LLUN 29 HYDREF - IAU 1 TACHWEDD
Gweithdy Straeon Digidol
Canolfan Fenter Llynfi
9.30am-5.30pm Hoffech chi ddweud eich stori mewn ffordd newydd a chyffrous? Bydd y tîm Cipolwg ar Gymru yn cynnal gweithdy Saesneg pedwar diwrnod lle gallwch chi greu eich stori ddigidol eich hun. Am fanylion ar sut i gymryd rhan, ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru. Dyddiad cau: Dydd Iau 18 Hydref MERCHER 31 HYDREF
The Sarah Jane Adventures - Dangosiad Neuadd y Dref Maesteg Drysau'n agor am 2pm Dechrau am 2.30pm Ymunwch â ni am ddangosiad arbennig o The Sarah Jane Adventures, cyfres ddrama newydd CBBC gan y tîm a greodd Doctor Who.
Wrth i hen gyfaill y Doctor, Sarah Jane, ymuno â Maria, Luke a Clyde, mae'r pedwar yn wynebu byd o berygl ac angenfilod o'r gofod. Mynediad trwy docyn yn unig. Ffoniwch 08700 13 18 12 GWENER 9 TACHWEDD
Maesteg Lives
BBC 2W
7-7.30pm Blas o fywyd Maesteg trwy lygaid y trigolion. SADWRN 17 TACHWEDD
Big Welsh Challenge - Diwrnod y Dysgwyr
Coleg Maesteg
9.30am Os ydych yn newydd i'r iaith neu am wella eich Cymraeg, dewch draw am ddiwrnod llawn o weithgareddau. Ymunwch â ni am ddosbarthiadau a gweithdai Cymraeg - a bydd rhai o enwau cyfarwydd BBC Cymru yno i'ch helpu chi hefyd! Cofrestrwch nawr drwy e-bostio learnwelsh@bbc.co.uk neu ffoniwch llinell wybodaeth BBC Cymru ar 08703 500 700.
Hyd at 6c y funud yw cost galwadau o linell BT (gall amrywio gyda chwmnïau eraill a ffonau symudol) a gellir eu recordio at ddibenion hyfforddiant. MAE POB DIGWYDDIAD AM DDIM Yma i Chi: Diwrnod Agored Yma i Chi: Cofiwch Wrando Cliciwch yma i weld fersiwn pdf o'r amserlen.
 |