Bellach 125 mlynedd yn ddiweddarach mae gan y brifysgol tua 6,000 o staff (gan gynnwys dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel), 26,000 o fyfyrwyr, adeiladau a chyfleusterau yng nghanolfan ddinesig y ddinas a champws Parc y Mynydd Bychan, a throsiant bIynyddol o £370m ac mae'n un o blith 100 o brifysgolion gorau'r byd.
Mae'n rhan o Grŵp Russell o 20 prifysgol gorau Prydain syn cael eu harwain gan ymchwil ac mae newydd ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ragoriaeth am y trydydd tro.
Roedd goleuo'r prif adeilad â negeseuon o gefnogaeth yn nodi dechrau dathliadau pen-blwydd y brifysgol ym mis Ionawr.
Fe'i defnyddiwyd i gyhoeddi blwyddyn brysur o gyngherddau arbennig, seremonïau gwobrwyo, cynadleddau, darlithoedd, chwaraeon, digwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol - i gyd wedi'u cynllunio i ddod â'r ystod ehangaf o bobl i nodi'r flwyddyn at ei gilydd.
Lansiwyd apêl '125 ar gyfer 125' y brifysgol hefyd. Nod yr apêl, sy'n adeiladu ar y thema pen-blwydd 'Rhoi' yw codi 125 o ysgoloriaethau ychwanegol i helpu'r cenedlaethau nesaf o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ifanc wireddu eu huchelgais academaidd yng Nghaerdydd. Bydd y brifysgol yn rhoi arian cyfatebol ar gyfer y £100,000 cyntaf sy'n cael ei godi.
Wrth i'r brifysgol agosáu at ddiwrnod ei sefydlu ar 24 Hydref, mae'r ffocws wedi troi at gyngerdd gala unigryw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 19 Hydref.
Mewn ymgais i roi noson fythgofiadwy i'r gynulleidfa mae Prifysgol Caerdydd wedi dod â nifer sy'n fyd-enwog at ei gilydd, gan gynnwys y tenor o Gymru, Dennis O'Neill CBE, a'r soprano sydd ag iddi enw rhyngwladol, Rebecca Evans, gydag Academi Llais Ryngwladol Caerdydd a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Bydd y noson hefyd yn cynnwys teyrnged ffanffer a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr rhyngwladol Karl Jenkins a raddiodd o'r brifysgol.
Bydd hyn oll yn cael ei arwain gan y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Huw Edwards, sydd bellach yn gweithio yn adran newyddion y BBC.
Dywedodd yr ls-ganghellor, Dr David Grant: "Mae ein pen-blwydd yn 125 oed yn dathlu'r cyfan y mae pob un o'n staff a'n myfyrwyr wedi ei gyflawni, ac mae hefyd yn cydnabod potensial yr hyn y gellir ei gyflawni ac a fydd yn cael ei gyflawni yn y dyfodol.
"Fe fyddwn ni'n dathlu'r sylfeini yr ydyn ni wedi adeiladu ein llwyddiannau presennol arnyn nhw ac fe fyddwn yn cydnabod y pellter sydd yn rhaid i ni ei deithio o hyd. Mae hon yn addo bod yn daith gyffrous. Mae arnon ni eisiau adeiladu etifeddiaeth hyd yn oed yn gryfach i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol," ychwanegodd.
Dywedodd y brifysgol bod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y brifddinas, wedi bod yn un o'r uchafbwyntiau dathlu hyd yn hyn. Gwelwyd nifer o ysgolion y brifysgol yn cymryd rhan yn yr ŵyl ac anrhydeddwyd staff a myfyrwyr mewn digwyddiadau amrywiol yn yr Eisteddfod.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y dathliadau gan gynnwys y cyngerdd gala a'r newyddion diweddaraf am godi arian trowch at wefan y brifysgol.