BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bro-dorion

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bro-dorion
Golygfa o St HillaryO ffenest fy stafell wely
Cyn i mi symud i St Hillary, pentref bach ger y Bont-faen, doeddwn i ddim yn gwybod fod y pentref yn bodoli, ond ar ôl ychydig o fisoedd dechreuais werthfawrogi beth oedd o fy nghwmpas.

Y troedffyrdd gwledig, y coedydd gwyrdd a'r golygfeydd ysblennydd yn edrych ar draws Môr Hafren. Er bod dim llawer o gyfleusterau yma, mae dod yma i werthfawrogi cefn gwlad Cymru yn brofiad, ac rwy'n teimlo'n lwcus ofnadwy i fyw yma.

GolygfaRydw i'n byw yng nghanol y pentref, ac o ffenestr fy ystafell wely gallaf weld un o brif lefydd cymdeithasol y pentref - Neuadd y Pentref. Flynyddoedd yn ôl defnyddiwyd tai'r cymdogion fel pethau angenrheidiol y pentref. Mae'r ffaith yma dal yn bodoli gyda neuadd y pentref gan ei fod wedi ei gysylltu â thŷ un o'r pentrefwyr. Hen ysgol â arferai'r neuadd i fod, credwch chi neu beidio, i ddeugain o blant y pentref. Ar ôl clywed y ffaith yma gan un o gymdogion hynaf y pentref, roeddwn wedi fy synnu, oherwydd prin iawn yw'r plant sy'n byw yn y pentref heddiw.

GolygfaHefyd, fy nhŷ i oedd swyddfa bost y pentref, a sylweddolais i hyn pan wnaethom adnewyddu'r tŷ a ffeindion ni flwch tu fewn i'r tŷ. Bu'r pentrefwyr yn rhoi eu llythyron tu fewn i'r blwch o'r tu fas a byddai perchennog y tŷ yn derbyn e o'r tu fewn. Cafodd un tŷ mawr- y Tŷ Beaupre, fel rhan fwyaf o dai mawr y pentref, eu defnyddio fel ysbyty'r Groes Goch yn ystod y rhyfel byd cyntaf.

Ers i'r ysgol gau yn 1910, mae'r neuadd yn cael ei defnyddio fel man cymdeithasol y pentref. Bob hyn a hyn, byddwn yn cynnal noson gwis, swper Dydd Gŵyl Dewi a chyfarfodydd tymhorol i glybiau bach y pentref. Yn gynharach eleni, buais yn chwarae'r delyn ar gyfer diwrnod agored y Neuadd, ar ôl iddi gael ei hail-addurno. Mi oedd rhan fwyaf o'r cymdogion yna, yn dathlu ac yn ddiolchgar fod ganddynt lle modern yn y pentref i gynnal dathliadau.

Y dafarnUn o'r llefydd eraill sy'n diddori'r pentrefwyr, yn enwedig y ffermwyr, yw'r dafarn "The Bush Inn". Gallaf weld arwydd y dafarn o'm hystafell wely, tu ôl i'r goedwig hardd, amryliw. Mae nifer yn dweud bod y dafarn fel rhywbeth o'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, ac rwy'n cytuno. Mae'r to gwellt wedi bodoli ers yr unfed ganrif ar bymtheg, ac wrth i chi gerdded trwy'r fynedfa gallwch glywed chwerthin ffermwyr yn dod o'r bar, y tân yn poeri ac yn rhuo, a dyma deimlad o gynhesrwydd yn eich gorchfygu.

GolygfaNôl i'm hystafell wely ac i'r chwith o Neuadd y Pentref, gallaf weld yr Eglwys sy'n deillio o'r ddeuddegfed ganrif yn codi dros y fynwent. Pan ydw i'n ymlacio yn fy stafell gyda'r ffenestr ar agor, gallaf glywed y clychau yn canu yn yr eglwys, neu weithiau sain pwerus y côr yn adleisio trwy'r pentref. Er bod dim llawer o gyfleusterau yn fy mhentref, mae'r lle yn ddelfrydol i ymweld, ar gyfer pobl sydd eisiau mynd am dro, cerdded eu ci neu i gael pryd o fwyd yn y dafarn.

I fyw yma, mae'n ddelfrydol gan fod y pentref wedi ei leoli hanner ffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd, mae e i ffwrdd o brysurdeb y dinasoedd ac er mai cymuned fach sydd yma mae yna ddigon o digwyddiadau yn cael eu trefnu.

Problem y pentref
Un mater a godwyd gan y pentrefwyr yn gynharach yn y flwyddyn oedd y nifer o lorïau oedd yn teithio trwy'r pentref. Gyrwyr o wledydd tramor fel Gwlad Pwyl oeddent, yn ceisio cyrraedd St. Athan i ddarparu olew a.y.b. Roedd eu teclynnau "sat nav" yn dweud y llwybr cyflymaf iddynt gyrraedd yno, ac wrth gwrs trwy hewlydd llydan St. Hillary gafon nhw eu hanfon.

Un noson, tua hanner nos, fe glywais sŵn seiren yn dod o'r tu fas a llawer o weiddi. Edrychais allan o ffenestr fy stafell wely a gwelais lori anferth a thri car heddlu tu nôl iddo. Mi oedd y lori wedi crafu'r glaswellt a orweddai ar ochrau'r llwybr a gadael trywydd o fwd ar ei ôl. Ers hynny, mae arwydd wedi cael ei osod ar y ffordd i mewn i'r pentref i rybuddio gyrwyr lori sydd â "sat nav" bod hewlydd llydan o'u blaen. St. Hillary oedd y lle cyntaf i gael yr arwydd yma, a bu'r newyddion hyd yn oed yn cyrraedd Ffrainc, a fy nhad oedd un o'r pentrefwyr a oedd yn adrodd y stori i newyddion y BBC. Doniol oedd i weld y pentref bychan yma ar y newyddion.

Dyfodol y pentref
Yn y dyfodol, gallaf weld y pentref yn aros fel cymuned fach. Ond pwy a ŵyr, gall y pentref ail adrodd hanes a rhoi'r ysgol i nôl yn y neuadd a'r ysbytai yn y tai crand. Ond mae un peth yn sicr. Dydw i ddim am weithio mewn Swyddfa Bost!

Megan Morris


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Ffilmiau
Caerdydd
Lluniau
Gemau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy