Deuawd a oedd ymhlith artistiaid mwya poblogaidd Cymru o'r 1950au ymlaen.
Bu'r ddau frawd o Gefneithin yn diddanu torfeydd yng Nghymru o'r 1950au ymlaen yn canu clasuron fel "Adref Rwy'n Dod" a "Pwy Fydd Yma 'Mhen Can Mlynedd".
Cafodd y ddeuawd eu darganfod yn canu mewn tafarn yng Nghwm Gwendraeth gan y brodyr Alun ac Aneirin Talfan Davies, cynhyrchwyr cynnar y byd adloniant a theledu. Gwerthwyd dros 100,00 o'u recordiau dros yr hanner can mlynedd y buont yn diddanu.
Yn ddau o naw o blant, arferai'r teulu cyfan ganu yn y capel yng Nghwm Gwendaraeth ac mewn cyngherddau hwnt ac yma.
Hyd ddiwedd ei oes, roedd Jac Davies yn wyneb adnabyddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn heini ei gorff a'i goesau'n destun siarad gan y byddai bob amser yn gwisgo trowsus byr!
Bu farw Wil Davies o glefyd y llwch ar ddiwedd y 1980au, ond dathlodd ei frawd, Jac Davies ei ben blwydd yn 90 oed yn Ebrill 2007.
Ar achlysur y pen blwydd hwn, bu nifer o artistiaid amlyca' Cymru yn talu teyrnged i'r ddau frawd mewn rhaglen arbennig o Wedi 7 ar S4C. Ymhlith y cantorion roedd Bryn Terfel yn canu detholiad o hoff ganeuon Jac. Trefnodd ei deulu a ffrindiau barti arbennig iddo mewn gwesty yng Nghaerfyrddin.
Bu farw Jac Davies yn Chwefror 2008.
Darlledwyd rhaglen yn olrhain hanes Jac a Wil Davies ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul, 10 Chwefror 2008 am 1.15pm. Cliciwch yma i wrando arni eto ar y we.