BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Chwaraeon
Don Shepherd
Don Shepherd

Ganwyd: Awst 12, 1927

Magwyd: Port Einon, Penrhyn Gwyr

Addysg: Ysgol Ramadeg Tregwyr


Cricedwr a darlledwr

Mae Don yn cael ei ystyried yn un o'r cricedwyr gorau na chafodd gyfle i gynrychioli Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol.

Roedd ei yrfa wedi para 23 o dymhorau.

Cipiodd 2,218 o wicedi ar gyfartaledd o 22.32, sy'n fwy nag unrhyw chwaraewr arall sydd heb gael ei ddewis dros ei wlad.

Fe ddechreuodd ei yrfa ym 1950 fel bowliwr bras-gyflym yn erbyn Surrey ar gae'r Oval.

Fel bowliwr bras-gyflym, doedd e ddim wedi profi llawer o lwyddiant ar lain San Helen, felly penderfynodd ddod yn droellwr bum mlynedd yn ddiweddarach.

Cafodd ei dymor mwyaf llwyddiannus ym 1956, gan gipio 177 o wicedi. Hwn oedd un o'r 12 o droeon pan gipiodd Don fwy na 100 wiced mewn tymor.

Roedd Don yn un o'r chwaraewyr amlycaf yn yr ornest yn erbyn Awstralia ar gae San Helen ym 1964.

Cipiodd bedair wiced am 22 o rediadau mewn 17 o belawdau yn y batiad cyntaf, a phum wiced am 71 mewn 52 o belawdau yn yr ail fatiad.

Roedd yn gapten ar Forgannwg yn erbyn Awstralia ym 1968, pan enillodd y sir ar gae San Helen unwaith eto.

Daeth uchafbwynt ei yrfa ym 1969, pan chwaraeodd ran blaenllaw ym muddugoliaeth Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Cafodd ei anrhydeddu â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Wisden ym 1970.

Ond fe allai gyrfa Don Shepherd fod wedi bod yn gwbl wahanol. Cyn ymuno â Morgannwg, fe gafodd gynnig gan Sir Gaerwrangon i chwarae yn eu tîm cyntaf tra roedd e'n gwasanaethu yn y Llu Awyr yn Defford.

Ond fe ddaeth galwad gan Forgannwg, a phenderfynodd chwarae dros sir ei febyd.

Dysgodd Don ei grefft fel cricedwr yn Ysgol Ramadeg Tregwyr, ond roedd e hefyd yn bêl-droediwr addawol. Cafodd brawf gyda chlwb Leeds United tra roedd e yn yr ysgol, ond criced oedd ei ddileit erioed.

Yn gynharach eleni, cafodd Don Shepherd ei ddewis gan arbenigwyr ar ran cylchgrawn Wisden Cricketer fel un o aelodau tîm sêr y siroedd (chwaraewyr sydd heb chwarae dros Loegr) yn Lloegr ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Don oedd yr unig enw i ymddangos ar restr pob un o'r beirniaid.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy