BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pontypridd
Tai y CymoeddDweud Eich Dweud
Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud am dref Pontypridd. Ymunwch yn y drafodaeth trwy lenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen hon.
Dai Edwards o Bontypridd
Dw i'n enedigol o Bontypridd ac wedi byw yn yr ardal trwy gydol fy oes. Mae atgofion melys iawn o'm mhlentyndod a'm harddegau wrth i mi dyfu lan yn yr ardal.

Dw i'n cofio dyddiau hir yr haf ym mharc Ynysangharad, yn chwarae pêl-droed a chriced gyda'm ffrindiau ac wrth gwrs ar yr adeg hynny roedd yna siawns i ni i fynd i nofio yn y 'baths' awyr agored.

Erbyn hyn, dw i wedi troi'n ddeg ar hugain gyda gwraig a dwy ferch fach ac mae'n destun tristwch mawr i fi bod safon y dref, o ran cyfleusterau, wedi dirywio cymaint yn y pymtheg i ugain mlynedd diwethaf, fel bod yna bron ddim byd i'r bobl ifanc i wneud yng nghanol y dref.

Mae safon y farchnad, a oedd ar un adeg yn enwog ar hyd a lled y wlad, yn warthus ac yn edrych yn frwnt. Yn y gorffennol roedd bron pawb o'r cymoedd yn gwneud pwynt o ddod i'r farchnad bob bore Sadwrn ac yr yr adegau hyn, prin iawn oedd dyn yn gallu symud oblegid y tyrfaoedd. Roedd y lle yn llawn bywyd ac yn faethu awyrgylch dinesig bron a bod.

O ran dirywiad y dref, mae yna nifer o bobl sy' wedi ein cynrychioli ni ar y Cynghorwyr lleol ac sy' wedi ein cynrychioli ni yn San Steffan a'r Cynulliad wedi gwneud cam â'r dref, eu pobl a'r genedl sydd i ddod trwy beidio a gwneud digon i atal yr hyn sy wedi digwydd i'n tref dros y blynyddoedd diwethaf yma. Mae yna dyletswydd arnom ni hefyd, fel aelodau'r cyhoedd i wneud yn siŵr fod safon y dref yn codi ac mae'n rhaid i ni hefyd rhoi pwysau ar y rhai sy'n ein cynrychioli ni yn y goridorau grym, i ddechrau gweithio gyda'i gilydd i ddod i ryw gytundeb ar sut i symud y dref ymlaen a'i llusgo i fewn i'r ganrif bresennol.

Dw i'n falch i weld erbyn hyn, fod pethau wedi symud ymlaen i raddau helaeth. Er enghraifft gweler bod 'Alfred's' a'r 'Oriental Buffet' a'r 'Wetherspoons' newydd ar y Tymbl, wedi profi i fod yn bwytai a llefydd cymdeithasol poblogaidd iawn. Ac wrth gwrs, cynhaliwyd cyngerdd 'Tom Jones' yn y parc a phrofodd hyn i fod yn llwyddiannus iawn yn ariannol.

Y sibrydion ydy bod yna nifer o gyngheddau o'r fath ar y gweill. Fel y gwelwn, gall fod dyfodol llewyrchus i'r dref ymhob ffordd, os fagir yr ewyllys iawn ymhlith pawb sy'n gysylltiedig â'r dref a phawb sy'n caru'r dref hon a'r rhinweddau a sefydlodd y dref hon fel un o drefi pwysica Cymru yn y dyddiau a fu.
Dai Edwards o Bontypridd, Mehefin 2005

Ydych chi'n cytuno neu yn anghydweld â sylwadau Dai? Oes gennych chi unrhyw sylwadau arall i wneud am eich tref chi? Dyma eich cyfle chi i gyfrannu, a dweud eich dweud am eich Ponty chi. Llenwch y ffurflen isod.


Cyfrannwch

Ieuan Bennett o Bontypridd 2006
Mae Pontypridd yn tref hyfryd a mae eisiau cadw e fel hyn. A mae eisiau newid y canol y dref, mae gyd yn aroglu o oil.

Alicia o Bontypridd
Y mae Pontypridd yn ardal hyfryd ond hoffwn i weld mwy o siopau yn y ganol. Negyddol: Mae yn fudur iawn a yn aml mae canol y dref yn aroglu.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Chwaraeon
Elusennau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy