Sefydlwyd y Gymdeithas ar yr wythfed ar hugain o Fedi yn 1905. Roedd y Parch D.D.Joseph, trwy gyfrwng Yr Argus, wedi estyn gwahoddiad i bobl i gyfarfod yn y Neuadd Drefol gyda'r amcan o sefydlu Cymdeithas i Gymry gwladgarol y dref. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D.D.Joseph ac roedd tua deugain o bobl yn y cyfarfod cychwynnol.
Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol cyntaf y Gymdeithas yn y Neuadd Drefol ar nos Iau, 19 Hydref 1905, gyda o gwmpas thrigain o Gymry'r dref yn bresennol. Dywedodd y Cadeirydd fod wyth o Fonheddwyr blaengar y dref wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn noddwyr anrhydeddus i'r Gymdeithas. Y Noddwyr oedd:
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Tredegar
Yr Hybarch Conybeare Bruce, Archddiacon Mynwy
D.A.Thomas, Ysw., A.S., Lanwern
Y Milwriad Ivor Herbert, Llanarth
Y Milwriad J.A.Bradney, Talycoed
Y Mwilwriad Courtenay Morgan, Castell Ruperra
A.Garrod Thomas, Ysw., M.D., U.H.
Yr Henadur T.H. Howell, Ysw., U.H.
Roedd Dr.Garrod Thomas yn gynharach, wedi profi ei deyrngarwch tuag at Gasnewydd drwy roddi £5,000 i sefydlu Ysbyty Brenhinol Gwent yn y dref ym 1901. Penodwyd deg person ar y Pwyllgor cyntaf yn cynnwys Cymry Cymraeg a di-Gymraeg eu hiaith ac yn 1906 etholwyd Dr. Garrod Thomas yn Lywydd ac i ddilyn Arglwydd Tredegar yn 1907.
"Er lles Cymry ein ardal"
O'r cychwyn glynnodd y Gymdeithas yn agos at y rheolau a gyhoeddwyd ar glawr eu tocyn aelodaeth cyntaf sef, "trefnu cyfarfodydd er ymdrin â materion Cymreig a darlleniad papurau a darlithiau gan bersonau enwog ym mywyd Cymru; a chynnal cyfarfodydd adloniadol a diwylliadol er lles Cymry ein hardal."
Yn y blynyddoedd cynnar cafwyd darlithiau gan yr Athro W.J.Gruffydd, yr Athro John Morris Jones, Parch. E.Rees (Dyfed - Archdderwydd Cymru), Madame Marie Trevelyan (awdures "In the Land of Arthur"), yn ogystal â beirdd a llenorion enwog y cyfnod fel Elfed a Sarnicol, gan enwi ond rhai ohonynt.
Yn y Cinio Dydd Gŵyl Dewi cyntaf yn 1906, y gŵr gwadd oedd y Cymro Cymraeg adnabyddus S.T. Evans, Cyfreithiwr Cyffredinol y Llywodraeth, a phob blwyddyn cynhaliwyd Cyngherddau, Nosweithiau Drama a Chymanfaoedd Canu i ddifyrru Cymry Casnewydd. Byddai'r nosweithiau yn Gymraeg neu Saesneg gyda'r croeso i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg yn ddi-wahan.
Addysg Gymraeg
Rheol arall gan y Gymdeithas o'r cychwyn yn 1905 oedd "Ymdrechu cadw yn fyw yr hen iaith Gymraeg yng Ngwent, ac i ennyn cariad at lenyddiaeth odidog ein cenedl, ymysg ieuenctyd yr ardal" . Pan welir y geiriau "yr hen Iaith Gymraeg" ac "ieuenctyd" yn dod lan yn yr un frawddeg nid rhyfedd gofyn - beth a wnaeth y Gymdeithas i hyrwyddo'r iaith Gymraeg i drigolion a phlant Casnewydd yn yr Ugeinfed Ganrif? Yn sicr, mae hanes yn dangos fod Cymdeithas Cymry Casnewydd wedi bod yn frwdfrydig a blaengar dros addysg Gymraeg yn ein hysgolion drwy gydol y ganrif.
Wrth edrych nôl mae hanes Sir Fynwy a Chasnewydd yn frith o deuluoedd Cymraeg yn ymfudo i'r ardal i gael gwaith yn y diwydiant oedd yn tyfu ac yn ffynnu yn yr ardal, ac nid rhyfedd felly oedd iddynt obeithio i'w plant feistroli a defnyddio eu mamiaith, sef y Gymraeg.
Roedd addysg trwy'r Gymraeg ar gael yn ysgolion Casnewydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ond yn ôl erthygl a ymddangosodd yn y Western Mail a'r South Wales Argus ar 8fed Mai, 1954, yr oedd yn rhaid i ysgolion ddewis cynnig Cymraeg fel pwnc ar ôl 1913 a dangoswyd diddordeb oddi wrth 900 o rieni. Drwy gydol Rhyfel Byd 1914-1918 rhoddwyd hyfforddiant drwy'r Gymraeg yn y ysgolion "Central" yn unig. Drwy'r rhyfel lleihau a wnaeth hyfforddiant drwy'r Gymraeg ac erbyn 1928 dim ond 38 o blant oedd yn medru siarad Cymraeg, a llai na hynny yn deall yr iaith.
Ym Mis Mawrth 1926 danfonodd y Gymdeithas lythyr cryf at Bwyllgor Addysg Cyngor Casnewydd yn condemnio'u penderfyniad i ddileu Cymraeg fel pwnc yn ysgolion cynradd y dref (Standard 1,11, 111, a IV) gan danlinellu gallu plant ifanc i ddysgu iaith arall a'r manteision ieithyddol a diwylliannol fyddai'n deillio o hyn. Mae dogfen Cymdeithas Casnewydd i'r Bwrdd Addysg yn dweud yr union ofnau a cholledion i addysg plant ag sydd yn cael eu dweud heddiw gan bwysleisio mor anodd fyddai i blant ail-gydio yn y Gymraeg yn yr ysgol uwchradd a thrwy newid y cwricwlwm i gynnwys pynciau fel "woodwork, housewifery, organised games, museum lectures, musical appreciation concerts and clas rambles" byddent yn lleihau amser i ddysgu'r elfennau safonol a lleihau gallu plant i ganolbwyntio yn eu gwersi safonol.
"Arsloeswr arbrofol"
Daeth y gymdeithas i'r brig eto yn 1953 dros addysg Gymraeg dan ddylanwad arloesol y Parch D. J. Thomas. Roedd newydd ymddeol fel gwenidog gyda'r Bedyddwyr yn y dref ond fel Cymro brwdfrydig ac adnabyddus enwebwyd ef yn gynghorwr ar Bwyllgor Addysg Casnewydd. Y dyn gorau yn y man a'r lle.
Cafodd ei ddisgrifio yn y Western Mail fe "arloeswr arbrofol dosbarth dysgu Cymraeg ysgolion Casnewydd". Penderfynodd y Gymdeithas fod galw am ddosbarth Cymraeg er mwyn plant Cymry Casnewydd ac yn Hydref 1953 danfonwyd lythyr at y Pwyllgor Addysg yn gofyn am ddosbarth gwirfoddol i ddysgu Cymraeg i'w plant. Ar ôl ymholi prifathrawon ysgolion Casnewydd cafwyd atebion oddi wrth 500 o rieni yn gofyn am addysg Gymraeg i'w plant. O ganlyniad rhoddodd y pwyllgor a'r swyddogion ganiatâd i gynnal dosbarth ar fore Sadwrn yn Ysgol San Woolos, Casnewydd. Diolchwyd i'r awdurdodau am anfon yr hysbysebion i'r ysgolion a'r rhieni ac am gael llety i'r dosbarth yn neuadd yr ysgol yn rhad. Anfonodd Mrs. Myfanwy Howells, Llywydd y Gymdeithas yn 1954, £3 fel anrheg i'r dosbarth oddi wrth aelodau'r Gymdeithas.
Croesawi'r plant
Agorodd y dosbarth ar fore Sadwrn, Mai 1af 1954, gyda 10 bachgen a 38 o ferched, pan groesawodd Mr. G. Lloyd Williams (Prifathro Ysgol Alway) y plant am y tro cyntaf. Panel o wyth aelod o'r Gymdeithas oedd yr addysgwyr, sef Llinos Lewis, Marian Roberts, Bronwen Evans, Beryl Griffiths, Mrs. Wynne Morgan, Meirwen Davies, Margaret Griffiths a Nancy Chapman, ac roedd eraill yn barod i'w helpu. Ar Dachwedd 1leg 1954 rhoddodd yr ysgrifennydd-dros-dro adroddiad amserol i'r Pwyllgor Addysg yn profi llwyddiant y cynllun.
Yn Chwefror 1955 cafwyd cyfarfod i drafod "dysgu Cymraeg yn ysgolion Cynradd Casnewydd". Trafodwyd y cais gyda Mr. G. Lloyd Williams, Prifathro Ysgol Alway, i drefnu dysgu Cymraeg mewn rhan o'r ysgol ar y sail fod digon o rieni am hyfforddiant i'w plant. Derbyniodd Mr. Thomas y cynnig, gan ddweud er mai hanner y cais yn unig a atebwyd, yr oedd yn friwsionyn.
Ym Medi 1957 dechreuodd Ysgol Gynradd Alway ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn dau ddosbarth o dan ofal dau athro, sef Mr. Jeff Davies a Mrs. Hedd Morgan. Daeth Miss Audrey Mathews a Miss Megan Griffiths ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn eu dilyn, Mr. Ivor Chapman.
Parhaodd yr addysg tan 1962. Oherwydd amgylchiadau personol gadawodd dwy o'r athrawon a methodd y prifathro dod o hyd i athrawon cymwys i gymryd eu lle. Er hynny, parhaodd y traddodiad Cymreig yn ardal Alway am flynyddoedd. Creodd ymdrechion cynnar fel hyn sylfaen i ddatblygiadau'r dyfodol.
Yn y saithdegau cynnar daeth diwedd i Gyngor Bwrdeisdref Casnewydd pan ddaeth yn rhan o Gyngor Sirol Gwent ond yn 1995 datganolwyd y Sir eto i bum ardal bwrddeisdrefol newydd, sef, Casnewydd, Caerffili, Sir Fynwy, Torfaen a Blaenau Gwent. Mae ein dyled i aelodau Cymdeithas Cymry Casnewydd yn fawr oherwydd eu dyfalbarhad. Ar ddiwedd ein canrif gallwn ymffrostio fod gennym yng Nghasnewydd Ysgol Gynradd Gymraeg ac Ysgol Gyfun Gwynllyw yn y Sir sy'n cynnig addysg trwy'r iaith Gymraeg i dros 1500 o blant heddiw.
Mae mwy o rieni yn gofyn am addysg gynradd Gymraeg i'w plant a bydd angen i'r Awdurdod Addysg ystyried Ysgol Gynradd Gymraeg arall yn y ddinas yn ogystal ag Ysgol Gyfun Gymraeg efallai yn y dyfodol. Cofier hefyd mae nid fel 'Wales and Monmouthshire' yr adnabyddir ni heddiw ac mae Casnewydd yn rhan o Gymru ac mae'r iaith Gymraeg yn bwnc craidd yn y cwricwlwm ac i ddysgu i bob plentyn o'r cychwyn hyd fyddant yn gadael ysgol yn 16 mlwydd oed. Mae'r Gymdeithas yn ddyledus i nifer o arloeswyr brwdfrydig ac ymroddgar yn ogystal ag aelodau a rhieni selog i gadw Cymreictod Gasnewydd mor fyw heddiw ag erioed. Oni bai am y Gymdeithas pwy a feddyliau y gallai'r Eisteddfod Genedlaethol cael ei chynnal yng Nghasnewydd yn 1988 a 2004? Dyna fesur o Gymreictod Casnewydd heddiw wrth i'r Gymdeithas ddathlu ei chanmlwyddiant.
Dathlu'r Canmlwyddiant
Y llynedd, dathlodd Cymdeithas Cymry Casnewydd ei Chanmlwyddiant. Ar gychwyn ein dathlu cawsom noson agoriadol, arbennig ar nos Wener 16 a Fedi 2005, yn Eglwys Ebeneser yng nghwmni'r Athro Hywel Teifi Edwards. Ei destyn oedd "Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago 1893". Cawsom araith ddifyr, ddiddorol gan ysgolhaig gyda'i hiwmor diddan sy'n nodweddiadol ohono. Noswaith o hwyl, a phaned neis o de ar y diwedd wrth glywed y clecs - pwy sy'n gwneud beth, gyda phwy a pham a ble mae nhw'n mynd nesaf? Diawch - dyna noson ddifyr - gwell na gwylio'r teledu unrhyw amser.
Ar y cychwyn yn 1905 arwyddair y Gymdeithas oedd;
"Rhydd i bob un ei farn, ac i bob barn ei llafar".
Yn ddiweddarach fe newidiwyd yr arwyddair i;
"Ein hiaith, ein gwlad, ein cenedl"
Mae hanes Cymdeithas Cymry Casnewydd dros y ganrif ddiwethaf yn dangos ei brwdfrydedd dros gadw'r Gymraeg a Chymreictod yr ardal yn ogystal â chynnal nosweithiau i ddifyrru'r Cymry lleol. Boed pob llwyddiant iddynt wrth wynebu'r ganrif nesaf. Llongyfarchiadau i Gymdeithas Cymry Casnewydd ar ddathlu eu Canmlwyddiant a dymunwn ganrif eto i werthfawrogi ein hetifeddiaeth Cymraeg yn y Ddinas.
Miss Beryl Griffiths - Cyn-Lywydd