BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Adar Brith
Howard Marks,
Howard Marks,

Ganwyd: 1945

Magwyd: Mynydd Cynffig

Addysg: Ysgolion lleol a Phrifysgol Rhydychen


Gwerthwr cyffuriau enwoca'r byd

Ac yntau'n fyfyriwr yng Ngholeg Balliol yn Rhydychen yn y chwedegau, hoffai Howard Marks feithrin delwedd o fod yn perthyn i deulu glofaol a oedd yn arfer cadw glo yn y bath tra oedd ef, druan, wedi gorfod cerdded i'r ysgol yn droednoeth ac wedi ei orchuddio â llwch glo.

Mewn gwirionedd, mab i rieni dosbarth canol o Fynydd Cynffig oedd Marks, ond roedd yn ddyn anghyffredin iawn.

Credai llywodraeth yr Unol Daleithiau fod y gŵr ifanc a'r bersonoliaeth fagnetaidd wedi gweithredu am gyfnod o 20 mlynedd fel un o'r gwerthwyr mariwana mwyaf yn y byd.

Amcangyfrifir i Marks ennill cannoedd o filiynau o ddoleri, ond pan arestiwyd ef a'i garcharu yn 1990, methwyd â dod o hyd i unrhyw arian yn ei feddiant ar wahân i'r hyn oedd yn ei boced.

Helfa fyd-eang

Am ugain mlynedd bu'r Cymro Cymraeg deallus hwn yn chwarae mig ag asiantaethau cyffuriau gorau'r byd.

Byddai'n teithio mor aml fel iddo gael ei fedyddio yn Marco Polo.

Yn y diwedd cymerodd filoedd o oriau o sain a lluniau ar dâp i'w ddal a'i gosbi.

Siaradai Marks mewn cod ar y ffôn, ac anodd iawn i aelodau'r Asiantaeth Gorfodaeth Cyffuriau (DEA) oedd datrys y cod hwnnw.

Yn ystod un dydd yn unig doedd hi'n ddim iddo wneud neu dderbyn galwadau i - ac o - Manila, Bangkok, Hong Kong a'r Unol Daleithiau.

Yn Rhydychen y cychwynnodd ei gariad tuag at fariwana.

Roedd y cyffur wedi newid delwedd o fod yn narcotig peryglus yn y pumdegau i fod yn ffasiynol ymhlith pobl ifanc y colegau, y deallusion.

Yno y creodd Marks y chwedloniaeth o'r bachgen diniwed o'r wlad a oedd wedi llwyddo i gael ei dderbyn yn Rhydychen.

Disgrifiai ei hun yn hunanddilornus fel y gwerinwr o'r cymoedd, ac fe weithiodd y twyll.

Mwg a merched drwg

Heidiai merched ifanc o'i gwmpas.

Gair mawr y cyfnod oedd rhyw, ac ni fedrai Marks gael digon ohono. Taflodd ei hun dros ei ben a'i glustiau i'r isddiwylliant cyffuriau.

Cafwyd tystiolaeth gan un o'i ffrindiau o'r math o fywyd yr oeddent yn ei fyw.

Un nos Sadwrn, aeth y ffrind a'i gariad i aros at Marks i'r bwthyn lle trigai'r Cymro ger Rhydychen.

Aeth y cyfaill adref y bore wedyn, sef bore dydd Sul, neu o leiaf, dyna a gredai.

Mewn gwirionedd, roedd hi'n fore dydd Mawrth.

Mariwana ac ambell i ddot o LSD mewn lwmp o siwgr oedd deunydd Marks, ac yn ogystal â'i ddefnyddio ei hun dechreuodd ei werthu am £3 y tro.

Er gwaetha'r ffaith i gyffuriau o'r fath gostio bywyd rhai fel y canwr Brian Jones o'r Rolling Stones, yntau hefyd yn Gymro, ac ŵyr Harold Macmillan, sef Josh Macmillan, tyfodd y ddau gyffur mewn poblogrwydd.

Y rhwyd yn cau

Dechreuodd yr heddlu gynnal cyrchoedd llwyddiannus, yn eu plith Operation Julie - y cyrch mwyaf o'i fath yn y byd bryd hynny - yn ardaloedd Tregaron, Carno a Llundain yn 1977, gan gipio chwe miliwn dos o LSD gwerth £100 miliwn ynghyd ag £80,000 mewn cyfrifon banc yn y Swistir.

Dyma'r math o fyd y trigai Howard Marks ynddo pan ddaeth gyntaf i sylw'r DEA yn America.

O hynny ymlaen bu'n frwydr bersonol rhwng Marks ac asiant o'r enw Craig Lovato, a dyngodd lw y byddai'n dal y Cymro.

Lovato fyddai nemesis Marks.

Codi dau fys wnaeth Marks, a phrynu bwtîc yn Rhydychen.

Ac yma y cymylir y dyfroedd wrth i Marks honni i MI6 ei annog i sefydlu canghennau eraill mewn gwledydd tramor er mwyn cadw golwg ar yr IRA.

Gwelwyd ef yn rheolaidd mewn partïon yn Manhattan ac yn Llundain. Unwaith, ac yntau wedi ffoi tra oedd ar fechnïaeth, ymddangosodd ar lwyfan cyngerdd yn Llundain yng nghanol criw wedi eu gwisgo fel Elvis Presley.

Ofnai Lovato bod Marks yn anghyffyrddadwy.

Camgymeriad mawr

Aeth Marks ati'r adeg hon i smyglo 15 tunnell o fariwana o Golombia i Iwerddon, ond gan newid ei drefniadau ar y funud olaf a mynd â'r stash i'r Alban.

Roedd digon o'r cyffur yno i greu 20 miliwn o sigaréts.

Llwyddwyd i'w arestio eto, ond daeth yn rhydd wedi iddo ddadlau'n llwyddiannus ei fod yn cael ei dalu gan wasanaeth cudd Mecsico.

Canfuwyd fod un gŵr yn gweithio iddo yn Amsterdam, a'i unig waith oedd derbyn galwadau ffôn i Marks a'u trosglwyddo iddo ble bynnag y byddai, ond gan greu'r argraff fod y dyn ei hun yn Amsterdam hefyd.

Fis Mawrth 1968, dilynodd Craig Lovato Marks i Dde Califfornia lle'r oedd y Cymro'n barod i symud saith tunnell o fariwana i borthladd ym Mecsico ac yna ymlaen i Galiffornia.

Cynhaliwyd cyrch arno yng ngwesty'r Beverly Hills ond ni chanfuwyd dim, dim ond 50,000 doler - swm bach i Marks - ac un kilo o hash.

Yn ei gartref ym Majorca roedd pob un o'i deulu-yng-nghyfraith - brodyr a chwaer ei wraig - yn gweithio iddo erbyn hyn.

Cadwai filiynau o ddoleri mewn banciau yn Ewrop ac yn Asia.

Daeth ei gwymp wedi iddo ddod yn ffrindiau â'r Arglwydd Moynihan, aelod o deulu bonedd a drigai mewn oferedd ar Ynysoedd y Pilipinas.

Yn Bangkok, roedd yn berchen ar siop barbwr lle torrid gwallt yn un rhan o'r adeilad a lle gwerthai puteiniaid eu ffafrau yn y rhan arall.

Carchar

Roedd Moynihan yn ffrindiau mawr â'r Arlywydd Marcos, arweinydd Ynysoedd y Pilipinas.

Gyda help Marcos a Moynihan prynodd Marks 500 erw o dir ar gyfer tyfu mariwana ar ynys Fuga lle'r oedd maes glanio cyfleus.

Disgwyliai wario hyd at 50 miliwn o ddoleri ar y gwaith.

Ond arweiniodd cwymp Marcos yn anuniongyrchol at ddal Marks.

Wedi i Moynihan golli ei noddwr, fe'i perswadiwyd gan y DEA i fynd at Marks i recordio sgwrs rhwng y ddau.

Ar y tâp, cyfaddefodd y Cymro ei fod yn trefnu tri chyrch smyglo mawr bob blwyddyn.

Twyllwyd un o ddynion Marks, sef ei frawd-yng-nghyfraith, Patrick Lane, i siarad hefyd.

Arestiwyd Marks ynghyd â 22 o'i ddynion mewn pum gwlad wahanol.

Estraddodwyd ef i Miami, ac yno ar 18 Hydref 1988 dedfrydwyd ef i garchar am 25 mlynedd.

Serch hynny, ni ddarganfuwyd yr un ddoler anghyfreithlon o'i eiddo.

Rhyddhawyd Howard Marks yn gynnar a threuliodd y blynyddoedd diwethaf yn ymgyrchu dros gyfreithloni mariwana, gan ddal i greu chwedlau o'i gwmpas ei hun.

Mae'n ŵr enigmatig, hawdd ei hoffi, yn un a allai hudo adar oddi ar ganghennau'r coed.

Ond yn Arglwydd Moynihan, ymddiriedodd yn y person anghywir.

Canodd yr aderyn hwnnw, ac o ganlyniad treuliodd Marks gyfnod helaeth mewn cawell.

Lyn Ebenezer


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy