BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Casnewydd
Cyfle i ddysgu rhagor am seiclo yng NghasnewyddJoio ym Maesglas
Mae Gareth Evans yn gweithio fel Swyddog Chwaraeon, yn ardal Maesglas, Casnewydd. Yma mae'n nodi'r amrywiaeth o weithgareddau hamdden sy'n cael eu cynnig i bobl yr ardal.

Dwi'n gweithio fel Swyddog Chwaraeon ym Maesglas, Casnewydd. Rwy'n gyfrifol am arwain chwaraeon i'r gymuned gyfan, o'r crud i'r bedd ond rydym wedi targedu'r plant ysgolion yn gyntaf i greu rhaglen lwyddiannus ar eu cyfer hwy.

Dwi'n trefnu nifer o weithgareddau amrywiol i bobl ifanc yr ardal, yn bennaf disgyblion Ysgol St Davids a Ysgol gynradd Maesglas. Unwaith i'r rhaglen yma ddechrau datblygu, bydd y rhieni a'r bobl henach yn ymwybodol am y gwaith rydym yn neud, ac yn fwy parod i gymryd rhan yn y gweithgareddau.

Mae gennym glwb gweithgareddau cwriciwlaidd ychwanegol, sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc sydd ddim â diddordeb mewn cymryd rhan mewn chwaraeon tîm yn yr ysgol, efallai oherwydd diffyg hyder, i droi eu llaw at chwaraeon unigol.

Yn ystod 2006 rhoddwyd cyfle i nifer o bobl ifanc Maesglas ddod draw i'r melodrom lle cynhaliwyd pedair sesiwn blasu beicio. Bu i Swyddog Seiclo Cymru ddewis y 15 unigolyn mwyaf disglais i ddilyn cwrs 'track for track' oedd yn rhoi'r cyfle iddynt ddysgu hanfodion seiclo ar drac. Mae rhai o ardal St Julian, Casnewydd wedi bod yn gwneud hyn am gryn amser ac mae rhai ohonynt bellach yn seiclo dros Gymru! Ond yn anffodus mae parhad y prosiect yn dibynnu ar nawdd.

Dwi hefyd yn trefnu gweithgareddau yn ystod tymor gwyliau'r ysgol. Pob hanner tymor neu wyliau'r haf mae gweithgareddau chwaraeon yn cael eu trefnu ar draws Casnewydd, dyma'r uchafbwynt fel petai.

Rhaglen arall ar y gweill yw 'Street Ahead', Karen Williams, y Swyddog Ieuenctid sy'n arwain y rhaglen honno. Nod y cynllun hwn yw denu pobl ifanc sydd tu allan i'r system addysg i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Trwy gyfrwng y gweithgareddau hyn, y bwriad yw ceisio cael pobl yr ardal i gymysgu â phobl eraill, i ddatblygu eu sgiliau, codi eu hunan hyder a'u cael i weithio'n hapus 'da phobl eraill."

Erthygl gan: Gareth Evans.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Tafod Torfaen
Tywydd


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy