BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Alun ThomasAberfan ar BBC Radio Cymru
Darlledwyd rhaglen arbennig ar ddydd Sadwrn, Hydref 21 ar BBC Radio Cymru yn cofio trychineb Aberfan.

Mae Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen yn sôn sut y mae'r nifer o bobl oedd yn Aberfan ar y bore erchyll hwnnw ym mis Hydref 1966 yn siarad, union ddeugain mlynedd i'r diwrnod. Hefyd yn y rhaglen, mae'r rhai aeth i gynorthwyo, nid yn unig ar ddiwrnod y drychineb, ond yn y dyddiau a'r wythnosau dilynol, yn sôn am eu hatgofion a'u profiadau nhw yn Aberfan.

"Dwi wastad wedi bod yn ymwybodol o'r trychineb ddigwyddodd dros y mynydd o'r lle ges i fy magu yn Aberpennar yng Nghwm Cynon. Ond gan nad oeddwn i wedi 'ngeni ym 1966, roedd cael siarad â phobl oedd yno ac yn cofio'n iawn be ddigwyddodd yn brofiad arbennig.

"Mae'n beth ystrydebol i'w ddweud erbyn hyn efallai, ond mae'n amlwg bod pobl yn cofio'n iawn lle roedden nhw pan glywson nhw am y trychineb. Mae llawer yn dweud mai hwn oedd y trychineb cynta' i ymddangos ar y teledu, ac roedd yr ymateb byd eang i'r apêl sefydlwyd yn sgil y digwyddiad yn brawf o hynny.

"Yn y rhaglen r'yn ni'n siarad â dyn oedd yn ddisgybl naw oed yn Ysgol Pantglas y diwrnod hwnnw - mae clywed ei atgofion e' sy'n dal i fod mor glir yn ddirdynnol, a'r ffaith fod effaith yr hyn welodd e', a'r hyn brofodd e yn dal hyd heddiw.

" R'yn ni'n siarad hefyd â'r doctor cynta' i gyrraedd yr ysgol, a'r gwaith ofnadwy oedd ganddo o adnabod pa blant oedd wedi marw a pha blant oedd yn dal yn fyw.

"Roedd yn ddiddorol clywed hefyd gan bobl eraill oedd yn ddisgyblion mewn ysgolion cyfagos adawodd eu gwersi i fynd i Aberfan i ymuno â'r ymgyrch achub, a'r rhai ddaeth o gymoedd eraill ac o ardaloedd ymhell i ffwrdd hefyd y diwrnod hwnnw. Roedd hi'n amlwg bod pobl yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw geisio gwneud rhywbeth i helpu.

"Yr hyn sy'n dod i'r amlwg o glywed y bobl 'ma'n siarad yw bod Aberfan wedi cael effaith ar eu bywydau i gyd - mae'r tristwch yno o hyd, ond mae na ddicter hefyd - dicter bod y fath beth wedi gallu digwydd, a'r ffaith nad oedd neb wedi'i gosbi, er gwaetha casgliad y Tribiwnlys sefydlwyd gan lywodraeth Lafur Harold Wilson oedd yn bendant mai'r Bwrdd Glo oedd ar fai.

"Does dim amheuaeth mai Aberfan oedd un o'r trychinebau mwya' yn hanes y Gymru fodern, ac roedd pobl yn barod i siarad â ni er mwyn sicrhau bod pobl yn dal i gofio."
Alun Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Aberdar
Radio Cymru
Hanes


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy