Mae llawer o draethau prydferthaf a gorau'r wlad ym mro Morgannwg. Mae llefydd fel Southerndown, Rest Bay, Llanilltud Fawr, Coney Beach, ac yr Esplanade ym Mhorthcawl yn boblogaidd iawn gyda syrffwyr yr ardal, ac mae llawer o syrffwyr da yn dysgu eu sgiliau yma ym Mro Morgannwg. Parc Pleser Ynys y Barri, Fontygary, Triassic Towers a'r Canolfan Adar Cymru. Mae'r llefydd yma i gyd yn llefydd sydd yn rhoi mwynhad i blant ac oedolion. Maent wedi bod yn rhedeg am ddegawdau ac yn arbenigo mewn gweithgareddau i deuluoedd o bob oed. Chwaraeon
Mae pêl-droed a rygbi yn rhan fawr o fywyd i lawer o bobl y fro. Mae degau o glybiau yn yr ardal yn rhedeg timau o dan 8 mlwydd oed lan at dîm cyntaf ac yn cynnal gweithgareddau i blant i'w cadw'n iach ac oddi ar y strydoedd. Mae'r clybiau yma yn rhan allweddol o gymuned yr ardal ac yn buddsoddi llawer o arian ac amser i gadw'r gymuned yn hapus. Caerdydd ag Abertawe Mae'r dinasoedd yma o fewn awr neu lai o Fro Morgannwg. Hefyd mae parciau siopa fel un ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr yn denu miloedd o bobl a thwristiaid pob blwyddyn. Caerdydd yw calon de Cymru gan fod popeth yno, siopau, llefydd hanesyddol, dwy stadiwm o'r radd flaenaf, sinemâu a pharciau i gerdded. Mae'r dinasoedd yma hefyd yn denu llawer o enwau cerddorol mwya'r byd fel Madonna, Kanye West ac yr Arctic Monkeys. Mae llefydd o ddiddordeb hanesyddol yn yr ardal er enghraifft Castell Bro Ogwr, Pentref canol-oesol Cosmeston a Chastell Llanfleiddian. Mae'r rhain ar agor trwy'r flwyddyn ac yn addas i bobl o bob oedran ac yn fwy na dim mae'r rhan fwyaf ohonynt yn rhad ac am ddim.
Ni fyddai'r Fro yr un peth os na fyddai'r bobl yma! Mae llawer o gymunedau'r ardal yn glos iawn. Os ydych yn byw yn y Bont-faen mae siawns dda i chi gwrdd â ffrind wrth gerdded lawr y stryd fawr. Mae hyn hefyd yn hwb mawr i'r economi gan fod hwn yn gwneud pobl eisiau byw yma. Mae'r addysg ym mro Morgannwg yn ddwyieithog ac yn dda iawn. Mae'r Fro yn un o'r ardaloedd mwyaf llwyddiannus ym maes addysg dros Gymru gyfan er bod cyflwr rhai o'r ysgolion yn wael iawn. Am y rhesymau uchod rwy'n falch iawn o fyw yn yr ardal. Steffan Griffin
 |