Lloyd Collins o Dreharris
Rwy'n hoffi mynd i Aberdar neu Aberpennar am noson allan. Llawer o tafarndau a pobl.
Michael Colston o Aberfan
Y Market Tafarn a juges yw lefydd da i fynd am nos allan yn aberdare, wastad yn llawn pobl efo awyrgylch cyfeillgar a cerddoriaeth da. Wastad yn amser dda !!
Steffan H. Ellis o Ystum Taf, Caerdydd
Y Priory yng Nghaerllion am noson arbennig, neu draw at Dafarn y Rheilffordd yn Ystum Taf. Does 'na ddim byd spesial am y lle, ond rwy'n joio'r cwmni.
Geraint o Cathays, Caerdydd
Mae tafarn y Goat Major (Heol Fawr, gyferbyn a'r Royal Bank of Scotland) yn le da i fynd am beint a sgwrs mewn awyrgylch Gymreig yng nghanol y ddinas, boed ar benwythnos neu ynghanol yr wythnos. Mae na grwpiau Cymraeg yn chwarae yna o bryd i'w gilydd hefyd.
Beth o Grangetown, Caerdydd
Am noson dawel-ish gwell sticio at dafarn leol, ond am noson yn y dref - mae Ha Ha's, Sugar a Cafe Floyd yn enwedig wastad yn plesio!
Sian Couch o Lanisien, Caeryddd
Cor Caerdydd, Canolfan yr Urdd, Canolfan y Mileniwm. Cantorion o bob oed yn cael hwyl ac yn teithio ledled y wlad. Ymunwch yn yr hwyl ar nos Fercher am 8pm