BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eich Bro
Baneri CymruY dyfodol
Beth ydy eich gofidiau a'ch gobeithion am ddyfodol yr ardal?
Sian Couch o Lanisien, Caerdydd
Bod siaradwyr Cymraeg yn symud o'r ardal, a mewnfudwyr o Loegr yn symud i fewn.


Cyfrannwch

Steffan H. Ellis o Ystun Taf, Caerdydd
Gobeithion: Mwy a mwy o blant yn defnyddio'r Gymraeg, mwy o ymwelwyr yn dod i werfawrogi ein etifeddiaeth a hanes.
Gofidiau: Mwy o mwy o dai yn dinistrio'r cefn gwlad, y Wenhwyseg yn marw a'r teimlad o berthyn i gymuned yn diflannu.

Dai Edwards o Bontypridd
Dw i'n enedigol o Bontypridd ac wedi byw yn yr ardal trwy gydol fy oes. Mae atgofion melys iawn o'm mhlentyndod a'm harddegau wrth i mi dyfu lan yn yr ardal.

Dw i'n cofio dyddiau hir yr haf ym mharc Ynysangharad, yn chwarae pêl-droed a chriced gyda'm ffrindiau ac wrth gwrs ar yr adeg hynny roedd yna siawns i ni i fynd i nofio yn y 'baths' awyr agored.

Erbyn hyn, dw i wedi troi'n ddeg ar hugain gyda gwraig a dwy ferch fach ac mae'n testun tristwch mawr i fi bod safon y dref, o ran cyfleusterau, wedi dirywio gymaint yn y pymtheg i ugain mlynedd diwethaf, fel bod yna bron dim byd i'r pobl ifanc i wneud yng nghanol y dref.

Mae safon y marchnad, a oedd ar un adeg yn enwog ar hyd a lled y wlad, yn warthus ac yn edrych yn frwnt. Yn y gorffennol roedd bron pawb o'r cymoedd yn gwneud pwynt o ddod i'r farchnad bob bore Sadwrn ac yr yr adegau hyn, prin iawn oedd dyn yn gallu symud oblegid y tyrfaoedd. Roedd y lle yn llawn bywyd ac yn faethu awyrgylch dinesig bron a bod.

O ran dirywiad y dref, mae yna nifer o bobl sy wedi ein cynrychioli ni ar y cynghorion lleol ac sy wedi ein cynrychioli ni yn San Steffan a'r cynulliad wedi gwneud cam ar y dref, eu pobl a'r genedl sydd i ddod trwy beidio a gwneud digon i atal yr hyn sy wedi digwydd i'n tref dros y blynyddoedd diwethaf yma. Mae yna dyletswydd arnom ni hefyd, fel aelodau'r cyhoedd i wneud yn siwr fod safon y dref yn codi ac mae'n rhaid i ni hefyd rhoi pwysau ar y rhai sy'n ein cynrychioli ni yn y goridorau grym, i ddechrau gweithio gyda'i gilydd i ddod i ryw gytundeb ar sut i symud y dref ymlaen a'i llusgo i fewn i'r ganrif bresennol.

Dw i'n falch i weld erbyn hyn, fod pethau wedi symud ymlaen i raddau helaeth. Er enghraifft gweler bod 'Alfred's' a'r 'Oriental Buffet' a'r 'Wetherspoons' newydd ar y Tymbl, wedi profi i fod yn bwytai a llefydd cymdeithasol poblogaidd iawn. Ac wrth gwrs, cynhaliwyd cyngerdd 'Tom Jones' yn y parc o fewn y pythefnos diwethaf a phrofodd hyn i fod yn llwyddiannus iawn yn ariannol.

Y sibrydion ydy bod yna nifer o gyngheddau o'r fath ar y gweill. Fel y gwelwn, gall fod dyfodol llewyrchus i'r dref ymhob ffordd, os fagir yr ewyllys iawn ymhlith pawb sy'n gysylltiedig â'r dref a phawb sy'n caru'r dref hon a'r rhinweddau a sefydlodd y dref hon fel un o drefu pwysica Cymru yn y dyddiau a fu.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Digwyddiadau
Tywydd
Caerdydd


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy