Roedd y dathlu yn dechrau am 11 y bore yng nghaffi 'Hufen' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda derbyniad i wahoddedigion a ddymunir croesawu'r Eisteddfod i'r brifddinas. Bu Delyth Vaughan, Llywydd yr Urdd, yn dweud gair byr i gychwyn y dathliadau. I ddilyn, bu ysgolion Cymraeg cynradd Caerdydd yn cymryd rhan mewn perfformiad i groesawu'r Ŵyl yn y Lanfa ym Mae Caerdydd. Roedd y plant, wedi eu gwisgo yn lliwiau'r Urdd, yn cymryd rhan mewn gorymdaith. Ymunodd Mistar Urdd â'r plant ac yn eu harwain o Ganolfan y Mileniwm tuag at y Senedd gan ymgasglu i ffurfio tair rhes i ffurfio triban yr Urdd. I ddod â'r cyfan i ben, roedd Mistar Urdd yn cyflwyno Rhestr Testunau Eisteddfod yr Urdd 2009 i Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis Thomas. Bydd Frizbee, Dr Gonzo, Just Like Frank a Nos Sadwrn Bach yn perfformio mewn gig yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, a bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw ar C2 Radio Cymru. Bydd y gig yn cychwyn am 8 o'r gloch. Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru;
''Bydd cynnal Eisteddfod fywiog ym Mae Caerdydd yn 2009 yn gyfle i'r brifddinas groesawu plant ac ieuenctid Cymru, ac yn gyfle i bobl ifanc Cymru berfformio ar un o lwyfannau gorau'r byd. Bydd ardal Bae Caerdydd yn llawn bwrlwm ar 11 Ebrill wrth i ni gyhoeddi Rhestr Testunau yr ŵyl, ac wrth i ni ddathlu cychwyn y daith eisteddfodol am flwyddyn arall.'' Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2005
 |