Bu llawer o ddigwyddiadau tyngedfennol yn ystod 2000 o flynyddoedd yn hanes Castell Caerdydd. Ym mis Medi 1947 digwyddodd yr un mwyaf diweddar ac arwyddocaol i bobl Caerdydd, pan roddodd 5ed Ardalydd Bute Gastell Caerdydd a'r tir parc o'i amgylch i bobl y ddinas. Diwrnod o ddathlu: dydd Sul 9 Medi
I nodi'r 60 mlynedd ers trosglwyddo Castell Caerdydd, cynhelir diwrnod o ddathliadau ddydd Sul 9 Medi rhwng 9.30am a 5.00pm gyda mynediad am ddim i'r tiroedd, teithiau tywys am bris gostyngol a rhaglen lawn o weithgareddau. Cofio'r cyfnod
Bydd atgofion o'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn cael eu hailgynnau gyda Dawns De o'r 1940au, cerddoriaeth o'r cyfnod a chaneuon i bawb o'r bandstand, rhaglen ar y thema gan fyfyrwyr Coleg Cerdd a Drama Cymru, arddangosfa hen geir ac, i atgoffa pobl o'r cyfnod caled hwnnw, gweithdai trwsio. Rhoddir teithiau tywys o Orielau Murluniau cudd y Castell a ddefnyddiwyd fel lloches cyrch awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd staff a pherfformwyr wedi eu gwisgo mewn dillad o'r cyfnod ac anogir ymwelwyr i ddod yn eu siwtiau de-mob neu wisgoedd eraill priodol! Rhoddir gwobr i'r wisg orau neu'r gofrodd neu'r atgof gorau o'r cyfnod.
Ewch i wefan Castell Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch 029 2087 8100. Mwy o GaerdyddHanes Butetown
 |