BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eisteddfod Genedlaethol
Leigh MasonCwmni dwyieithog bachgen lleol
Doedd Leigh Mason o Bentre'r Eglwys, erioed wedi bod mewn Eisteddfod Genedlaethol tan iddo droedio i faes Casnewydd ym mharc Tredegar yn 2004.
Yn fachgen o dde ddwyrain Cymru, roedd yn falch o gael y cyfle i ddod i'r ŵyl i'w chefnogi, ac ar yr un pryd cael lansio ei gwmni dwyieithog newydd.

Mae Leigh, sy'n 30 oed wedi cychwyn busnes gwelliannau'r tŷ 'Dream Style', yn cydosod dodrefn a chynnyrch wedi eu pacio'n fflat, teilio, ffensio a chynhaliaeth cyffredinol.

Gallodd gychwyn ei fusnes yn ddwyieithog diolch i help prosiect Potentia Menter a Busnes. Nod y prosiect yw annog siaradwyr Cymraeg i feddwl am ddechrau busnes a rhoi help cynnar ac ymarferol iddyn nhw i wneud hynny. A dyna'n union gafodd Leigh Mason, meddai.

"Mi wnes i lansio'r cwmni gyda help Potentia Menter a Busnes," meddai ar faes yr Eisteddfod.

"Mae Menter a Busnes wedi fy helpu gyda'r graphic design a help efo gwybodaeth am redeg busnes, fel gyda tax a phethau fel 'na. Bydden i ddim wedi gallu lansio'r cwmni yma yn ddwyieithog heblaw am yr help ges i gan Potentia," meddai.

"Dyma'r tro cyntaf i fi ddod i'r Eisteddfod, mae'n fawr iawn yma a dw i ddim wedi cael cyfle i edrych o gwmpas eto, ond mi fydda i'n mynd pan fydd amser gen i."

"Dw i'n meddwl bod e'n beth da iawn bod cymaint o bobl lleol yn dod yma i gefnogi ac i weld beth yw'r Eisteddfod."

Awst 2004


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy