BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerdydd

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caerdydd
Delyth Davies'Fy mis cynta' yn Nubai'
Flwyddyn yn ôl, roedd Delyth Davies yn mwynhau nosweithiau allan gyda'r merched a bywyd fel merch sengl yng Nghaerdydd.

Ers mis Tachwedd 2006 mae hi wedi syrthio mewn cariad, wedi dyweddïo a threfnu priodas, wedi canslo'r briodas, wedi symud tŷ, rhoi'r gorau i'w gwaith ac ymfudo i Dubai! Ond yng nghanol y pacio, mae hi wedi cofnodi'r hanes i gyd ar ei dyddiadur radio ar gyfer cyfres Pethau Mawr Bywyd ar BBC Radio Cymru.

  • Gwrandewch ar ddyddiadur radio Delyth Davies

    Dyma gofnod Delyth o'i mis cyntaf yn Nubai.

    4, Tachwedd, 2007
    "Dwi yma yn Dubai ers dros fis bellach ac ma' bywyd wedi bod yn eitha' hectic! Mi wnes i lanio ar fore dydd sadwrn, mi gafodd Jason sioc a hanner. Roedd yn cysgu fel babi pan gerddis i fewn i'r stafell!

    "Yr argraff gynta' ges i o Dubai oedd cymaint mae'r ddinas wedi newid ers pryd fuais i yma y tro cynta' ar stop over o Thailand. Mae'r lle wedi tyfu ar gyfradd mor gyflym ac mae'r adeiliadau mor enfawr ag impressive hyd yn oed i rywun fel fi sydd heb fawr o ddiddordeb newn adeiladau! Mae hi'n ddinas brysur a phoeth ac ma' popeth 'da chi isho yma...hyd yn oed lle sgio!

    "Mae bywyd yn brysur, ar ôl pythefnos fer o eistedd ar fy nhîn ar y traeth yn troi yn liw mahogani reit gryf, mi ges i joban fel athrawes feithrin ... boreua yn unig, dwi'n mwynhau a deud y gwir. Mae Jason yn gweithio oriau hir, o 7 yn bore tan ar ôl 8 y nos, mae o'n trafeilio hefyd (mae o'n Qatar ar hyn o bryd) ... felly dwi'n treulio llawer o amser yn cadw'n hun yn uddig .. siopa, mynd i'r gym, a dwi di prynu canŵ.

    "Mae'r penwythnosa'n reit brysur. Ar ddydd Gwener mae na'r hyn mae'n nhw'n ei alw'n 'Brunch' lle da chi'n talu tua £30 ac yn cael bwyta a yfed hynny leciwch chi ... neis iawn!

    "Da ni di bod i ffwrdd am benwythnos i Fujeirah, sydd tua 3 awr i ffwrdd a da ni'n mynd i Muscat, Oman wythnos nesa'. Mi ryda' ni'n treulio llawer o'r penwythnosau efo ffrindia Jason, llawer o bobl o Iwerddon a'r Alban - y tartan army! So, mae na lawer o bartïon 'di bod. Edrych ymlaen at y Rugby 7's rŵan!

    "Dwi'n dal i setlo. Mae Jason wrth ei fodd yma. Dwi'n hoffi'r lle ond dwi dal ddim yn siŵr os dwi isho aros yma am rhy hir. Amser a ddengys! Mae safon byw yn uchel, digon i'w wneud, y tywydd braf ... ond dim teulu, colli ffrindia, hyd yn oed colli ngwaith. Mae'r ffordd mae rhai pobl yn cael eu trin yma oherwydd o'r lle y maen nhw'n dod yn fy ngwneud i'n wyllt!

    Dwi'n edrach ymlaen i ddod adra' dros y Nadolig!"

    Darlledwyd Pethau Mawr Bywyd: Delyth Davies ar BBC Radio Cymru ddydd Sul, 11 Tachwedd am 12.00. Ailddarlledwyd ar 14 Tachwedd 2007 am 18.00

  • Gwefan Pethau Mawr Bywyd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Cynulliad Cenedlawthol Cymru
    Tywydd
    Lluniau
    Elusennau


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy