Ac ar y diwrnod arbennig hwn ar 29 Hydref, fe gafwyd gwledd o ddathlu a lliw yn nheml Shree Swaminarayan yn Grangetown yn y brifddinas. Holl bwrpas yr ŵyl hynafol yw dathlu a diolch am oleuni a chyfoeth. Mae'r traddodiad hwn yn dyddio nôl i adeg pan fyddai amaethwyr yn tyfu cnydau ac yn dathlu diwedd y cynhaeaf gyda phryd arbennig o fwyd.
Wrth fentro i'r deml fawr ddeniadol hon ar gyrion y ddinas, roedd naws hudolus yn perthyn iddi, er ei bod hi ar stryd ddigon cyffredin. Ar yr olwg, roedd hi'n adeilad arferol heb fawr o urddas yn perthyn iddi. O edrych yn fanylach, ac ychydig i'r awyr, roedd modd gweld tair cromen ar ben yr adeilad. A'r rhain sy'n ei gwneud hi'n adeilad mor arbennig. Hon yw'r gyntaf o'i math yng Nghymru.
A chyn ddoe, dyna'r cyfan a welais i erioed o unrhyw deml Hindwaidd. Roedd y cyffro'n cynyddu ac yn cynyddu wrth fentro trwy'r drws a chamu i gyntedd fawr agored, a murluniau o'm cwmpas. Yna, draw i'r ardal tynnu esgidiau. Mae hon yn ddefod angenrheidiol i'r crefydd Hindwaidd. Ac felly, mentro trwy'r drws yn fy hosannau. A chael fy ngwrthod. Ond pam?
Buan y sylweddolais i fod yna ddau ddrws yn mynd i'r brif neuadd. Un i'r dynion ac un i'r menywod. Fe ges i esboniad o hyn gan un o'r addolwyr. Rhan bwysig o'r crefydd yw ffocysu'r meddwl cyn mynd i weddïo, ac felly, byddai cymysgu gyda menywod (neu ddynion o safbwynt menywod) yn esgor ar feddylfryd o chwant. Cyn gweddïo, rhaid gwaredu ar syniadau chwantus, cenfigennus a barus. I mewn â fi, wrth fy modd gyda'r esboniad.

Roeddwn i'n gegrwth wrth fentro i'r neuadd fawr a gweld yr holl liw. I'r chwith, roedd yr allor fawr yn llawn ffrwythau, llysiau a chacennau o bob lliw. Roedd yr olygfa'n debyg i ffilm Bollywood ystrydebol. Ond nid ystrydeb oedd yr holl liw, wedi'r cyfan.
Yn gefndir i'r lliwiau llachar a'r oglau hyfryd yn dod o gyfeiriad yr allor, roedd yna grŵp o gerddorion talentog yn gyfeiliant i'r ysgrythurau a oedd yn cael eu llafarganu.
O dro i dro, byddai'r gynulleidfa'n ymuno yn y llafarganu i ddiolch i Swaminarayan a Lakshmi, dau o dduwiau pwysicaf y crefydd.
Fel y soniais eisoes, mae gweddïo a'r dull o weddïo yn sylfaenol i'r ffydd Hindwaidd. Yn ystod y seremonïau a'r anerchiadau, cafwyd cyflwyniad gan rai o blant y deml.
Mae'r dull arferol o weddïo yn golygu gorwedd ar lawr, gydag wyth rhan o'r corff yn cyffwrdd â'r llawr - y dwylo, y ddau benelin, y pengliniau a'r traed. Mae'r cyfan yn dechrau ar gerdded, wedyn gorwedd ac ailadrodd y broses hon hyd nes y bydd holl egni'r corff wedi ei ildio i'r Arglwydd.
Roedd yn well gan ryw rai gerdded o amgylch yr allor, yn rhoi egni i'r holl arglwyddi yr oedd modelau ohonynt arni. Yn ystod y cyfnod o 'raas', sef gweddi bersonol, roedd un o ffyddloniaid y deml wedi ymroi yn llwyr wrth gerdded o amgylch yr allor am dri chwarter awr yn ddi-derfyn. Ar ochr arall y neuadd, roedd y menywod yn cyd-weddïo wrth gerdded law yn llaw mewn cylch o amgylch canwyllau.
Fe ddaeth Prif Weinidog Cymru i ymuno yn y dathliadau, gan gyflwyno rhoddion i'r bechgyn a fu wrthi'n dysgu mamiaith eu cyndadau, Gujurati.
Fel rhan o'r grant a dderbyniodd y deml ddwy flynedd yn ôl gan y Cynulliad, fe ddechreuwyd cynnig y gwersi, wrth agor cyfleusterau'r addoldy i'r gymuned.
Fe dderbyniodd y merched eu rhoddion gan y Cynghorydd lleol, Francesca Montemaggi yr ochr arall i'r rhaniad yn yr ystafell. Fe gafodd y ddau 'bindi' coch ar eu pennau wrth fentro i'r deml, yn ogystal â garlant o flodau melyn o amgylch eu gyddfau.
Yn ei araith, fe bwysleisiodd Prif Weinidog Cymru bwysigrwydd bywyd aml-ddiwylliannol yng Nghymru, a gwerthfawrogi diwylliannau eraill. Meddai,
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni bara i sefydlu ac i gadarnhau'r egwyddor ein bod ni i gyd yn gallu mwynhau gwyliau crefyddol a chymunedol sydd gyda ni yng Nghymru nawr".
Fe dynnodd ar y tebygrwydd hefyd rhwng y diwylliant Cymreig ac Asiaidd, gan gofio'n ôl at ddechreuadau addysg Gymraeg dri chwarter canrif yn ôl.
"Mae'n od bod yna'r parallel gyda'r ffordd ddechreuodd addysg Gymraeg a dechrau sefydlu'r gwersi Gujurati yma yn y deml i'r plant ifanc yn Grangetown i gael dysgu am eu treftadaeth".
Fe fwynhaodd y gwahoddedigion wledd o gerddoriaeth a dawns, wrth i'r bechgyn ifanc arddangos dawns draddodiadol o ranbarth Kutch yn yr India i gyfeiliant drymiau ac offerynnau taro Asiaidd.
Yn ystod yr 'Aarti', sef cyfnod o ddiolchgarwch i'r Arglwydd Lakshmi, fe aeth plat arian o amgylch y neuadd, ac fe berfformiwyd y ddefod o fendithio'r holl gynulleidfa drwy wasgaru'r fflamau'n symbolaidd uwch eu pennau. Ar ddiwedd y ddefod, ailadroddwyd y cyfan o flaen yr arglwyddi i'w bendithio hwythau.
Ac mewn unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol Asiaidd, mae'r arlwy o fwyd yn syfrdanol. A doedd y digwyddiad hwn yn ddim gwahanol. Fe baratowyd platiau enfawr o fwyd i'r sawl a oedd wedi aros am y 'pooja' ar ddiwedd y noson, gyda llu o ddanteithion melys a sawrus a oedd yn fwy o wledd na honno i borthi'r pum mil.
Gyda'r holl ddefodau crefyddol ar ben, y cyfan a oedd ar ôl oedd y tân gwyllt. Doedd y tywydd garw ddim yn ddigon i wlychu brwdfrydedd y gynulleidfa, gyda rhai yn mentro allan, a'r gweddill yn aros yn y brif neuadd i edrych drwy'r ffenest. Roedd y cylchoedd tân cochion a gwyrddion yn weladwy am filltiroedd o amgylch y deml.
Diwrnod cofiadwy iawn oedd hwn, ac mae'n siŵr y bydda i'n awyddus i ddathlu Diwali unwaith yn rhagor y flwyddyn nesaf. Diwali Hapus a Blwyddyn Newydd Dda 2065 i bawb!