BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Casnewydd
Jeifio gyda'r Jawahir
Elin Roberts o Gasnewydd sy'n rhannu ei phrofiadau unigryw gyda'r grŵp dawnsio Jawahir
Dechreuais i ddawnsio rhyw dair mlynedd yn ol. Braidd yn sioc i fi fy hun oedd hyn, gan bo fi tan hynny wedi gwneud unrhywbeth i osgoi dawnsio o unrhyw fath. Erbyn hyn mi fedrwch chi ngweld i'n perfformio ar lwyfannau Casnewydd a'r cyffiniau gyda'r grŵp Jawahir. Sut felly? Wel, mae dawnsio gyda'r merched wedi bod yn llond hwyl ac yn bleser, ac mae'r mwynhad ry'ni'n ei gael o ddawnsio gyda'n gilydd yn dangos yn ein perfformiadau.

Gwell i fi esbonio, gan ein bod ni bach yn annisgwyl! Clwb dawnsio Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol ydy Jawahir. Ry'ni'n dod o hyd i'n cerddoriaeth ein hunain, dodi ein gwisgoedd at eu gilydd ac yn dewis y camau a'r symudiadau i'w dawnsio. Nid belly-dancing fel buasech chi'n tybio, ond dawnsio cymysg o gamau newydd a hen symudiadau mwy gwerinol. Merched yn dawnsio i'w gilydd mewn partion menywod yn unig oedd wrth wraidd nifer o'r dawnsfeydd yma, ac mae'r dawnsfeydd yn bwerus ac yn rymus i'w dawnsio ac i'w gwylio, ac mae'n gwisgoedd ni'n lliwgar ac yn llachar - fel y buasen nhw wedi bod.

Hobi anarferol i ferch o'r cymoedd? Efallai, ond mae wedi bod yn agoriad llygaid, trwy ddysgu mwy am ardaleodd ble ry ni'n clywed gymaint am broblemau'r ardaloedd, ond dy' ni ddim yn clywed digon o bethau positif am eu diwylliant a'u bywydau pob dydd. Mae hefyd wedi agor grŵp newydd o ffrindiau, mwy fel teulu a dweud y gwir.

Mae dawnswyr o bob oedran gennym ni, mamau a merched, chwiorydd-pawb yn dawnsio gyda'u gilydd ac yn cefnogi eu gilydd. JawahirMae sŵn chwerthin a chlecian yn ddi-baid, nes i'r cerddoriaeth ddechrau (a hyd yn oed adeg hynny mae'n anodd stopio chwerthin weithiau!)

Rhyw bymtheg ohonom ni sy'n perfformio, ond mae nifer eraill yn rhan o deulu Jawahir, naill a'i drwy'n gwersi i ddechreuwyr (mae bob amser croeso i aelodau newydd) neu'n gwersi i blant - Jawahir Juniors, heb anghofio'r gŵyr a'r partneriaid. Mae eu cymorth a'u cefnogiad nhw yn aruthrol.

Mae cael cyfle i ddawnsio ag i ddod i nabod y merched wedi bod yn brofiad arbennig, ac wedi rhoi pleser newydd mewn bywyd - dawnsio. Rhywbeth buaswn i erioed wedi credu bydden i yn mwynhau - heb sôn am dwli'n llwyr arni! Fel 'na mae bywyd weithiau.

Os hoffech chi'n gweld ni, rydym ni'n aml yn perfformio dros yr haf mewn carnifalau a gwyliau lleol, ac ar ddechrau Mis Tachwedd eleni gewch chi'n gweld ni yn perfformio mewn noson arbennig yn Theatr y Dolman. Os hoffech mwy o wybodaeth am ein perfformiadau, am y gwersi, neu'r sioe - edrychwch ar ein gwefan www.arabdance.co.uk


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Tafod Torfaen
Tywydd


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy