BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adloniant
Max Boyce
Max Boyce

Ganwyd: 1945

Magwyd: Glyn-nedd


Un o ddigrifwyr eiconig Cymru.

"I was there" - Max Boyce.

Er Gwybodaeth: Mae gen Max ei fand teyrged ei hun o'r enw 'Boycezone'!

Bywgraffiad: Mae Max Boyce yn ddigrifwr heb ei ail - cantor, comig, storïwr a bardd. Gall wneud i unrhyw gynulleidfa chwerthin ac mae'n enwog am ei allu i gyfleu syniadau yn effeithiol trwy eiriau a chân.

Cafodd Max ei eni a'i fagu yn nhref bach Glyn-nedd. Mae wedi treulio ei fywyd priodasol yno, ac wedi magu ei blant ei hun yno. Mae'r dref wedi rhoi llwyth o ysbrydoliaeth a deunydd iddo i'w defnyddio tra ei fod ar lwyfan.

Roedd tad Max yn löwr, ac fe'i laddwyd mewn ffrwydriad yn y pwll ychydig ddiwrnodau wedi i Max gael ei eni. Treuliodd Max dros ddegawd yn gweithio mewn pwll gyfagos yn ogystal ag astudio am radd mewn peirianneg mwyngloddio.

Dechreuodd Max ei yrfa ar y llwyfan drwy ganu gwerin, gan berfformio yn Nghlwb Gwerin y Cwm ym Mhontardawe, lle y recordiodd sawl cân. Yn sgîl hyn dangosodd EMI ddiddordeb ynddo ac fe arwyddodd gytundeb i recordio cyfres o albymau byw o ganeuon a straeon.

Ar y 23ain o Dachwedd 1973 recordiodd Max, 'Yn fyw yn Nhreorci', lle y cyflwynodd caneuon megis 'The Outside Half Factory' a 'Morgan Moon'. Yn annisgwyl, fe werthodd yr albwm yn ardderchog ac felly dilynodd yr albwm 'We All Had Doctor's Papers' yn 1975. Cyrhaeddodd yr albwm hyn rhif 1 yn y siartiau - yr albwm digri cyntaf i fedru hyn. Fe dderbyniodd ddisgiau aur pellach am yr albymau, 'The Incredible Plan' yn 1976 a 'I know 'Cos I was There' yn 1978.

Yng Ngwanwyn 1977, symudodd Max ymlaen i wneud gwaith teledu ac fe recordiwyd y rhaglen 'Max Boyce In Concert' am y tro cyntaf. Dilynwyd hyn gan sawl ymddangosiad ar raglennu trafod a thair rhaglen arbennig. Y cyntaf o'r rhain oedd 'Max Boyce Meets the Dallas Cowboys' - lle chwaraeodd safle 'Quarterback' i'r tîm Americanaidd enwog. Yn ogystal â hyn mae Max wedi ysgrifennu sawl llyfr yn rhoi hanes ei fywyd yn Ne Cymru drwy gyfrwng cerddi, straeon a chaneuon.

Yn y 1990au hwyr, daeth cenhedlaeth newydd i fwynhau ei waith mewn cyfres teledu newydd, ac fe chwaraeodd yn seremoni agoriadol y Cynulliad yng Nghaerdydd. Yn y flwyddyn 2000 derbyniodd MBE gan y Tywysog Charles mewn seremoni yng Nghastell Caerdydd.

Mae Max yn dal i fod yn brysur. Recordiodd gyfres i BBC Radio Cymru yn 2003 o'r enw 'The Final Curtain'. Roedd gwesteion ar y rhaglen yn siarad â Max gan rannu beth fyddai eu diwrnod delfrydol olaf ar y ddaear fel pe baent yn cael dewis.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy