O'r parciau i'r siopau, gallwch ffeindio nifer o bethau i'w gwneud yn yr ardal. Mae Penarth yn ne Cymru, dim ond chwarter awr o brif ddinas y wlad; Caerdydd. Mae yma nifer o gyfleusterau a fydd yn apelio at bobl o bob oedran gyda phob diddordeb. Mae yma ganolfan hamdden pum munud o ganol y dref lle mae nifer o weithgareddau corfforol yn cael eu cynnal, er enghraifft nofio, aerobeg a boxercise i enwi ond rhai! Ond os nad ydych chi'n hoff o ymarfer corfforol gallwch fynd i'r siopau yng nghanol y dref. Mae yna amrywiaeth fach o siopau i'w cael yma - perffaith am ddiwrnod o siopa os nad ydych chi'n mynd i rywle mor brysur â Chaerdydd! Mae nifer fawr o barciau prydferth ym Mhenarth hefyd sydd yn ardderchog i fynd â'r ci am dro neu am gêm gloi o bêl-droed. Un o nodweddion gorau Penarth yw'r pier. Mae golygfa pert o Loegr o'r pier a gallwch alw mewn i un o'r siopau bitw am candy floss neu gerdyn post. Mae hefyd nifer o fwytai a thafarnau yn agos at y pier - ffantastig am noson allan! Mae yna glwb hwylio os oes diddordeb gennych ac mae yna'r clogwyni os yr ydych am fynd am dro. Gallwch weld nifer o bethau eraill cyffrous o amgylch y dref fel clybiau tenis a thafarnau a'r marina. Mae'n amlwg i unrhyw ymwelydd mai dyma'r dref ddelaf ym mro Morgannwg efo'i golygfeydd rhyfeddol. Felly pam aros? Dewch i Benarth heddiw! Rosie Nelson Mwy am Benarth
 |