Gan Rhys Maher, 7 oed, mis Gorffennaf 2006 "Rwy'n hoffi byw yng Nghasnewydd oherwydd mae'n le hyfryd i fyw. Ni'n gallu mynd i'r siopau a cherdded trwy'r ddinas. Mae pobl yn adeiladu llawer o adeiladau newydd yma fel canolfan siopa newydd a dwi'n edrych ymlaen at gerdded dros y bont gerdded newydd. "Fy hoff le"
Fy hoff lefydd i yng Nghasnewydd yw Ysgol Gymraeg Casnewydd, Parc Tredegar a'r siopau. Mae hen gastell yma ar lan yr afon Wysg a theatr hefyd o'r enw Theatr Glan yr Afon. Rwy'n mynd i ddosbarth 3a ym mis Medi a'm hathrawes fydd Miss Lotwick. Dwi'n edrych ymlaen at ddechrau yn nosbarth 3a. Mae gennym gân yr ysgol a dwi'n hoff iawn o ganu'r gân. Dyma'r gytgan: 'Ysgol Gymraeg Casnewydd yw'r lle,
y gorau'n y byd ac o dan y ne',
Cadwn yr iaith Gymraeg yn fyw
gyda ni'r ieuenctid wrth y llyw.' " ------------------------------------------------------------ Gan Peter Harris, 15 oed, mis Awst 2006
Dwi wedi byw yng Nghasnewydd ers 15 blwyddyn ac felly galla' i ddweud bod Casnewydd yn lle gret i fyw. Lle dwi'n byw mae'r dre dim ond rhyw 5 munud i ffwrdd os yn cerdded. Mae yna sinema, canolfan chwaraeon, siopau, pwll nofio a llawer o wahanol fwytai. Dwi'n hoffi mynd i'r dre a jyst cerdded o gwmpas gan brynu ambell beth efo fy ffrindiau. Yna gallwn ni fynd i Starbucks neu Zoo Cafe am ddiod. Yn y nos byddwn ni'n mynd i weld rhywbeth yn y sinema. Mae yna hefyd eglwysi sy'n prygethu'r efengyl. Yng Nghasnewydd mae yna grwpiau cerddorol o safon uchel ac mae yna fandiau a cherddorfeydd.
Ydych chi'n hoff o Gasnewydd? Lle mae eich hoff le chi yn yr ardal? Dywedwch wrthon ni trwy lenwi'r ffurflen isod.
 |