BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Dweud eich Dweud

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r chwith i'r dde, Hywel Jones, Sara Humphreys-Jones a Sebastian ReszDatrys dirgelwch yng Nghwmdu
Mae Sebastian Resz wedi dod i bentref Cwmdu yn sir Gâr o wlad Pwyl i geisio dod o hyd i'r gwirionedd yn hanes marwolaeth ei hen ddad-cu yn y 1950au.
Mae Sebastian Resz yn treulio'r haf yn ardal Cwmdu, er mwyn ceisio datrys y dirgelwch am ddiflaniad sydyn ei hen ddad-cu - y Pwyliad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn Rhagfyr 1953.

  • Cliciwch yma i ddarllen am hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn 1953.

    Gwahoddwyd Sebastian Resz draw i Gymru gan Hywel Jones, un o drigolion y pentref, sydd wedi bod yn ymchwilio i mewn i hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre. Bu ef a Roy Davies yn ymchwilio cyn cyhoeddi llyfr ar y pwnc. Bu Sebastian yn rhannu llety gyda Hywel Jones yng Nghwmdu a gyda Sara Humphreys-Jones yn Llanybyther, cyn iddo gael gwaith mewn cegin tafarn yn Llandeilo.

    Mewn cyfweliad dros y ffôn o gartref Hywel Jones, dywedodd Sebastian Resz:
    "Rydw i'n bwriadu aros yma tan ddiwedd mis Medi oherwydd rwy wedi cael croeso arbennig. Mae Hywel Jones a Roy Davies wedi bod yn cysylltu â mi ar e-bost ac mi wnaethon nhw fy ngwahodd i draw i aros. Rydw i wedi gweld y llefydd lle oedd fy hen ddad-cu yn arfer byw. Rwy'n mwynhau achos mae gennych chi wlad brydferth iawn.

    "Rydw i wedi cael cyfle i siarad gyda llawer o bobl oedd yn adnabod fy hen ddad-cu. Daeth e draw yma ar ôl yr Ail Ryfel Byd a doedd e'n methu dod yn ôl i Wlad Pwyl wedi hynny."

    Meddai Hywel Jones: Criw Newyddion BBC Cymru wedi gwneud eitem am Sebastian Resz"Mae'n hoffi ei arhosiad yn fawr iawn ymhlith y Cymry ac mae'n bwriadu dwyn perswad ar ei famgu a'i fam i ddod draw o wlad Pwyl i Gwmdu ddechrau mis Awst eleni, sef merch ac wyres yng nghyfraith Stanislaw Sykut. Bu criw Newyddion BBC Cymru a chriw Radio Cymru yn adrodd yr hanes yn ddiweddar hefyd."

  • Cliciwch yma i ddarllen am hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn 1953.


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy