Ar fap o Gymru, cuddia tre Penarth mewn cilfach. Weithiau, fe brofwn dywydd gwahanol yma ym Mhenarth sy'n wahanol i brif ddinas Caerdydd. Mae dwy ran i Benarth, sef y dref ei hun a Phenarth isaf. Yn yr hen amser roedd teuluoedd cyfoethog o fyd masnach, pobl y môr a rheiny yn gapteiniaid ac yn y blaen yn yr ardal yma. Yn awr, gadewch i mi eich cyflwyno i'r dref glan môr yma. Cyfleustera
Tref bert ar lan y môr ydyw. Mae yma flaen-fôr godidog. Mae dwrned o dai-bwyta moethus lawr 'na. Ond, mae yna gaffi sglodion enwog sef 'Morgans' os ydych eisiau blasu'r gwir Benarth. Y mae'r môr fel blanced o saffir gyda'r haul cochlyd hwyr y prynhawn yn adlewyrchu golau o ruddem ar y dŵr. Yn ogystal â hynny, mae'r carped euraidd melyn yn teimlo'n anhygoel wrth orwedd a thorheulo gan glywed sŵn sisial y môr (i ddweud y gwir cerrig llwyd anghyfforddus sy'n gorchuddio'r traeth). Yn agos at y traeth, mae'r pier sy'n debyg i fynydd glasfaen. Heb os nac oni bai, gallwch roi arian y bydd na ddwrned o bysgotwyr yn cysgu gan obeithio dal rhyw wyrth. Nes lawr yr hewl, gallwch weld y clwb hwylio, mor foethus â thŷ'r Frenhines. Wrth drafod ymhellach canol Penarth, mae adeilad o'r enw 'The Washington'. Caffi ac Oriel yw'r adeilad mewn gwirionedd, ond gallwch weld a phrynu nifer o luniau arbennig. Dydych chi ddim yn medru gweld creadau Aneurin bob diwrnod, ond yn yr adeilad yma, mae yna siawns gwych o wneud hyn, hefyd fe welon ni lun ardderchog gan yr enwog a'r diweddar Kyffin Williams. Lluniau o dai, lluniau o bobl, lluniau o Benarth, lluniau amrywiol. Y dref a'i phroblemau Gallwch weld y tai prydferth o amgylch Penarth. Y tai hanesyddol a'r tai newydd moethus. Yn ogystal â hynny, mae nifer o dai yma wedi cael eu rhestru o dan y mudiad Cadw sef awdurdod sy'n cadw golwg ar dai arbennig. Nid perffaith yw Penarth
Wrth bwyso a mesur y pethau da am y dref hon, mae'n swnio fel tref o'r nefoedd. Ond dydy Penarth ddim yn berffaith. Gall Mam ddweud hynny hefyd, gan bod parcio wastad yn broblem ac yn waith llesteiriol wrth geisio darganfod lle prin. Mae ceisio cael apwyntiad gyda'r doctor yn her hefyd gan fod poblogaeth Penarth yn hen. O ganlyniad byddwch wastad yn gweld nifer o henoed yn y feddygfa. Yn ogystal â hynny, mae problem naturiol yn tyfu ym Mhenarth, sef coed yn tyfu o balmantydd sy'n achosi llawer o drwbl, fel achosi hen bobl i gwympo dros yr arwynebedd anwastad. Gallwn siarad o brofiad am hyn, rydyn ni newydd gwmpo coeden fawr o flaen ein tŷ ni. Rwy'n ddigon bodlon ar fy ardal i, dyma fy nghartref. 'Gwyn y gwêl y frân ei chartref ' yn yr ystyr yma. Lle bynnag yr af yn fy mywyd, Penarth fydd y lle cyntaf yn fy map meddwl i. Harri Davies
 |