Ar draws waliau hir y stryd yma, mae blodau porffor a phrydferth yn dringo i lawr i'r parciau Eidaleg sy'n wynebu'r tonnau ar y ffrynt. I lawr y llethr a dros y parciau yma, sydd yn aml wedi eu gorchuddio o dan bentyrrau di-ddiwedd o ddail oren a brown yr amser yma o'r flwyddyn, clywir atsain pell y môr ar y gorwel.
Mae gan Benarth bromenâd sy'n deillio o'r 1800au. Mae wedi para ers y cyfnod pan roedd Charlie Chaplin yn perfformio, i'r tîmau modern o gymnasteg yn ei hadeiladau heddiw. Efo arogl sglodion poeth o'r caffi yn y gwynt, clywir sŵn perthnasau fwyaf agos i'r môr yn y cefndir, ac yna sylweddolir na cheiff môr heb wylanod yn gweiddi ac yn crwydro toriadau swnllyd y tonnau. Mae'r môr yn yr ardal yma yn cael ei ystyried fel cefndir i un o'r machludau haul mwyaf del ym Mro Morgannwg. Wrth i'r haul fynd i lawr mae'r tonnau tawel yn ei adlewyrchu fel darlun fflamboeth yn llwybr o aur ar eu traws. Dyma pam mae cymaint wedi symud i fyw i Benarth yn ystod y ganrif ddiwethaf. Tu fewn i un o'r siopau yn y dref gallwch weld hen ffotograffau o'r bobl yn crwydro o amgylch Penarth tua 1850. Yn ystod yr amser hwn roedd ond 10,000 o bobl yn byw yma a nawr mae mwy na 25,000 o bobl yma. Bethan Calnan
 |