| "'Dwi'n enedigol o Gwm Tawe ond cefais ran fwyaf o'm magwriaeth ym Mhontrhydfendigaid. Bum yn athrawes am 25 mlynedd yn rhannol yn ysgolion Rhydfelen a Rhydywaun. 'Dwi'n fam i dri; mab a dwy ferch sydd 'nawr wedi gadael cartref. "Deunaw mis 'nôl cefais swydd gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ei Uned Cofnodion Troseddol. Mae'r Cyngor yn gwasanaethu gwahanol fudiadau gwirfoddol yng Nghymru a gwaith yr uned yw hyrwyddo'r broses o gael Datgeliadau Troseddol o'r CRB yn Lerpwl. Fy ngwaith i yw mynd at y mudiadau a'u dysgu sut i ddefnyddio'r uned yn effeithiol i gael y Datgeliadau gyda'r lleiaf o anhawster. "'Dwi'n teithio De Cymru ac yn cwrdd â phobl anhygoel o roddedig ac yn cael croeso mawr oherwydd fod pawb wedi drysu'n llwyr am ofynion y pwnc llosg yma. Gobeithiaf fy mod yn gwneud pethau yn gliriach a bod y mudiadau yn cael bywyd yn haws oherwydd bodolaeth ein huned ni. Hobi'r teulu "Pan gwrddais â fy ngŵr, mewn twmpath ddawns, dywedodd ei fod yn aelod o'r Sealed Knot. Gwyddwn am y Sealed Knot fel mudiad cyfrinachol yn ystod rheolaeth Oliver Cromwell oedd yn gweithio i ddod â Siarl II yn ôl i ber a gofynnais ddim rhagor am y mudiad. Cynigiais 'lifft' ychydig o ddiwrnodau'n ddiweddarach a phan agorais y drws dyna lle yr oedd yn ei wisg C17 a'i gleddyf ar draws ei bac!! "Wythnos ar ôl hynny es i frwydr yn Northampton gydag e' a thri mis wedyn priodon ni. Magwyd y merched yn y Knot ac 'roeddent yn galw eu gwisgoedd C17 yn 'wisg gwersylla'! "Diddordeb y gŵr a'r ferch Eiluned yw brwydro. Mae'r milwyr yn defnyddio'r drefn ar gyfer brwydro a ddefnyddiwyd yn y C17 a hyd yn oed yn chwarae'r un gemau dis a chardiau â milwyr y C17. Bu'r ddau yn bicellwyr ar un cyfnod ond mae'r gŵr 'nawr yn fysgedwr ac Eiluned yn cario negeseuon rhwng y swyddogion sy'n rheoli'r frwydr. Cyn gadael am y brifysgol 'roedd Anwen yn ddrymiwr. Rhaid i'r merched gwisgo fel dynion wrth gwrs - ychydig o fenywod oedd yn dilyn y fyddin yn y C17. "Fy niddordeb i, fel sawl un arall, oedd hanes gwisg a chrefftau gwledig. Gwnawn dipyn o ymchwil ar y pwnc rhyngddom a ry'm ni'n falch i rannu'r wybodaeth gyda recriwtiaid newydd a'r cyhoedd. Mae Steve o Abertridwr wedi ymchwilio hanes sbectolau ac wedi gwneud rhai cywir i'r cyfnod ar gyfer llawer o ffrindiau. "Mae Nic o Bontypridd wedi gwneud set o offer deintydd/llawfeddyg sy'n hel ofn / denu unrhyw blant sy'n ymweld â ni! Mae eraill wedi ymchwilio ryseitiau'r cyfnod, ymarfer gwneud cannyllau gwêr a chŵyr, troelli gwlân a llaw a defnyddio dulliau ac offer cywir ar gyfer gwau a gwnïo. Mae rhai yn gwersylla mewn pebyll cywir i'r cyfnod ac yn bwyta bwyd yr C17 ond 'dwi'n hoff o fy ngharafán fodern ar gyfer y nos, yn enwedig os yw'n wlyb ac mae'r stôf nwy yn haws na than coed! "'Ry'n ni'n brwydro dros y wlad ac mae rhai yn mynd i'r cyfandir ac i'r Unol Daleithiau. Mae'n ffordd dda o gwrdd a chymysgedd o bobl o bob math.
 |