 |  |  | Canol y dref Cerdd gan Sioned Samuel am Benarth. |  |  |
 | Y strydoedd yn dawel
Wrth gerdded i lawr canol y dref.
Y dail amryliw yn dawnsio o amgylch fy nhraed,
Fel ysbryd heb yr un llef.
Aroglion trwm y coffi cry'
Yn lledaenu gyda'r awel clir.
Chwerthin yr ieuenctid, sy'n eistedd mewn caffi,
Yn mwynhau'r amser - ysgol cyn hir!
Cloc yr hen lyfrgell yn tanio yn y cefndir
Fel darn o gerdd allan o gân.
Sŵn siglen o barc lleol yn siglo yn ôl ac ymlaen,
Chwerthin a sbri plant i'w glywed tan oriau mân.
Trwy ganghennau y coed
Daw pelydrau angylion i sgleinio uwch fy mhen.
Y gwynt ysgafn yn dawnsio o dan fy mreichiau,
A sŵn canu'r adar yn llifo yn fy nghlustiau.
Penarth yw fy ngwynfyd,
Y pentref pertaf erioed a fu.
Does dim cwestiwn pam gelwir Penarth,
Y gardd ger y lli.
Gan: Sioned Samuel
 |  |  |  |
 |  | Cyfrannwch i'r dudalen hon! |  | |
|
|