BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pontypridd
AnweddusAnweddus ar GTFM
James Saunders, aelod o'r grŵp Anweddus yn sôn am gig arbennig ar orsaf radio GTFM yn ardal Pontypridd.
Cefndir y band
Daeth y band at ei gilydd yn gyntaf wrth i ni gyfarfod mewn gig yn y Miwni ym Mhontypridd. Gofynnodd Chris a Huw, dau aelod o'r band, i fi ganu iddynt am un noson ar gyfer y gig yma oherwydd doedd dim canwr gyda nhw, felly wnes i'r gig, ac roeddwn i yn hoffi'r ffordd roedd y tri gitâr yn swnio gyda'i gilydd, ac roedden ni i gyd yn gallu chwarae'n iawn gyda'n gilydd ac yn teimlo'n gyfforddus.

Gofynnais i Daffy ymuno â ni hefyd i chwarae'r drymiau a dyna sut daeth y band "Naked Threat" at ei gilydd.

Am dipyn roedden ni yn ymarfer yn Ngwesty'r Pengelli yn Nhreorci, ac yn y cyfamser mwynhaodd y band chwarae mewn tafarnau lleol. Hefyd cawson ni y cyfle i chwarae yn y Ffatri Bop mewn noson 'Teen Spirit' yn chwarae covers caneuon bandiau fel Stereophonics, Green Day a Feeder. Rydyn ni hefyd yn ysgrifennu caneuon ein hunain ond doedd dim cymaint ohonyn nhw gyda ni ar y pryd felly doedden ni ddim yn defnyddio nhw gymaint â'r covers.

Wedi i Chris adael y band, gofynnon ni i Aeddan ymuno â'r band yn chwarae'r gitâr bâs. Ar ôl i Aeddan ymuno â ni wnaethon ni gystadlu ym Mrwydr y Bandiau a dyna pryd benderfynon ni ar yr enw Anweddus!

Ar hyn o bryd, rydym yn dal i chwarae gigiau lleol gyda chefnogaeth Menter Iaith Rhondda Cynon Taf a CIC (Cynllun Ieuenctid y Cymoedd) ac rydym yn ymarfer yn neuadd yr ysgol (Ysgol y Cymer) yn lle Gwesty'r Pengelli. Trwy weithio mor agos â CIC cawson ni gyfle i wneud set fyw a chwarae gig yng nghlwb y Bont ym Mhontypridd yn ystod gig CIC ar noson Ieuenctid Parti Ponty.

Hefyd cawsom y cyfle i chwarae ar brif lwyfan Parti Ponty yn y Parc ar y dydd Sadwrn, a dyna ble wnaeth un o'r dynion ofyn i ni wneud sesiwn fyw ar GTFM ym Mhrifysgol Morgannwg (gorsaf radio leol sy'n darlledu yn achlysurol yn ardal Pontypridd.)

Perfformio gig ar Radio GTFM
AnweddusArhoson ni am y cyfle am sbel fach oherwydd doedden ni ddim yn gallu penderfynu ar dyddiad i chwarae yn y stiwdio - ond o'r diwedd daethom ni at ein gilydd i chwarae yno. Roedd problem fach wedi codi oherwydd roedd Aeddan methu cyrraedd y gig, felly roedd rhaid chwarae gyda dim ond tri pherson sef, James Saunders- gitâr a llais, Huw Bolderson- gitâr bâs a Dafydd Boyle - drymiau. (Fel arfer mae Aeddan ar gitâr bâs a Huw ar gitâr trydan.) Gofynnon nhw gwpwl o gwestiynau yn y stiwdio am y band, fel sut daethom at ein gilydd, habits gwaethaf a pha fath o straeon doniol sydd gennym fel band.

Ar y noson roedden ni tipyn bach yn hwyr oherwydd wnaethon ni anghofio cwpwl o bethau! Roedd yn rhaid nôl symbals, hefyd wnaethon ni anghofio'r pedal am y drwm bas! Yn y diwedd roedd yn rhaid defnyddio bocs a rhoi mic o dan ac roedd yn rhaid i Daffy gicio'r bocs er mwyn i ni gael pedal am y drymiau! Doedd dim problemau technegol ar y noson heblaw am un gân, wnaethon ni chwarae "The Bartender and the Thief" gan Stereophonics, a wnaeth gwifren y gitâr bâs gael ei thynnu allan o'r amp ar ddamwain ac am hanner y gân roedd dim ond y gitâr trydan yn chwarae! Yn ddoniol iawn ar y pryd!

Roedden ni yn teimlo yn eithaf hapus am y noson, roedd y profiad o chwarae yn fyw ar y radio yn wych! Rydyn ni wir eisiau gwneud e 'to. Roedd popeth yn mynd yn wael ar ddechrau'r noson, ond wnaeth popeth weithio allan yn y diwedd, ac wrth edrych yn ôl ar y noson y bore wedyn roeddwn i'n hapus iawn gyda'n perfformiad. Byddaf wir yn hoffi cael y cyfle eto.

Bydd y band yn cario ymlaen nes i ni redeg allan o bethau i ganu, ond ni fydd hyn yn digwydd oherwydd rydym yn bwriadu parhau i ysgrifennu caneuon ein hunain!

Mae'n eithaf caled i gael y band at ei gilydd adeg yma yn ein bywydau oherwydd mae Daffy yn y Brifysgol ac mae Huw yn brysur yn astudio tuag at ei Lefel A yn yr ysgol, fel fi, a hefyd rydw i yn byw yn eithaf pell i fwrdd ym Mhorthcawl!

Diolch yn fawr am eich holl cefnogaeth!

Gwrandewch ac edrychwch allan amdanom ni ar wefan CIC a Menter Iaith am gigiau sy'n dod i fyny!

Gan: James Saunders

Darparwyd yr erthygl hon i wefan Lleol fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion sut fedrwch chi gael £30 am ysgrifennu - cliciwch yma.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lluniau
Chwaraeon
Elusennau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy