BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Butetown a Bae Caerdydd
Yr argaeY Corsydd a'r Argae
Cerddwch ar hyd y llwybr trwy faes parcio gwesty St david's Hotel and Spa, tan i chi ddod ar draws cerflun efydd o gwlwm raff. O'r fan hon gallwch gario ymlaen at y corsydd.
Roedd adeiladu'r argae i greu 'llyn dŵr croyw' yn elfen allweddol yn y cynlluniau i ail-ddatblygu Bae Caerdydd.

Mae'r argae yn cronni ceg yr afonydd Taf a'r Elai gan greu llyn dŵr croyw 200 hectar a darparu 13km o lan y dŵr.

Er yn atyniadol roedd yna dipyn o wrthwynebiad i'r cynlluniau gan drigolion lleol a ofnai y byddai'r argae yn codi lefel naturiol y dŵr yng Nghaerdydd ac achosi tai i orlifo.

Bu'n rhaid cael pump mesur tan i'r Senedd ganiatáu'r ddeddf fyddai'n arwain y ffordd ar gyfer ailddatblygiad. Cyn gorlifo'r Bae yn 1999, fflatiau llaid a morfeydd heli oedd yr ardal, gyda llanw afon Taf yn cyrraedd Blackweir, i'r gogledd o ganol y ddinas.

Mae diflaniad dŵr y môr o'r Bae wedi newid y cynefinoedd sydd ar gael i'r planhigion a'r ffawna i ffynnu. Cyn hyn roedd yr ardal yn gartref i boblogaeth fawr o adar y dŵr ac adar hirgoes; arferai heigau o fingryniaid wneud eu ffordd i fyny'r afon mor bell â gwrthglawdd Parc Bute.

Mae adar y dŵr ac adar hirgoes wedi adleoli i ardaloedd wedi'u diogelu gerllaw megis gwarchodfa cronfa lefelau Gwent tu allan i Gasnewydd.

Mae rhai rhywogaethau megis llyriad y môr a glaswellt spartina wedi goroesi'r newidiadau ond mae lefel cyson y dŵr wedi disodli'r parth rhynglanw, fuasai wedi cefnogi nifer o rywogaethau.

Mae cynllun wedi cychwyn i hybu samwn, sewin a brithyllod môr nôl i'r Taf i fagu, gan gynnwys rhodfa bysgod - y mwyaf yn Ewrop - yn yr argae ei hun.

  • Yn ôl i gychwyn y daith


  • Caerdydd
    Cynulliad Cenedlawthol Cymru


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy