Un peth sy'n agos at galonnau llawer o'r cymdogion yw pêl droed. Dros y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf mae'r clwb wedi creu cysylltiad agos gyda'r gymuned trwy'r timau i blant, i oedolion ac yn fwy diweddar i fenywod. Rwyf i wedi chwarae dros y clwb ers i mi fod yn bum mlwydd oed. Mae llawer o gyfleoedd i mi fynd ymlaen i chwarae ar lefel uwch wedi dod, wrth fod yn rhan o'r clwb llwyddiannus yma. Rwy'n gobeithio cael y cyfle i symud fy mhêl droed gam ymhellach un diwrnod, ac er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid i mi weithio fy ffordd i fyny trwy'r gwahanol dimau sydd ar gael. Dyma gipolwg ar rai ohonynt. Yr adran iau
Gydag arweiniad hyfforddwyr sydd wedi cyrraedd lefel 'Arweinwyr F.A.W.' neu'n uwch, mae'r clwb yn trefnu gemau a hyfforddiant i blant hyd at 17 mlwydd oed. Pob bore Sadwrn mae dros 300 o blant yn chwarae fel rhan o 26 tîm ac yn cynrychioli'r clwb. Yn ogystal â'r timau cymysg yma mae siawns i ferched gynrychioli'r clwb bob bore Sul fel rhan o gynghrair i ferched yn unig. Adran y menywod
Mae'r adran menywod wedi cael ei chreu o un tîm oedolion sydd yn awr yn mentro ar ei ail dymor yng nghynghrair menywod De Cymru. Yn yr amser byr yma mae'r adran wedi sefydlu ei hun fel rhan holl bwysig o fywyd y clwb. Yr adran hŷn
Mae'r adran hon yn cynnwys pum tîm; mae'r tîm ieuenctid yn chwarae yn y gynghrair newydd sef cynghrair ieuenctid Cymru a nhw yw dyfodol y clwb, felly ar bob cyfle maent yn symud ymlaen i chwarae i'r timau uwch. Mae yna dri thîm hŷn ac yna tîm sy'n cael ei greu o gyn chwaraewyr a chwaraewyr hŷn sy'n edrych am gêm o bêl droed rheolaidd. Y tîm cyntaf
Mae'r tîm cyntaf wedi bod yn llwyddiannus dros ben dros y blynyddoedd diwethaf yn ennill y gynghrair gyntaf am dair blynedd yn olynol, camp sydd heb ei chyflawni erioed cyn hyn. Yn 1998 enillodd y tîm cyntaf 'Tlws Amatur Carlsberg F.A. Cymru' lle mae tîmau ledled Cymru gyfan yn cystadlu. O ganlyniad i hyn cafodd y clwb ei ddangos ar raglen deledu Gymraeg o'r enw Gôl. Hefyd cafodd ei ethol yn glwb pentref gorau'r flwyddyn yn 1998. Yn 2000 cafodd y clwb statws Cynghrair Cymru ar ôl ennill gêm yn erbyn enillydd cynghrair De Cymru. Mae hwn wedi rhoi cyfle i'r clwb chwarae yn erbyn timau mwyaf Cymru megis Bangor City a Barry Town sydd wedi mynd ymlaen i chwarae pêl droed yn Ewrop. Ar ôl ennill dyrchafiad wrth ddod yn ail yn y drydedd gynghrair yn 2002, yn 2003 enillodd y clwb yr ail gynghrair ar y cynnig cyntaf. Roedd hwn yn golygu bod y tîm yn awr yn chwarae ar frig pêl droed yng Nghymru, y gynghrair gyntaf. Gobeithiaf fy mod wedi rhoi blas ar beth sy'n mynd ymlaen yn fy nghlwb lleol, Dinas Powys. Gareth Davies
 |