 | Y wlad yn dod i'r dref Dydy gweld defaid, hwyaid a moch o flaen Canolfan Mileniwm Cymru ddim yn olygfa gyfarwydd iawn i ddinasyddion Caerdydd. Yn wir, prin bod unrhyw anifeiliad fferm wedi cael eu gweld yn crwydro bae Caerdydd, ond dyna'n union a welwyd yno rhwng Tachwedd 3 a 5.
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu eu penblwydd yn 70 oed ac i nodi hynny, trefnwyd gŵyl fawr yn y brifddinas i addysgu pobl trefol am fywyd cefn gwlad Cymru.
 |  |  |  |
 | 
 |
Dai Jones Llanilar yn agor yr wyl yn swyddogol ar ddydd Gwener, Tachwedd 3
|  | 12345678910 11121314151617181920 |  | Dai Jones Llanilar:
"Mae fy nyled i i'r mudiad yma yn mynd i aros gyda fi tra fydda i byw. Dyma'r mudiad pwysica' yn fy marn i. Pan fydd y wlad yn colli eu ffermwyr - dyna ddiwedd y byd.
"Rwy'n dymuno'n dda i chi fel mudiad, ac rwy'n edrych ymlaen at y gala nos Sul. Mae yna dalent aruthrol yma.
"Os nad ydych chi wedi dysgu shwt mae caru ar ol bod gyda'r ffermwyr ifainc, fe garwch chi byth!" |  |
|
|