Cantores enwog
Daeth yr erthygl isod o bapur bro Llais (rhifyn Chwefror 2008.)
Fy Argraffiadau o Mary Hopkin
A wyddoch chi bod deugain mlynedd wedi mynd heibio ers i Mary Hopkin, y gantores werin o Bontardawe, ddod yn fyd enwog gyda'i chân `Those were the days.'? Deugain 'mlynedd? I ble mae'r amser wedi mynd dwedwch?
Ganwyd Mary ym Mhontardawe ar y trydydd o Fai, 1950, yr ieuengaf o dair o ferched i Mr a Mrs. D. Howel Hopkin. Mynychodd Ysgol Gynradd i Ferched Llangiwc ac Ysgol Ramadeg Pontardawe.
Cwrddais â Mary yng nghapel Y Tabernacl, Pontardawe ar ddechrau y chwedegau. Dyma'r capel lle roeddem ni fel plant a phobl ifainc yn mynd iddo ar y Sul. Yno mewn gwasanaeth yn y festri y clywais Mary yn canu am y tro cyntaf. Synnais yn llwyr at ei llais a oedd yn atseinio trwy'r lle i gyd. A phob tro roedd Mary yn canu yn y festri neu ym mhulpud y capel roedd 'na dawelwch llethol a phawb yn gwrando'n astud arni. Roedd hi'n amlwg i bawb bod ganddi lais unigryw a thalent arbennig. Ar y pryd, ychydig a wyddom, wrth wrando ar y ferch fach benfelen yn swyno'r gynulleidfa gyda'i chanu nefolaidd y byddai hi un diwrnod yn fyd enwog fel cantores.
Wrth i ni fynd yn gyson i'r capel ac i'r Ysgol Sul, roedd rhai o blant a phobl ifanc yn aml yn cymryd rhan yn eiddgar iawn yng ngwahanol weithgareddau'r capel, sef y gwahanol wasanaethau, Pen Chwarter, Eisteddfod y Capel, Band of Hope, Y Gymdeithas Ddiwylliannol ar nos Lun a heb anghofio'r Noson Lawen Flynyddol adeg y Nadolig. Fel rhan o'r gweithgareddau hyn roedd grŵp o dua chwech i ddeg ohonom yn canu caneuon yn gyson er mwyn diddanu aelodau'r capel, a Mary oedd y brif lais. Hithau hefyd gyda Terry Joseph oedd yn chwarae y gitârau. Roedd emynau fel 'Pwyso Ar Ei Fraich', `Cyfrif Ein Bendithion', `Calon Lân' i'r dôn ` The Carnival is Over' , caneuon gwersyll fel 'Bing Bong', 'Lawr Ar Lan Y Môr' a rhai o ganeuon cynnar Dafydd Iwan yn amlwg iawn yn ein rhaglen.
Cyn canu'n gyhoeddus roeddem yn mynd ati o ddifri i ymarfer yn frwdfrydig iawn ar ôl cwrdd ar fore Sul, ar ôl Yr Ysgol Sul yn y prynhawn neu yn ystod y Clwb Ieuenctid ar nos Fercher. Ambell waith roedd rhaid cynnal ymarferion ychwanegol, felly lan a ni i dŷ Mary yn Heol Brynawel, a'r croeso ar yr aelwyd yn un twymgalon bob amser.
Roedd Mrs Hopkin, mam Mary, wastod yn paratoi ychydig o luniaeth ar ein cyfer, brechdanau, cacennau a phop ac ati. Ymarfer am ryw bum i ddeg munud, cael egwyl am ryw ugain munud i flasu rhai o ddanteithion Mrs Hopkin, siarad am hyn a'r llall, rhoi y byd yn ei le, ac yna 'mlaen gyda'r ymarfer er mwyn perffeithio'r perfformiad.
Nid yn y Tabernacl yn unig y byddai'n grŵp canu yn diddanu, ond hefyd, fe aethon i ddiddanu pobl ac aelodau rhai o gapeli ar hyd a lled y Cwm yn Ystalyfera, Cwmtwrch, Cwmllynfell a Brynaman, ac hefyd yng Nghlydach, Glais a Threforus. Roedd y dyddiau a dreuliasom yn y Tabernacl yn ystod yr amser yma yn ddyddiau hapus, llawn hwyl a sbri ac yn ddyddiau cyffrous yn ogystal.
Prynodd mam-gu Mary gitâr iddi pan oedd hi tua thair ar ddeg mlwydd oed, ac aeth ati i ddysgu sut i'w chwarae. Roedd gan ffrind o'r teulu, sef y diweddar Mr. Ieuan Lewis o Bontardawe, a oedd â diddordeb dwfn a gwybodaeth eang am ddiwylliant Cymru, gasgliad enfawr o ganeuon gwerin ac fe gyflwynodd y casgliad yma i Mary. Ymysg y casgliad roedd cantorion fel Joan Baez, Julie Felix, Judy Collins ac ati, ac fe gafodd y cantorion yma y fath ddylanwad ar Mary, fel y dechreuodd hi ganu caneuon gwerin wrth iddi gyfeilio gyda'r gitâr.
Pan oedd hi'n ddwy ar bymtheg mlwydd oed fe ddaeth Mary yn aelod o'r grŵp 'Selby Set and Mary.' Cafodd y grŵp hwn ei sefydlu gan Mary a thri o fechgyn lleol, sef Jeffrey Joseph a David Madge o Bontardawe, a David Williams o'r Alltwen. Aent o amgylch y clybiau rygbi a chlybiau nos yn Ne Cymru bob penwythnos yn canu ac yn diddanu pobl. Yng nghanol pob 'gig' manteisiodd Mary ar y cyfle i feistroli ei dawn fel cantores werin trwy ganu cyfres o ganeuon gwerin ar ei phen ei hun. Yn ystod yr amser yma fe ddechreuodd Mary ymddangos ar y teledu, yn canu caneuon a gafodd eu trosi i'r Gymraeg gan Ann Clee a dau o gyn athrawon Mary oedd yn egnïol iawn ac yn help mawr iddi, sef Mr Gwyn Davies a Mr Eic Davies.
Ymddangosodd Mary nifer o weithiau ar raglenni Cymraeg fel 'Heddiw' a `Hob y deri Dando', ac i Mr Gwyn Davies mae'r diolch am hynny, ac yn sgil hyn fe ddaeth hi'n enwog yn y byd adloniant yng Nghymru.
Ym mis Mai, 1968, rhyddhawyd ei record sengl Cymraeg gyntaf gan gwmni recordio Cambrian o Bontardawe, sef 'Llais Swynol Mary Hopkin'. Ar Fai 4 yr un flwyddyn, diwrnod ar ôl ei phen-blwydd yn ddeunaw oed, fe ymddangosodd hi ar y rhaglen Saesneg 'Opportunity Knocks' gyda Hughie Green. Ar y pryd roedd Mary yn dal i fod yn ddisgybl y chweched dosbarth yn Ysgol Ramadeg Pontardawe ac ar fin sefyll ei harholiadau Safon A. Mae'r hyn ddigwyddodd ar ôl ei hymddangosiad cyntaf ar y rhaglen 'Opportunity Knocks' yn chwedlonol erbyn heddiw. Gwelodd Twiggy, y fodel enwog, Mary yn canu ar y rhaglen ac fe soniodd hi wrth ei ffrind Paul McCartney amdani, gan awgrymu y dylai gysylltu â hi. Fe wnaeth Paul McCartney gysylltu â Mary yn syth, a'i gwahodd i Lundain i gael prawf canu ac i fod yn rhan o gwmni recordio newydd y 'Beatles', sef 'Apple'.
Yn ôl yr hanes fe ddaeth Paul McCartney yr holl ffordd o Lundain i Bontardawe mewn Rolls Royce, galw yn 'Siop Jen' ar ben Heol Tomos, am ddeg o 'Woodbines' ac ymlaen i gwrdd â Mary a'i theulu i'w perswadio hi i ddod i Lundain i gael prawf canu. Roedd y newyddion bod Paul McCartney wedi cysylltu, a bod ganddo ddiddordeb yn Mary yn dipyn o sioc ac yn gwbl annisgwyl, nid yn unig i Mary a'i theulu, ond hefyd i'w ffrindiau a'r pentref i gyd. I ni fel pobl ifanc 'nôl yn y chwedegau, y 'Beatles' oedd y grŵp mwyaf enwog yn y byd a'r grŵp oedd gyda'r X, Y, a'r Z ffactor.
Roedd e'n anghredadwy i feddwl bod 'Mary ni' yn cymysgu, yn siarad, yn trafod busnes gyda nhw, ac yn paratoi i recordio caneuon gyda'u cwmni recordio newydd, ond mawr oedd balchder pawb bod hi'n cael y cyfle euraidd yma i wneud enw mawr iddi ei hunan.
Glyn Williams. I'w barhau.
Mwy o bapur bro Llais