Tra bod ei chyfoedion o Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd yn mwynhau bywyd coleg a'r rhyddid a'r hwyl a ddaw yn sgîl byw oddi cartref am y tro cyntaf, mae Malka Liss o Dreganna wedi dewis trywydd go wahanol. Mae hi'n paratoi i symud allan i Israel er mwyn gwireddu ei breuddwyd o fyw bywyd Iddewig cyflawn. Mae'n dilyn ôl traed ei chwaer Sarah (21) a'i gefaill Joshua (20) sydd eisioes wedi gadael eu cartref, eu rhieni a chymdeithas seciwlar Cymru er mwyn mudo i wlad yr addewid, yng nghanol ei holl drafferthion gwleidyddol. Cafwyd hanes y tri yn y raglen O Flaen dy Lygaid: I Wlad yr Addewid ar S4C, Nos Fawrth, Rhagfyr 11, 2007. Sarah, yr hynaf o'r tri, aeth allan i Israel gyntaf. Mae hi bellach yn ddinesydd Israel swyddogol ac roedd ganddi'r hawl i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf.
Gwyliwch glip o stori Sarah. Gwyliwch Yr un yw teimladau Malka a symudodd i Israel yn ystod cyfnod ffilmio'r rhaglen. Ar ôl gweithio yng Nghanolfan y Mileniwm a meithrinfa Si-lwli er mwyn ennill arian i gynnal ei hun, a mynychu clwb Iddewig a gwersi arbennig gyda'r Rabi er mwyn paratoi ei hun yn feddyliol, mae'r cyw olaf yn barod i adael y nyth. Gwyliwch glip o'r rhaglen lle mae Malka'n disgrifio'i bywyd newydd yn Israel. Gwyliwch Mae profiadau eu brawd Joshua yn Israel yn go wahanol i'r merched gan ei fod ef wedi ymuno â'r fyddin - yr Israeli Defence Force (IDF).
"Mae unrhyw un sydd ddim yn ofn rhyfel naill ai'n crazy neu'n ddewr iawn," dywed Josh wrth iddo hyfforddi yn yr anialwch. Ond wedi cwblhau ei dri mis cychwynnol yn y fyddin, mae'n barod i ymladd dros Israel. "Os oes 'na ryfel fory - dwi'n barod amdani." Gwyliwch stori Joshua.
Gwyliwch Gohebydd gyda'r BBC, Iolo ap Dafydd fu'n dilyn stori Sarah, Joshua a Malka Liss a dyma rai lluniau a dynnodd pan fu'n ffilmio'r rhaglen yn Israel. Lluniau o'r rhaglen
 |