BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Casnewydd
bandHen Synau Casnewydd
"Gwenynen Gwent" sy'n trafod hanes cerddoriaeth y ddinas.

Pan benderfynodd yr NME a chylchgronau tebyg alw Casnewydd yn "The New Seattle" a chreu delwedd roc a rôl newydd i'r dref, doedd y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg ddim hyd yn oed yn ymwybodol o fodolaeth y dref. Yn wir, byddai ymweliad â thafarn roc a rôl yng Nghasnewydd wedi rhoi hartan i'r rhan fwyaf o ddilynwyr pop Cymraeg o'r fro yn y Gogledd-Orllewin.

Tipyn o syndod, felly, oedd clywed fod synau cerddoriaeth gyfoes a chyntefig i'w glywed yn un o drefi mawr Cymru, a'r gerddoriaeth hynny yn arwain at newid delfrydau cerddoriaeth Lloegr, America a'r byd roc a rôl.

Cyffro
O ble ddaeth y gerddoriaeth yma felly? A tybed os oedd unrhyw un o'r grwpiau yn canu drwy gyfrwng y Gymraeg? Daeth rhai grwpiau i'r amlwg, megis y 60 Foot Dolls a'u pync-pop hwyliog yn efelychu arddulliau grwpiau o'r 80au megis y Mega City 4 ac eraill megis Columbia, Lo-Ryder a Solarboat. 'Roedd rhyw gyffro ynghlwm wrth seiniau y 60 Foot Dolls a'u cymdeithion cerddorol, cyffro chwyldro cerddorol a rhy drydan cynhyrfus.

Cyn hynny bu rhai o fawrion y byd pync yn cyffroi yng Nghasnewydd. Bu Joe Strummer, o'r Clash, yn fyfyriwr yng ngholeg y dref ac yn canu o amgylch y tafarnau yn ei arddull hunangyfiawn, tra bu'r Mekons yn denu sylw'r cyfryngau ffidlidwgan ar draws aml i gyfandir.

Y grŵp Cymreig mwyaf â chysylltiad a'r dref wrth gwrs yw'r Manic Street Preachers (ganwyd James Dean Bradfield yng Nghasnewydd) a phrin fod angen adrodd eu hanes!

Ond daeth bywyd roc a rôl yn ôl i Gasnewydd ar frys pan benderfynodd y diweddar Kurt Cobain, prif leisydd y grŵp dylanwadol Nirvana o Seattle yn yr Amerig, a'i gariad ymweld a TJs, y clwb tanddaearol byd-enwog yn y "New Seattle". 'Doedd neb wedi disgwyl eu gweld yng Nghasnewydd o bobman, ond 'doedd neb wedi dychmygu y byddai Kurt yn penderfynu mai clwb TJs oedd y lle delfrydol i ofyn i Courtney Love ei briodi. Dros nos datblygodd Casnewydd o'r "New Seattle" i fecca ieuenctid y byd. 'Roedd awyrgylch drydanol yno a'r disgwyliadau yn fyrlymus.

Bu Casnewydd yn gyrchfan amlwg i grwpiau ers yr 80au gan fod y "Newport Centre" yn ganolfan amlwg ac enfawr i gyrchu grwpiau mawr Seisnig yno. Bellach gallwch fynd i'r ddinas i wrando ar ddewis helaeth o wahanol synau a grwpiau megis y Mombomb, Strawberry Blondes, Loaded mewn amrywiaeth o ganolfannau roc clasurol tywyll chwyslyd.

Ond, ar wahân i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1989 (a'r nosweithiau Meic Stevens ardderchog yn y Newport Dockers' Club) a'r Eisteddfod Genedlaethol eto yn 2004, prin fu dylanwad yr iaith Gymraeg ar roc a rôl yng Nghasnewydd.

"Crisialu Cymreictod"
Bu Rhys Mwyn a'r Anhrefn yn brysur yn ceisio cenhadu yno drwy'r 80au a'r TJs eto yn fyw o gynnwrf pync Cymraeg, ond ni fu llwyddo mawr ar draul yr Anhrefn. 'Roedd dawnsio gwerin Cymraeg a Chymreig i'w gael gan Gwerinwyr Gwent, ond dim llawer o sŵn cyfoes. Dim ond un grŵp roc Cymraeg gwn i amdanynt sydd wedi dod o Gasnewydd a'r rheini oedd Heb Gariad.

Gyda'r grŵp llwyddiannus, Ludus, yn tynnu at ei derfyn, daeth y canwr Ian Devine yn ôl i fyw i Gasnewydd gan ffurfio grŵp Cymraeg ei iaith yn y dref, Heb Gariad. Byrhoedlog fu hanes Heb Gariad, ond 'roedd eu perfformiadau byw yn frawychus daranllyd a'u cerddoriaeth pynci alawol yn wefreiddiol. Cafodd Rhys Mwyn afael arnynt ac yn 1986 rhyddhawyd EP mewn feinyl gwyn hardd, Heb Gariad.

Ni fu llawer o sôn amdanynt yn y cyfryngau, ni fu galaru enfawr ar eu hôl, ac ni fu rhincian dannedd a cholli dagrau, ond i'r cyfryw rai oedd yno ar y pryd, bu Heb Gariad yn ysbrydoliaeth, yn chwyldro ieithyddol ac yn donic cerddorol. Crisialwyd Cymreictod Casnewydd mewn un EP 7 modfedd a daeth yr yrfa Gymraeg i ben yn rhy fuan o lawer.

Ond nid dyna ddiwedd cerddoriaeth Gymraeg yng Nghasnewydd. Yn y flwyddyn 2008 yn dilyn dylanwad yr Eisteddfod Genedlaethol 4 blynedd ynghynt...

Beth yw eich barn chi am gerddoriaeth yng Nghasnewydd? Oes angen mwy o gigs? Fuoch chi yn rhai yn ystod y cyfnod "byrlymus" yn yr 80au? Dywedwch wrthon ni!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Tafod Torfaen
Tywydd


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy