talent aruthrol trwy gydol y twrnament gan chwarae snwcer o'r radd flaenaf, fe'i drechwyd yn y diwedd gan Shaun Murphy o Loegr. Ef yw y chwaraewr cyntaf ers 26 mlynedd i gipio Pencampwriaeth y Byd wedi dod trwy'r gemau rhagbrofol. Siom i Stevens, a'r sgôr terfynol oedd 18-16 i Murphy.

Fe wnaeth Matthew Stevens addewid ar ddiwedd y bencampwriaeth y bydd yn dychwelyd yn 2006, gan ei fod yn benderfynol i ennill Pencampwriaeth y Byd cyn diwedd ei yrfa.

Nid Pencampwriaeth y Byd eto, ond ym mis Awst 2005 cipiodd Matthew Stevens Dlws Gogledd Iwerddon ym Melfast. Fe gurodd Stephen Hendry yn y rownd derfynol o 9 ffrâm i 7.

Edrychai fel bod breuddwyd Stevens o gipio'r teitl ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd am ddod yn wir yn 2007, pan roedd ar y blaen o 12 ffrâm i 7 yn rownd yr wyth olaf. Yna, mewn diweddglo dramatig collodd i Shaun Murphey o 13-12 ffrâm.

  • Mwy ar wefan Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

  • Cyfrannwch

    otman_1986@hotmail.fr
    j'adore beaucoup matthew stevens


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy