BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bywyd Cyhoeddus
Peter Hain
Peter Hain

Ganwyd: 16 Chwefror 1950

Magwyd: Nairobi

Addysg: Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Pretoria


Y gwleidydd Llafur sy'n Arweinydd y Tŷ'r Cyffredin ac yn Weinidog Cymru yn San Steffan.

Er iddo gael ei eni yn Nairobi, mae Peter Hain bellach yn ffigwr amlwg a dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Ganwyd a magwyd Peter Hain yn Ne Affrig. Roedd ei rieni Adelaine Florence Hain a Walter Vannet Hain (pensaer) yn amlwg yn y frwydr yn erbyn apartheid ac anfonwyd y ddau i'r carchar am eu gwrthwynebiad. Yn ddiweddarach, gorfu iddynt hwy a'r plant adael De Affrig yn Ebrill 1966 gan nad oed y tad yn cael cynnig gwaith o gwbl.

Peter oedd yr hynaf o bedwar o blant ac mae ganddo ddwy chwaer iau a brawd.

Ymsefydlodd y teulu yn Putney yn Llundain. Ar ôl cwblhau addysg uwchradd, enillodd Peter radd dosbarth cyntaf mewn Economeg a Gwyddoniaeth Gwleidyddol yng Ngholeg y Frenhines Mary, Prifysgol Llundain. Fe gwblhaodd radd Meistr mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Sussex yn ddiweddarach.

Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol y cynyddodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ymarferol ac fe ddaeth yn arweinydd y mudiad gwrthapartheid ac yn amlwg iawn yn y gwrthdystiadau. Yn 1969 roedd ymhlith y rhai a fu'n tarfu ar daith y Springboks ac fe arweiniodd hyn yn ddiweddarach at ohirio taith griced i Dde Affrig. Yn 1971 fe'i dewiswyd yn Gadeirydd y Rhyddfrydwyr Ifanc.

Erbyn 1977 roedd Hain yn aelod o'r Blaid Lafur yn broffesiynol fe'i cyflogid fel ymchwilydd i Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu. Ond doedd Hain ddim wedi anghofio ei fagwraeth ac yn 1977 roedd yn un o sylfaenwyr y Mudiad Gwrth Natsïaeth.

Yn Ebrill 1991 etholwyd Hain yn aelod Llafur Glyn Nedd ac yn yr etholiad yn 2001 enillodd 60.7% o'r bleidlais.

Yn ystod y 1990au fe chwaraeodd Hain ran amlwg yn yr ymgyrch i sicrhau pleidlais ar ddatganoli. Pan enillodd Llafur yr Etholiad Cyffredinol ym Mai 1997 dewiswyd Hain yn Weinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Yn 2001 penodwyd Hain i'r Cabinet pan gafodd le Paul Murphy fel Gweinidog Cymru. Ar ôl yr adrefnu ym Mehefin 2003 fe ddewiswyd Hain yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin hefyd. Ar ben hyn, mae Hain hefyd yn amlwg yn y trafodaethau ar y Cyfansoddiad Ewropeaidd ar ran y Llywodraeth.

Yn adrefniant y cabinet wedi'r etholiad cyffredinol yn Mai 2005, penodwyd Peter Hain yn ysgrifennydd gwladol dros Ogledd Iwerddon, gan gadw ei gyfrifoldebau Cymreig yn ogystal.

Mae Peter Hain yn byw yn Rhesolfen yn Nyffryn Nedd. Priododd ei wraig gyntaf Patricia Western yn 1975 ac mae ganddynt ddau fab. Priododd am yr eildro ym Mehefin 2003 efo Elizabeth Haywood yn Swyddfa Gofrestru Glyn Nedd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy