Cricedwr
Mewn gyrfa a barodd rhwng 1957 a 1983, sgoriodd Alan Jones 34,056 o rediadau ar gyfartaledd o 33.03, ac fe sgoriodd gant o rediadau neu fwy ar 52 o achlysuron.
Sgoriodd gant neu fwy mewn dau fatiad yn yr un gêm dair gwaith, am y tro cyntaf yn erbyn Gwlad yr Haf yn Glastonbury ym 1963 (187* a 105*). Doedd e ddim wedi bod yn chwarae'n gyson ar y pryd, ond fe gafodd ei gyfle i ddychwelyd i'r tîm ar gyfer y gêm honno oherwydd anaf i Gilbert Parkhouse. Sgoriodd 92 yn erbyn India'r Gorllewin yn yr un tymor. Sgoriodd 132 a 156* yn erbyn Swydd Efrog ym Middlesbrough ym 1976 a 147 a 100 yn erbyn Hampshire ar gae San Helen ym 1978.
Llwyddodd i sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor 23 o weithiau, ac ym 1970, cyrhaeddodd y nod cyn diwedd mis Mai.
Daeth ei dymhorau mwyaf llewyrchus ym 1965, gyda 1,865 o rediadau, a 1966 pan sgoriodd 1,805 o rediadau.
Mae'n siwr y bydd Alan Jones yn cael ei nodi yn y llyfrau hanes yn bennaf am ei ran yn y bartneriaeth o 330 gyda Roy Fredericks yn erbyn Swydd Northampton yn San Helen ym 1972. Cymaint oedd gwerthfawrogiad y dorf nes bod carfan ohonyn nhw wedi penderfynu casglu arian i'w roi i'r ddau fatiwr. Dyma ddechrau'r system o ddewis chwaraewr am flwyddyn ddysteb, ac achlysur sefydlu clwb cefnogwyr Orielwyr San Helen.
Yn un o 11 o blant, roedd hi bron yn anochel y byddai Alan Jones, ynghyd â'i frawd Eifion, yn mentro i fyd criced. Yn 18 oed, ymunodd â Morgannwg ym 1957 am flwyddyn cyn mynd i'r fyddin am ddwy flynedd. Dychwelodd i Forgannwg ym 1960 dan adain Wilf Wooller. Enillodd ei gap ddau dymor yn ddiweddarach ar ôl sgorio'i gant cyntaf dros y sir.
Oherwydd ei ddoniau naturiol yn erbyn bowlwyr cyflym, roedd yn cael ei ystyried fel posibilrwydd i agor y batiad dros Loegr erbyn canol y 1960au, nid lleiaf oherwydd ei fatiad o 161* yn erbyn bowlwyr enwog India'r Gorllewin.
Roedd llygaid y byd arno ym 1968, wrth i Forgannwg chwarae yn erbyn Awstralia ar gae San Helen. Sgoriodd 99 cyn cael ei ddal ar y ffin yn anelu am ei gant ag ergyd fawr.
Cafodd ei ddewis i gynrychioli Lloegr ym 1970 mewn gêm gyfeillgar answyddogol yn erbyn tîm Gweddill y Byd. Penderfynwyd na fyddai'r chwaraewyr yn derbyn cap ar gyfer y gêm, ac felly dilewyd y cofnodion o'r llyfrau hanes.
Mae nifer o arbenigwyr a sylwebwyr ar hyd y blynyddoedd wedi honni mai'r ffaith bod Jones wedi chwarae dros Forgannwg sy'n gyfrifol am y ffaith na chafodd ei ddewis dros Loegr. Ar y pryd, roedd nifer fawr o'r chwaraewyr yn chwarae dros siroedd Llundain, ac mae nifer o chwaraewyr Morgannwg wedi cael eu hanwybyddu byth ers hynny am yr un rheswm, yn ôl rhai.
Cafodd Alan Jones ei benodi'n gapten ar Forgannwg ym 1976, ac fe arweiniodd y sir yn Lord's yn rownd derfynol Cwpan Gilette flwyddyn yn ddiweddarach. Cafodd ei enwi'n un o bump chwaraewr y flwyddyn gan Wisden, cyn colli'r gapteniaeth ar ddiwedd 1978.
Penderfynodd ymddeol ar ddiwedd tymor 1983, cyn mentro i fyd hyfforddi. Cafodd ei benodi'n hyfforddwr ar ail dîm Morgannwg yn fuan wedyn. Derbyniodd MBE gan y Frenhines yn yr un flwyddyn am ei wasanaeth i fyd criced.
Daeth ei yrfa i ben ag yntau'n cael ei adnabod fel y chwaraewr i sgorio'r nifer fwyaf o rediadau yng ngêm y siroedd heb dderbyn cap dros Loegr.