Ganed Clwb Rygbi Pontypridd ym 1876, yn un o'r naw clwb gwreiddiol a ffurfiodd Undeb Rygbi Cymru. Yn y dyddiau cynnar, bu chwaraewyr fel Edward Treharne a Tom Williams yn cynrychioli eu gwlad ar ran y clwb, a oedd yn bur nomadaidd ar y pryd, yn symud o Barc Taff Vale, i'r People's Park ac yna i faes Parc Ynysangharad ym 1904.
Yn ôl adroddiadau'r cyfnod, yr oedd Clwb Pontypridd wedi'r Rhyfel Mawr, "heb gartre, heb git ac heb ddime goch i'w henw." Bu nifer o wirfoddolwyr yn ddygn iawn yn eu hymdrechion i gadw'r clwb yn fyw, er iddo am amser byr newid ei enw i Pontypridd United. Ar y cyfan, clwb anffasiynnol oedd Ponty ar y pryd, gyda chlybiau mawr Cymru yn anfoddog i chwarae gemau yn eu herbyn.
Parhau i gynhyrchu talent ifanc lleol wnaeth y clwb trwy'r cyfnod anodd hwn a barhaodd tan bedwardegau'r ganrif ddiwethaf. Un o'r bechgyn ifanc a gamodd i'r adwy i chwarae dros Ponty tra'n dal yn ddisgybl yn ysgol ramadeg y dre oedd y maswr Glyn Davies. Enillodd un-ar-ddeg cap dros Gymru rhwng 1947 - 1951, y cyntaf tra'n ei arddegau, ac fe'i cydnabyddir fel seren gyntaf clwb Pontypridd.
Yn ystod y pumdegau cynnar, daeth crwt lleol arall i'r amlwg, sef yr wythwr Russell Robins, a gynrychiolodd y Llewod Prydeinig yn Ne'r Affrig ym 1955, gan ennill clod am ei ddoniau a chwyldrodd chwarae rheng ôl y cyfnod.
Capteiniaid disglair y 1960au
Parhaodd clwb Pontypridd i fagu hyder, gan fwynhau cyfnod euraidd yn y chwedegau cynnar, gan sicrhau'r bencampwriaeth gydag Eddie Jones fel capten. Parhau i gynhyrchu chwaraewyr dygn a disglair o'r gymuned leol wnaeth y clwb, gyda'r blaen asgellwr rhyngwladol Tommy David yn capteinio Ponty i lwyddiant pellach, a'r anghymharol Bob Pemberthy yn chwarae 877 gêm dros y clwb.
Erbyn 1974 roedd Pontypridd wedi canfod cartref newydd ar Heol Sardis, a adwaenid yn lleol fel "Dan's Muckhole" sef safle hen waith glo ar gyrion y dre. Yr oedd y clwb erbyn hyn wedi ennill parch fel un o gystadleuwyr blaenaf y genedl, gan ennill pencampwriaeth y Western Mail dair gwaith o fewn chwe thymor, a'u llwyddiant yn cael ei ddathlu gan gefnogwyr brwd a lluosog o'r cymoedd. Deuai timoedd rhyngwladol fel Awstralia a Samoa yn awr i herio Pontypridd ar eu teithiau, a mwy a mwy o chwaraewyr y clwb yn ennill clod rhyngwladol.
Arwyr y clwb
Daeth oes aur arall i ran Ponty yn y nawdegau, dan hyfforddiant Dennis John a Lynn Howells, a gyda maswr Cymru a'r Llewod Neil Jenkins yn eicon i'r tîm. Cipiwyd Cwpan Cymru ym 1996, y bencampwriaeth ym 1997 a'r gwpan eto yn 2002. Roedd Ponty erbyn hyn yn glwb a hawliai barch ar y llwyfan Ewropeaidd, gan sicrhau buddugoliaethau dros rai o gewri'r gêm fel Leicester, Saracens a Munster, a'u brwydrau di-gyfaddawd yn erbyn Brive yn ennill statws chwedlonol. Daeth cenhedlaeth newydd o arwyr i gynrychioli'r clwb, rhai fel Paul John, Dale McIntosh, Martyn Williams, Rob Sidoli a Gethin Jenkins, a wnaeth hefyd wisgo crys coch eu gwlad.
Ail-strwythuro
Yr oedd y system academi a luniwyd gan y cyn-hyfforddwr Clive Jones yn hynod bwysig i lwyddiant y clwb, gan gynhyrchu torreth o dalent ifanc o'r cymoedd a aeth ymlaen i gynrychioli Pontypridd a Chymru. Pan ail-strwythurwyd rygbi Cymru yn 2003, gellid disgwyl mai academi o'r fath fyddai cynsail y drefn newydd, ond gwthiwyd Pontypridd, ac yna rhanbarth y Celtic Warriors, i'r neilltu gan Undeb Rygbi Cymru. Erbyn hyn clwb eilradd yw Ponty, yn bwydo ei dalentau i ranabarthau proffesiynol eraill, ac yn rhan o ranbarth Gleision Caerdydd. Nid yw'r drefn newydd wedi ennill sêl bendith cefnogwyr rygbi selog y cymoedd, a dweud y lleiaf!
Parhau i ennill llwyddiant y mae clwb Pontypridd, gan gipio Cwpan Cymru yn 2006, ac yn dal i gynhyrchu chwaraewyr i dîm dan 21 Cymru, cenhedlaeth newydd o dalent lleol fel Dafydd Lockyer, Duane Goodfield, Scott Roberts a Rhys Shellard. Tra'n datblygu sêr y dyfodol ar gyfer eraill, byw mewn gobaith y mae Pontypridd y gallant unwaith eto, ryw dydd, hawlio eu lle haeddiannol ymysg goreuon Cymru ac Ewrop.