Arwain Byddin Rhyddid Cymru
Ganwyd Cayo Evans rai canrifoedd yn rhy hwyr. Perthynai yn fwy i
oes y marchogion a'u sifalri nag i'n hoes fodern ni. Hawdd fyddai ei
ddychmygu'n marchogaeth wrth ystlys Llywelyn neu'n ceisio swyno
Merched Llanbadarn yng nghwmni Dafydd ap Gwilym.
Ac yn
wahanol i Dafydd, mae'n debyg y byddai Cayo wedi llwyddo.
Disgrifiwyd Cayo gan un cofiannydd fel ffoadur o hen oes y
rhyfelwyr Celtaidd.
Hawdd deall hynny o wybod am ei obsesiwn am
geffylau, a'i gariad at wylltineb mynyddig ei wlad a hanesion hynafol
tywysogaethau ei genedl.
Gellir priodoli ei gariad at geffylau i ddylanwad ei dad-cu ar ochr
ei dad.
Roedd hwnnw'n bridio ceffylau yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer
gwflr meirch byddinoedd y cyfandir a bu'n porthmona gwartheg i
Loegr.
Cefndir breintiedig
Academydd oedd tad Cayo - enillodd radd ddosbarth cyntaf
driphlyg yn Rhydychen a threuliodd 22 mlynedd yn y Gwasanaeth
Sifil yn rhanbarthau canolbarth India fel Cyfarwyddwr Addysg cyn
dychwelyd i Gymru i fod yn athro Mathemateg yng Ngholeg
Llanbedr Pont Steffan.
Trigai nid nepell o'r dref honno yng
Nglandenys, plasty tyredog Gothig yn Silian a fu unwaith yn faenor.
Pan anwyd Cayo - neu, i roi iddo'i enw llawn, William Edward
Julian Cayo Evans - roedd y tad yn dynesu at ei drigain oed, ac
oherwydd y bwlch mewn oedran rhwng y ddau tueddai'r mab i glosio
at ei fam, menyw fonheddig a hardd a dreuliai lawer o'i hamser yn
haul Sbaen oherwydd ei hiechyd bregus.
Drwyddi hi y syrthiodd
Cayo mewn cariad â phopeth Sbaenaidd.
Ei arwr mawr oedd y
Cadfridog Franco, ac roedd hynny'n awgrymu'n gryf ei safbwynt
gwleidyddol.
Treuliodd Cayo gyfnodau mewn ysgolion bonedd, yn cynnwys
Millfield yng Ngwlad yr Haf, ac yn y fan honno, yn bymtheg oed, y
daeth o dan ddylanwad gŵr o Wlad Pwyl, ei feistr tŷ colegol.
gwrth-gomiwnydd, gwrth-imperialydd
Roedd
Yanick Helczman wedi ymladd yn erbyn y Rwsiaid a'r Almaenwyr,
a hwnnw a drodd Cayo yn fileinig o wrth-Gomiwnyddol.
Tyfodd y
teimlad hwnnw wrth iddo dreulio cyfnod ym Malaya yn brwydro
gyda'r South Wales Borderers yn erbyn gwrthryfelwyr
Comiwnyddol.
Sylweddolodd bryd hynny faint o drafferth y gallai
nifer bychan o wrthryfelwyr ei achosi i filoedd o filwyr Prydeinig.
Yno hefyd y cyfarfu â'i Weriniaethwr Gwyddelig cyntaf.
Yn dilyn cyfnod mewn coleg amaethyddol, dychwelodd Cayo i
Landenys i fridio ceffylau Palomino ac Apaloosa gan lwyddo i ennill
sawl gwobr mewn sioeau ceffylau ledled gwledydd Prydain a thu
hwnt.
Tryweryn yn drobwynt
Ac yna, fel y digwyddodd i gannoedd o Gymry ifanc eraill,
trodd Tryweryn ef yn genedlaetholwr digyfaddawd.
Adeg yr agoriad
ar 21 Hydref 1965 gwelwyd aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru - â
Cayo yn eu harwain - yn eu lifrai gwyrdd am y tro cyntaf.
Ychydig ddyddiau cyn yr agoriad holwyd Cayo ar y rhaglen
deledu Heddiw gan Owen Edwards.
Penododd Cayo ei hun yn Gomandant y Fyddin.
Cafodd ef a'i
ddilynwyr eu gwawdio gan rai, ond i eraill daeth Cayo a'i gymrawd
agos, Dennis Coslet, yn destun chwedlau.
Yr hyn a wnaeth Byddin
Rhyddid Cymru oedd agor drws i lawer o Gymry di-Gymraeg
cymoedd y De a deimlent fod drws Plaid Cymru wedi ei gau yn eu
hwyneb.
Broliai Cayo fod ganddo saith mil o ddilynwyr yn y
mynyddoedd. Cryn dipyn o or-ddweud, efallai, ond y gwir amdani
oedd bod ganddo lawer mwy o gydymdeimlad gwerin gwlad nag a
feddyliodd neb.
Daeth tafarndai fel y Llew Du ym
Mhontrhydfendigaid a'r Stag and Pheasant ym Mhont-ar-Sais, yr
Angel yn Aberystwyth a Glan yr Afon yn Nhalgarreg yn
gadarnleoedd i ddilynwyr y Fyddin.
Pan fyddai Cayo yno'n pregethu
neu'n chwarae ei acordion byddai'r tafarndai'n orlawn, a Cayo
fyddai canolbwynt pob cynulliad.
Y gwir fomwyr
Tra oedd Cayo a'i ddilynwyr yn denu holl sylw'r heddlu - agored
a chudd - roedd mudiad cudd MAC (Mudiad Amddiffyn Cymru)
wrthi'n ffrwydro targedau ledled Cymru a thu hwnt.
Yn ddiarwybod
i Fyddin Rhyddid Cymru, roedd ei gweithredoedd yn dargyfeirio
sylw'r heddlu oddi wrth y bomwyr go-iawn.
Wrth i Fyddin Rhyddid
Cymru wneud bygythiadau cyhoeddus, cafodd MAC dragwyddol
heol i weithredu yn y dirgel, ac i Cayo a'i griw yr oedd y diolch am
hynny.
Roedd gan Cayo y ddawn brin honno o fod yn arweinydd greddfol.
Gyda'i gorff lluniaidd, tal, ei wallt claerddu, ei wisg urddasol
henffasiwn a'i lygaid tanbaid, tywyll medrai swyno aderyn oddi ar
gangen.
Roedd ganddo ddawn y cyfarwydd wrth adrodd stori. Roedd
yn sbìn-feddyg cyn i'r term gael ei fathu. O'i gymharu â Cayo,
prentis yw Alastair Campbell.
Llwyddodd i dwyllo'r miloedd am gryfder a gallu Byddin Rhyddid
Cymru, a hynny a'i gwnaeth yn aberth yn y diwedd.
Llwyddodd i
dwyllo'r wasg a'r cyfryngau i'r fath raddau fel iddo ef ac wyth o'i
gymrodyr gael eu harestio a'u cyhuddo, nid o fod yn aelodau o fudiad
anghyfreithlon, fel y cred llawer, ond dan wahanol adrannau o'r
Ddeddf Gyhoeddus.
Carcharwyd Cayo am ddeunaw mis, tynged a
ddaeth i'w ran ar union ddiwrnod yr Arwisgo.
Bywyd wedi'r carchar
Costiodd ei garchariad yn ddrud iddo. Chwalwyd ei briodas a bu'n
rhaid iddo ailadeiladu ei fusnes bridio ceffylau.
Dychwelodd i
Landenys at ei ferch, Dalis, a'i fab, Rhodri. Ni lwyddodd carchar i
ddiffodd fflam gwrthryfel a daliodd i bregethu a tharanu yn gwbl
ddigyfaddawd yn erbyn Imperialaeth Prydain.
Bu farw Cayo ar 29 Mawrth 1995 o effeithiau calon chwyddedig.
Tyrrodd cannoedd o bell ac agos i'w angladd, a hyd yn oed o'i amdo
llwyddodd i dwyllo'r awdurdodau.
Heuwyd y si ar led y câi ergydion
eu tanio dros ei arch yn y traddodiad Gweriniaethol Gwyddelig.
Roedd dwsinau o heddlu cudd ymhlith y galarwyr o gwmpas y bedd,
ac wrth i'r arch ddisgyn yn araf i'r ddaear, camodd dyn ifanc ymlaen
yn cario bocs.
Gosododd y bocs ar y borfa a'i agor. Ai hon fyddai'r
funud fawr? Gwthiodd yr heddlu cudd eu hunain yn nes.
Yna, o'r
bocs, tynnodd y dyn ifanc acordion, ac yno, ar lan y bedd,
chwaraeodd y 'Cuckoo Waltz', hoff alaw Cayo.
Roedd y gŵr a fu'n gymaint o ddraenen yn ystlys y sefydliad yn
farw, ond roedd ei hiwmor yn dal yn fyw.
Hawdd oedd dychmygu
bwrlwm ei chwerthin yn ffrwydro o ddyfnder y bedd.
Lyn Ebenezer