Cyfansoddwr a chanwr poblogaidd
Wyddech chi?:Trosiad ydy teitl yr albwm 'White Ladder' am asgwrn cefn merch.Ar ôl gadael becws y teulu ym Manceinion, sefydlodd teulu David fusnes yn Solfach yn gwneud crefftau ar gyfer y diwydiant ymwelwyr. Dyma fusnes go wahanol i lwyddiant mawr David yn ddiweddarach.
Magwyd David ym Mhenfro ac yn ystod ei arddegau bu'n chwarae mewn nifer o fandiau pync gan fynd yn ddiweddarach i Goleg Celf Caerfyrddin. O Gaerfyrddin fe aeth i Lerpwl i astudio ac yno y ffurfiodd y band Waiting for Deffo a datblygu arddull delynegol yn wahanol i'r pync gwreiddiol cynnar.
Wedi graddio, symudodd i Lundain ac fe arwyddodd i ddau gwmni yn Llundain, Hut ym Mhrydain a Caroline yn yr Amerig. Ei sengl gyntaf oedd 'Birds Without Wings' yn 1992 ac yna'r albwm 'A Century Ends'. Doedd yr albwm ddim yn llwyddiant masnachol ond fe enillodd griw ffyddlon o ddilynwyr iddo.
Yn 1993 priododd ag Olivia sy'n gyfreithwraig yn Llundain.
Yn dilyn ei daith gyntaf yn Ewrop, fe ryddhaodd ei ail albwm, aflwyddiannus yn fasnachol eto, Flesh a cholli ei gytundeb efo Hut yn ddiweddarach. Ond fe'i arwyddwyd yn syth gan EMI ac fe gynyddodd ei boblogrwydd yn Iwerddon. Fe chwaraewyd ei fideo ar 'No Disco' yn gyson.
Yn 1996 rhyddhawyd ei albwm nesaf 'Sell Sell Sell' gan gynyddu ei boblogrwydd yn Iwerddon ond fawr ddim ym Mhrydain.
Ond yn 1998 cyhoeddodd yr albwm a fyddai'n newid popeth. Recordiodd David 'White Ladder' yn ei gartref yng ngogledd Llundain ar ei label ei hun IHT. Aeth i ben y siartiau yn Iwerddon a hyd yn hyn gwerthwyd 2.2 miliwn o gopïau.
Roedd pethau ar fin gwella iddo, yn arbennig felly pan ryddhawyd y ffilm 'This Year's Love' gan fod pump cân ganddo wedi eu cynnwys yn y trac sain. Gellir gweld David ar y sgrin fel y canwr ym mand y ffilm.
Yn 2000 fe ymunodd Christian Tattersfield â Eastwest Records ac mae'n hoff iawn o waith David ac fe arwyddodd David yn syth ac ailgyhoeddi 'White Ladder'; gydag ymgyrch hyrwyddo a marchnata enfawr. Erbyn Mai 2002 roedd yr albwm wedi cyrraedd y deg uchaf ac fe arhosodd yno am weddill y flwyddyn. Fe aeth y gân Babylon yn syth i rif 5 yn y siartiau. O'r diwedd roedd David yn llwyddiannus ym Mhrydain.
Erbyn hyn mae David wedi perfformio dwy set yn Glastonbury ac wedi ymddangos ar sioe boblogaidd David Letterman yn yr Amerig. Ers hynny mae Hut hefyd wedi gweld cyfle gan ailgyhoeddi rhai o'i ganeuon cynnar fel 'Lost Songs' a 'Sell Sell Sell'.
Yn Hydref 2002 cyhoeddodd Gray albwm newydd hir ddisgwyliedig sef 'A New Day at Midnight'.