Ei berfformiadau cofiadwy o gymeriadau mewn ffilmiau megis 'The Lord of the Ring' a 'Raiders of the Lost Ark'
Er gwybodaeth: Pan chwaraeodd y cymeriad Gimli yn 'The Lord of the Rings' roedd ei wisg yn pwyso dros 40 kilogram ac roedd angen help gan dau berson i'w rhoi e ymlaen!Bywgraffiad:
Treuliodd John Rhys-Davies ran mawr o'i blentyndod yn Rhydaman - man geni ei fam. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth glasurol yn ifanc iawn a credai mai'r diddordeb hwn arweiniodd i'w benderfyniad i fod yn actor ac yn awdur.
Yn bymtheg oed perfformiodd rôl Shakesperaidd am y tro cyntaf a rhoddodd y profiad hwn sicrwydd iddo mae ar y llwyfan yr oedd ei ddyfodol.
Wedi iddo adael yr ysgol mynychodd Prifysgol Dwyrain Anglia yn Norwich lle astudiodd Saesneg. Ar ôl graddio fe aeth i Lundain, lle y'i derbyniwyd fel myfyriwr yn Academi Brenhinol y Celfyddydau Dramatig. Wedi iddo orffen astudio fe ddaeth yn actor cymeriad profiadol sydd bellach wedi ymddangos mewn dros 80 o ffilmiau.
Un o uchafbwyntiau diweddar ei yrfa hir oedd chwarae rhan y corrach Gimli yn yr addasiad i ffilm o'r llyfr enwog 'The Lord of the Rings' gan J.R.R.Tolkien.
Roedd chwarae'r rôl hon yn golygu fod Rhys-Davies yn gorfod treulio pump awr yn cael ei goluro. Cafodd ei ffilmio yn Seland Newydd gyda Peter Jackson yn ei gyfarwyddo. Rhyddhawyd 'The Fellowship of the Ring', y ffilm cyntaf mewn cyfres o dri, yn 2001, ac fe'i ddilynwyd gan 'The Two Towers' a 'The Return of the King'.
Cyn ymddangos yn y ffilmiau hyn, mae'n siŵr mai'r rhan amlycaf mae Rhys-Davies wedi ei gael mewn ffilm oedd ei gymeriad yn 'Raiders of the Lost Ark' a 'Indiana Jones and the Last Crusade'. Yn y ffilmiau hyn cafodd y cyfle i weithio gyda'r actorion enwog Harrison Ford a Sean Connery.
Mae'r ffilmiau eraill yr ymddangosodd ynddynt yn cynnwys 'Victor, Victoria', 'The Living Daylights' a 'King Solomon's Mines'.
Yn ogystal â hyn, mae hefyd wedi cael tipyn o sylw oherwydd ei berfformiadau ar y sgrîn fach gan gynnwys chwarae 'Yr Athro Maximilian P. Arturo' yn y gyfres deledu boblogaidd 'Sliders' ac am ymddangos sawl tro ar 'Star Trek: Voyager' yn chwarae cymeriad Leonardo da Vinci.
Mae ymddangosiadau eraill ar y teledu yn cynnwys 'Shogun' a 'Noble House' gan James Clavell, 'Great Expectations', 'War and Rememberance' ac 'Archaeology'.
Oherwydd ei waith, mae Rhys-Davies wedi sefydlu ei hun yn Los Angeles, gan dreulio dipyn o amser hefyd ar yr Isle of Man. Mae'n casglu ceir ac mae hefyd ganddo drwydded fel peilot.