BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Casnewydd
Chris Needs and Owen MoneyYma i Chi yng Nghasnewydd!
Ymunwch yn yr hwyl gyda BBC Cymru am bum wythnos yn Hydref a Thachwedd wrth i raglenni radio gael eu darlledu o'r ddinas a nifer o ddigwyddiadau cyffrous gael eu cynnal.
  • Amserlen lawn o ddigwyddiadau Yma i Chi yng Nghasnewydd

    Beth yw 'Yma i Chi'?
    Mae BBC Cymru wedi bod yn cynnal ymgyrch o'r enw Yma i Chi! Rydym wedi bod i Ddinbych, Butetown, Caerfyrddin, Aberdâr, Ynys Môn a Hwlffordd, ac yn ystod mis Hydref byddwn yng Nghasnewydd. Gyda chymorth pobl leol, rydym wedi bod yn trefnu nifer o weithgareddau a sioeau fydd yn cael eu cynnal mewn lleoliadau yn ardal Casnewydd. Dyma rai o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn fuan:

    Dydd Llun, 9 Hydref
    Hywel a Nia - BBC Radio Cymru
    Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd
    10.30am - 12.10pm

    Yng nghanol bwrlwm ifanc y ddinas, bydd Hywel Gwynfryn, Nia Roberts a'u gwesteion yn darlledu'n fyw o'r Pentref Chwaraeon ar Radio Cymru.

    Bws BBC Cymru yng Nghasnewydd
    10 Hydref: Canolfan Mileniwm Pillgwenlly 10am - 3pm
    11 Hydref: Canolfan Gymunedol Maesglas 10am - 3pm
    12 Hydref: Canolfan Hamdden i Underwood 10am - 3pm

    Dewch i ddysgu mwy am y BBC ac i ddweud wrthym beth yw'ch barn chi am Gasnewydd. Yn ogystal rydym yn chwilio am luniau o'r ardal fel rhan o'n prosiect Ddoe a Heddiw - dewch ag un llun o'r gorffennol ac un o'r presennol.

    Nos Fawrth 24 Hydref
    Radio Wales Sportstime
    BarAmber, Clwb Pêl-droed Casnewydd
    7-9pm

    Dyma'ch cyfle i leisio'ch barn am fyd y campau - ymunwch â ni ar gyfer fforwm chwaraeon Radio Wales. Bydd ein panel o arbenigwyr, gyda Rob Phillips yn cadeirio, am glywed eich cwestiynau - dewch draw!

    Nos Wener 27 Hydref
    Chris Needs - BBC Radio Wales
    Glan yr Afon
    8 - 11pm
    Daw Chris a'i ardd o gyfeillion yn fyw o Gasnewydd. Tocynnau'n £3 gyda'r elw yn mynd tuag at BBC Plant Mewn Angen. Ffoniwch linell wybodaeth BBC Cymru am docynnau.

    Dydd Sadwrn 28 Hydref
    Gweithdy Sgiliau Corawl
    YMCA Casnewydd
    10.30am - 4pm
    Mae'r gweithdy yma yn gyfle perffaith i'r rheiny sydd â gwir angerdd mewn canu i wneud mwy gyda'u lleisiau ac i gyd-ganu mewn awyrgylch gartrefol llawn hwyl. Caiff y diwrnod ei arwain gan Gyfarwyddwr Artisitg Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Adrian Partington. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â llinell wybodaeth BBC Cymru.

    Gallwch hefyd gysylltu â llinell wybodaeth BBC Cymru ar 08703 500700

  • Amserlen lawn o ddigwyddiadau Yma i Chi yng Nghasnewydd


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Tafod Torfaen
    Tywydd


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy