Plentyn bach diniwed oeddwn pan droediais i Gasnewydd am y tro cyntaf. Dinas enfawr Seisnig, a minnau'n gyfarwydd â cherdded strydoedd pentref Cymreig yng ngorllewin Cymru. Synnais weld enwau fel Cae Perllan, Allt yr Ynn a Bettws a gallech feddwl eich bod rhywle yng nghanol ardal Gymreig. Fel Cymraes rydw i'n darllen yr enwau fel y maent ond prin y clywir yr yngangu cywir. Ai dau le gwahanol yw Caperliyn a Chae Perllan?
Mae'n amlwg bod y Gymraeg wedi dylanwadu ar ardaloedd o Gasnewydd flynyddoedd yn ôl ond oherwydd lleoliad y ddinas ar y ffin â Lloegr mae dylanwadau Seisnig yn amlwg o ran ymwybyddiaeth iaith a diwylliant. Doeddwn i ddim yn deall pobl o Gasnewydd yn dweud 'We're going on our holidays to Wales this year' onid ydyn ni yng Nghymru beth bynnag? Ac ers cyflwyno Cymraeg i'r cwriciwlwm cynradd rwyf wedi clywed pobl yn dweud 'French would be much more useful.' Ewch i fwyta'ch malwod felly!
Yn fuan iawn ar ôl symud sylweddolais mai brwydr oedd cynnal a chadw'r iaith yn fyw yma heb sôn am hyrwyddo'r Gymraeg ymysg y boblogaeth o 139,600.
Dylanwad yr Eisteddfodau
Deffrowyd ymwybyddiaeth rhai o fodolaeth y Gymraeg ac am y diwylliant Cymreig pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Gansewydd yn 1988 ac eto yn 2004. Fel arfer prin yw'r gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y ddinas, yn enwedig i bobl ifanc ac felly roedd yna gynnwrf a chyffro mawr ymysg pobl ifanc pan ddaeth gigs Maes B i berfformio yng nghlybiâu nos Casnewydd. Roedd yn braf cael cymdeithasu yn Gymraeg a phobl o bob cwr o Gymru yn fy ninas i. Bellach atgof yn unig yw hyn a phrin yw'r grwpiau Cymraeg sydd wedi dychwelyd. Beth amdani fandiau Cymru? Dyma her i chi, neu a ydy Casnewydd a'r cyffuniau tu hwnt i'r ffin?
Lle da i wario arian
Yn ôl pob sôn rydw i wedi cael fy ngeni i siopa ac mae Casnewydd yn lle da i fynd i wario'ch arian ar bnawn Sadwrn. Mae yna ddigon o amrywiaeth siopau yma ond fel yr hen hanes mae canol y ddinas yn dioddef oherwydd ei agosatrwydd at Gaerdydd sydd yn denu'r cwmnïoedd mawr i gyd. Mae cynllun mawr ar y gweill i ailwampio canol y ddinas ac i ddenu siopau newydd, bwytai a gweithgareddau amrywiol. Mae digon o fwrlwm yng Nghasnewydd wedi i'r siopau gau hefyd gyda chlybiau nos, sinemâu a thafarndau amrywiol.
Gweithgareddau lleol
Dwi'n sylweddoli nad yw siopa at fryd pawb ond mae amrywiaeth o weithgareddau yn yr ardal. Gallwch fynd i gefnogi Kevin Morgan a'i ddreigiau ar Rodney Parade, neu baratoi i'r gemau olympaidd yn y Feladrom. Heb os, mae gwesty'r Celtic Manor wedi rhoi Casnewydd ar y map gyda chystadlaeth golff yr enwogion yn ddiweddar a'r paratoadau ar gyfer y Ryder Cup yn 2010 yn amlwg iawn. Os nad ydych yn hoffi chwareon does unman gwell i gael paned o goffi, pryd o fwyd ac ymlacio mewn steil!
Dyw Casnewydd ddim yn eich taro fel lle o brydferthwch naturiol. Mae afon Wysg yn rhedeg drwy'r ddinas ond mwdlyd yw'r llethrau a digon diolwg. Dros yr afon yma y symuda'r bont drawsgludo - pont hynod sydd yn gallu cario ceir o un ochr yr afon i'r llall. Yn gynharach ym mis Medi agorwyd pont gerdded newydd gyda chynllun modern. O gwmpas Casnewydd mae ardaloedd dymunol iawn i gerdded ac ymlacio megis Parc Tredegar a Mynydd Twm Barlwm.
Agorwyd theatr Glan yr Afon ychydig flynyddoedd yn ôl ac yno gwelais i gynhyrchiad Theatr Ieuenctid Cymru eleni, a'r lle dan ei sang. Ceir amrywiaeth o berfformiadau yno ac mae'r ganolfan wedi ymrwymo i ddangos cynhyrchiad Cymraeg bob tymor. Gobeithiaf y bydd y cynyrchiadau yma yn cael cefnogaeth ddigonnol er mwyn iddynt barhau.
Addysg Gymraeg
Byddai symud i Gasnewydd saith mlynedd yn ôl wedi bod yn anodd iawn i ni fel teulu pe na byddai modd i ni barhau gydag addysg Gymraeg. Bellach rwy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ac yn ymfalchïo yn y modd mae'r ysgol yn hybu'r Gymraeg mewn ffordd brwdfrydig a gwreiddiol. Mae tipyn mwy o waith i argyhoeddi pobl o bwysigrwydd y Gymraeg ond rwy'n ffyddiog fod twf a dyfodol i'r iaith Gymraeg yma yn y De Ddwyrain. Fel y dywed moto'r ysgol 'Cerddwn Ymlaen' a 'Safwn gyda'n gilydd'.
Er o bosib na fyddwn yn dewis ymgartrefi yng Nghasnewydd rwy'n hapus yma oherwydd wedi'r cyfan teulu a ffrindiau sy'n gwneud lle.
Gan Mari Thomas