Canwr ac actor enwog yng Nghymru
Ganwyd a magwyd Geraint Griffiths ym Mhontrhydyfen, yn Sir Forgannwg i deulu cerddorol Cymraeg. Dros y blynyddoedd, mae wedi byw yng Nghaerdydd a Llundain, ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin. Hyfforddodd fel nyrs, a dilynodd yrfa yn y maes meddygol am flynyddoedd tra'n cyfuno gyrfa gerddorol. Dechreuodd gyfansoddi pan oedd ond yn bedair ar ddeg oed. Bu'n gerddor sesiwn, gan ymddangos ar recordiau Edward H Dafis, Hergest, Delwyn Siôn a'r opera roc Nia Ben Aur. Roedd yn adnabyddus fel aelod o fandiau roc yn y saithdegau fel y 'siwpyrgrŵp' byrhoedlog 'Injaroc' ag 'Eliffant'.
Ar ôl chwalu Injaroc (rhyddhawyd un albym 'Halen y Ddaear' (1977) ar ôl cwta flwyddyn, ffurfiodd 'Eliffant' gyda Geraint yn brif leisydd a chyfansoddwr. Rhyddhaodd Eliffant gyfuniad o bedair record hir a sengl, ac maent yn cynnwys 'M.O.M' (1979), 'Macym' (1979), 'Gwin y Gwan' (1980) a 'Tywyllwch' (1983). Roedd Eliffant yn un o fandiau byw mwyaf poblogaidd eu hoes, ac yn hoff iawn o chwarae'n uchel! Fe'i disgrifiwyd mewn adolygiad yn Y Cymro fel "Grŵp roc trwm a all roi neuaddau ar dân gyda'i chwarae cywrain".
Geraint a gyfansoddai'r holl ganeuon, ac roeddynt am bob thema dan haul, gan gynnwys y gofod, motobeics, ymwelwyr arallfydol, cariad, colled, gobaith a'r Aifft! Efallai mai'r enwocaf yw 'W Capten' a ymddangosodd ar 'M.O.M', sydd i'w chlywed yn gyson ar Radio Cymru hyd heddiw.
Ym 1984, dechreuodd Geraint ar ei yrfa fel unawdydd, a recordiodd dair record hir o'i ganeuon yn y cyfnod yma ar label Sain, sef 'Madras' (1984), 'Rebel' (1986) ac 'Ararat' (1988). Cynhyrchydd y tair albym hyn oedd ei gyfaill a'i gydweithiwr Myfyr Isaac.
Daeth i wir amlygrwydd yn y cyfnod hwn hefyd drwy ei ymddangosiad yn 'Teilwng yw yr Oen' (1984), sef fersiwn Gymraeg o'r 'Young Messiah', a ddaeth yn boblogaidd iawn ledled Cymru. Yr oedd hefyd yn un o'r lleisiau unigol ar y sengl 'Dwylo Dros y Môr' (1985). Ym 1992 sefydlodd Geraint label recordio ei hunan, 'Diwedd Y Gwt'. Y casgliad cyntaf ar 'Diwedd Y Gwt' oedd y casét 'Donegal', ac ym 1998 cyhoeddwyd y casgliad ar CD. Rhyddhawyd 'Hewl' ym 1999 a 'Glastir' yn 2001 ar yr un label.
Dechreuodd ar ei yrfa actio'n broffesiynol ym 1985 drwy recordio cyfres deledu chwe rhan, Nôl Ar y Stryd ac mae wedi cyflwyno rhaglenni plant poblogaidd ar S4C, gan gynnwys Ffalabalam a Ty Chwith.
Bu'n actio mewn cyfresu drama fel Pobol y Cwm, Pris y Farchnad a Darn O Dir, a ffilmiau teledu fel Y Cloc, a Dirgelwch Yr Ogof a'r gyfres i ddysgwyr, Talk About Welsh.
Mae hefyd yn actio mewn dramâu radio ('Rhydeglwys ar BBC Radio Cymru).
Un o'i brif ddiddordebau bellach yw cynhyrchu recordiau ar gyfer bobol eraill yn ogystal ag iddo'i hun. Cyhoeddwyd dau gasgliad o'i ganeuon gorau ar label Sain, sef 'Goreuon' (1997) a 'Cadw'r Ffydd (Goreuon II)' (2003).
Mae'n parhau i berfformio'n fyw, ac ymddangosodd yn ddiweddar gyda band llawn yn y cyngerdd er budd dioddefwyr y Tsunami yng Nghaerdydd.