Dechreuwyd gwaith ar safle pwll y Tŵr ger Hirwaun ym 1805, ac mae parhad y gwaith yn y pwll dros y blynyddoedd yn golygu ei fod e'n un o'r pyllau hynaf o'i fath yn y byd. Ym 1864 yr agorwyd y lofa ddrifft gyntaf o'r enw'r Tŵr ar dir comin yn Hirwaun, ac fe heidiodd pobl i'r ardal i weithio yn y pyllau mewn gobaith o gael bywyd newydd. Wedi methiant streic y glöwyr ym 1984/85 fe wnaeth y perygl y byddai'r Tŵr yn cau orfodi'r glöwyr i ymateb. Ond, ym 1994 daeth ergyd drom gan y Bwrdd Glo, pan ddywedwyd ei bod hi'n amhosibl gwneud elw yno. Felly, yn 1994 fe gaeodd y pwll. Flwyddyn yn ddiweddarach aeth y glöwyr nôl i'w gwaith ar ôl i 239 ohonyn nhw lwyddo i godi £2m. Roedden nhw wedi buddsoddi £8,000 yr un o'r arian gawson nhw ar ôl colli eu gwaith i brynu'r Tŵr. Roedd y Tŵr yn nwylo'r gweithwyr. Disgrifiodd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan y symudiad fel moment ganolog yn hunanhyder cenedlaethol Cymru, ac roedd yn cael ei weld fel catalydd at bleidlais dros ddatganoli yn 1999. Ond erbyn mis Ionawr 2008, mae'r glo ym mhwll y Tŵr wedi rhedeg allan, sy'n golygu ei bod yn ddiwedd cyfnod i'r ardal. Does dim sicrwydd i weddill gweithwyr y pwll, ond yn ôl arweinydd y pwll mae sôn fod menter newydd gyda phwll Aberpergwm yng Nghwm Nedd yn bosibilrwydd, a'r gobaith ydi y gall tua 100 o swyddi gael eu hachub. Newyddion: Y pwll glo dwfn ola i gauCadwch lygad ar Newyddion ar-lein am ragor o straeon newyddion am y Tŵr.
 |