BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberdâr

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Aberdâr
Dweud eich dweud ar fws BBC CymruDweud eich dweud
Beth yw eich barn am dref Aberdâr? A yw'n le da i fyw? A oes digon o bethau i'w gwneud yn yr ardal, neu a oes angen mwy o ddatblygu yn y dref? Mynegwch eich barn isod.
Dyma rai o sylwadau plant a phobl ifanc Aberdâr. Beth am i chi roi eich barn am fyw yn yr ardal hon isod?

Harri Pritchard o Bentyrch
Dwi yn hoffi cerdded i ben y Garth a chwarae cornet yn band Tongwynlais.

Mackenzie o Aberaman
Rwy'n hoffi Aberdâr achos rwy'n hoffi mynd i'r pwll nofio.

Deborah Wilkshire o Aberdâr
Rydw i'n meddwl bod Aberdâr yn dref da, ond angen mwy o pethau gyda'r Cymraeg.

Menna o Godreaman
Rwy'n byw ar bwys y fferm, ac rwy'n hoffi gallu clywed dafad yn y nos, ac mae lot o gŵn yn byw yna. Rwy'n hoffi byw yma achos pan mae'r ras hwyaid, rwy'n gallu mynd yna cyn y ras, ac rwy'n gallu gweld nhw yn paratoi ar gyfer y ras. Mae gen i llawer o ffrindiau yn Godreaman.


Cyfrannwch

Megan Giblin o Hirwaun
Yn Fy Marn I does dim llawer i'w wneud yn hirwaun ac yn aberdar...does dim llawer o siopau yn y dref i wneud eich siopa yno, does dim byd i pobl ifanc fynd ..mae skate park newydd wedi agor yn y dref aberdare ond mae llawer o pobl sydd yn mynd yno ddim yn trin o yn iawn. Yn fy marn i rwy'n credu fydd o'n well i pobl yn y gymdeithas weld plant yn enjoyo yn lle bod ar y strydoedd.

Angharad Giblin o Hirwaun!!!!
Does dim llawer i ni gwneud yn Hirwaun na Aberdar. Mae angen i'r cyngor gwneud fwy i plant yn y tref yn lle rhoi tafarnau a phopeth fel yna!! Yr unig beth sydd yn dda am Aberdar a Hirwaun yw Ysgol Gyfun Rhydywaun!!! Yn fy marn i dyle Hirwaun cael tim rygbi sydd yn gallu rhoi challenge i llefoedd fel Aberpenner a Aberdar yn lle cael ein galw yn rubbish!!! Mae angn mwy o pethau i ni wneud a fydd llai o iobiaid ar y strydoedd os odd ganddyn nhw rhywbeth i wneud. Hefyd does dim llawer o siopiau i pobl yn eu harddegau fel siopau dillad.

Nicola o Gwmaman
Dwi ddim yn byw yn Aberdar nawr, ond ces i fy ngeni yno, a roeddwn i'n byw yno tan tua 4 mis yn ol. Mae'n lle wych, ond mae'n wneud fi'n grac achos mae gormod o siopau cerdyn yno!

Joanne o Rhigos!!
Dwi ddim yn hoffi aberdar!

Matthew jones , Cwmbach
Mae llawer o bethau does dim yn Aberdar.

Alexandra Hamer o Hirwaun
Mae Aberdar yn lle "ok" i fyw....does dim llawer o bethau i wneud ond mae'r pobl yn gyfeillgar ac yn cyredig.Gall fod mwy o llefydd hamdden i plant AC oedolion e.e.sinema.Ond mae aberdar yn iawn.

sherri o Penywaun a michaela o Cwmdare
Mae Aberdar yn lle fach, lle mae rhaid i chi eich hun ffeindio pethau i wneud. Does dim byd llawer i wneud yma ond mae i gyd o'm ffrindiau ni yma. Mae angen fwy o siopau dillad DA a mwy o cyfleoedd i wneud pethau. xx

Ffion Davies o Aberpennar
Does dim llawer i wneud yn Aberpennar, mae angen mwy o glwbiau nos i bobl ifanc neu lle i ni gyd fynd ar y penwythnos. Mae Aberpennar yn diflas ar y foment i pobl ifanc!!!

Matthew Jones cwmbach
Mae aberdar yn tref ardderchog efo pethau dda fel parciau ac cinema hefyd. Hwyl am nawr!!!!!!!!!!

Christopher Jones o Trelewis
Mae Aberdar yn dda, y peth gorau yw y Sobell a'r dref

Abi Jones o Bedlinog a Katie Richards o Ferthyr
Rydyn ni'n hoffi Aberdar. Mae llawer o bethau yna i wneud.

Dai o Aberdar
Mae'n Iawn Yna. Ond Mae Angen Fwy O Bethau I Wneud Am Pobl Ifanc.

Michaella Furlong o Aberdar
Mae gan Aberdar clwb rygbi bril, hefyd mae'n dref neis sydd gyda llawer o siopau ffasiynnol iawn ond dyle'r tref cael mwy o siopau.

Kyle Jenkins o Quakers Yard
Yn fy marn i dyle Aberdar fod yn mwy fel Quakers Yard

Callum Manning o Aberaman
Rydw i'n chwarae i clwb rugbi Hirwaun, ac yn fy marn i, mae'r tref Aberdar yn wych!!!

Elenor Morris o Gwmdar
Mae angen mwy o bethau i bobl yn eu harddegau wneud. Rhaid gwella canol y dref wrth gael mwy o siopau. Dylai bod mwy o bethau i wneud trwy gyfrwng y gymraeg.

Caryl Pritchard o Gwmdar
Mae ychydig o bethau i'w wneud yn Aberdar ond nid oes ddigon o bethau ar gael i bobl ifanc ei wneud. Mae cyfleusterau chwaraeon eithaf da yma, ond nid oes siopau da yn Aberdar.

Catrin RHIGOS!!!
Ma' Aberdar yn eithaf da, ond lle i wella!! Credaf fod angen gwella'r sustem drenau-bron yn amhosib cyrraedd Abertawe!! Nifer yn ffeindio eu hunain yn mynd i Gaerdydd am amser da!!!! S'yn i'n dweud bod angen gwella canol y dref! Cot o baint falle!!! Ond wastad yh falch o ddod o'r ardal!!!

Aimee-Jayne - Aberdar
Yn lle canolig i fynd at y prif ddinas ac Abertawe. Ond dim digon i wneud ar y cyfan yn yr aral ei hunan, mi ddylau'r ardal meddwl am ffyrdd haws i fynd i'r llefydd gwahanol yma a pheidio arbed bysiau sy'n mynd at y llefydd hyn, neu ddod â fwy o cyfleusterau i ni!

Sara Bowen o Ferthyr
Er nad wyf yn dod o Aberdar rwyf yn mynd i Ysgol Gyfun Rhydywaun er nad oes llawer o gyfleoedd Cymraeg yn yr ardal, ond mae yna nifer o weithgereddau actio a chwaraeon.

Ciera Davies o Hirwaun
Mae gan Aberdar nifer o atyniadau yn ystod y dydd fel parc aberdar a siopiau ac yna ymlaen ond nid oes digon o llefydd i fynd am plant yn y nos.

Shannon James a Laura Morgan o Aberdar
Mae gan Aberdar llawer o pethau i'w wneud. Mae yma Sinema,Pwll nofio,canolfan hamdden a clwb ieuenctid Cymraeg.
Does ddim llawer o pobl yn cymrud mantais o'r cyflysterau hyn!
Mae Aberdar yn lle dda i cymdeithasu a pobl! C'MON ABERDAR

jade'leigh davies o aberdar
mae na rhai pethau i wneud yn aberdar ond hoffwn weld pethau eraill all pobl ifanc wneud. Tref agos yw aberdar.

Rachel Morgan, Cari Rees a Nia Wyn Rossiter o Aber
Rydyn ni'n hoffi Aberdar, mae yna llawer o pethau i wneud er enghreifft Canolfan Hamdden, Pwll Nofio, Trac Rhedeg, sinema a nifer o pethau eraill. Gallwch hefyd siopa yn Aberdar!Mae Aberdar yn canolog i ddinasoedd fwy Cymru erenghreifft Caerdydd a Abertawe. Mae yna nifer o ffyrdd i cyrraedd y llefydd yma. Hefyd mae yna Amgueddfa gwych i ymweld. Dylech dod i weld ni rhyw bryd.!!!!!!!!!!!!!!!!

Sian Jones o Hirwaun
Mae Aberdar yn dref efo cymysg o bobl. Mae llawer o pethau i wneud ynglyn a chwaraeon ond does dim llawer o pethau i bobl ifanc wneud e.e sinema a bowlio efallai!!!! Yn fy marn i mae hi'n lle dda i fyw

Hannah Lerwill Aberdâr
Mae yna park gwlad yn Aberdar. Mae yna canolfan chwaraeon arbennig yn Aberdar.R'on i arfer chwarae rygbi i Aberdar ac arfer bod yn rhan o'r aerobics tu fewn y canolfan. Mae yna llawer mwy o bethau i wneud yn y canolfan yma ac mae yna pwll nofio yno.

Heidi o Penderyn
Mae gan Aberdar llawer o bethau wahanol ar gyfer pawb o bob oed sef y canolfan chwaraeon a cymunedol ac y parc lleol.

Ffion Pritchard o Aberdâr
Mae'r ganolfan hamdden ar gael, sy'n cynnig nifer o weithgareddau fel aerobigs er mwyn cadw'n heini. Ond does dim digon o siopau da ar gael yn y dref.

Daniel Carey o Ferthyr Tydfil
Wrth ymweld ag Aberdar sylweddolon fod ormod o pobl yn siarad saesneg, hynnu yw pobl all siarad Gymrareg. Ond oll yn oll mae llawer o pethau dda yna.

Alex Thomas o Ferthyr
Mae'n fanteisiol iawn cael cymdeithasu yn y gymraeg. Rwyn mynd i ysgol gymraeg Rhydywaun ac wrthi'n paratoi ar gyfer fy tgau (Ychh!).

Cari Andrews o Cwmbach
Rydw i yn hoffi byw yn Aberdar yn fawr iawn, ond hoffwn i weld mwy o gyfleusterau ar gyfer pobl ifanc. Er engraifft cinema a rhywle i fynd yn y nos.

Cara Lanyon o Abercynon
Rwyn hoffi Aberdar ond bydd e'n lle well os bydd llai o sbwriel. Dylai pobl ifanc dysgu i rhoi ei sbwriel yn y bin!!!

Jonathan Williams o Aberfan
mae tim pel droed aberfan yn brill achos rydw i a gerwyn yn sybio

Gavin Thomas O Treharris
Rydw i yn aelod o clwb pysgota Bedlinog. Rydw in mwynhau bwy yn Treharris ac Cymru ond all y tywydd fod yn well. Yr unig peth arall ydy nid oes llawer i wneud yn Treharris.

Dan Hopkins, Aberdare
Hello!!!!!!! rydw i'n dod o ysgol gyfun Rhydywaun . Yn fy marn i mae gormod o llygredd yn bodoli yn Aberdar. Hwyl!

Ffion Williams o Aberdar
Y peth gorau am Aberdar yw'r holl pethau i wneud fel nofio, gwneud athletau, shoppa, mynd am dro ac hefyd mae na ysgol gymraeg yn yr ardal

Naomi Collins o Ferthyr Tydfil
mae yna nifer o chyfleusterau yn yr ardal. mae yna ganolfan hamdden a phwll nofio cymunedol. mae yma nifer i wneud gyda'ch ffrindiau, er enghraifft...siopa!!

Owen Richards, Aberdar
Dwi'n hoff o'r parc Aberdar ac y parc gwladol. Does dim digon o pethau i wneud yn Aberdar achos mae'r sinema yn rhy fach. Ond, mae na digon o llefydd i fwyta ac i prynnu cardiau.

Lloyd Collins o Treharris
Rydw i'n hoffi siarad i colemennod

Gareth o Hirwaun
Mae amryw o siopau a cyfleusterau arbennig ar gael yn Aberdar. Nid oes llawer o bethau i'r iaith Gymraeg ond am yr ysgol Rhydywaun ond gobeithio fydd fwy ar gael cyn bo hir!!

Bethan Jones o Abercynon
Mae Aberdar yn lle eithaf diddorol, ond nid oes llawer o gyfleusterau, yn enwaedig cyfleusterau Cymraeg

Jessica Walding o Ferthyr
Mae Aberdar yn lle dda i cymdeithasu gyda fy ffrindiau, mae yna nifer o pethau diddorol i wneud ond hoffwn i weld mwy o gweithgareddau hamdden.

Rhianydd o Ferthyr Tydfil
Rydw i'n mynd i'r ysgol yn Aberdar (Rhydywaun) ac fel rhan o weithgareddaur ysgol rydyn ni'n defnyddior Coliseum a chanolfan hamdden, y sobel. Mae'r cyfleisterau hyn yn dda iawn a chyfleis.

Jonathan o Ferthyr Tudful
Nid oes llawer o bethau yn Aberdar. Rhaid i'r llywodraeth gwella'r ardal am le hyfryd e.e mwy o finiau 'sbwriel.

Matthew Budding o Ferthyr
Rydym ni yn mynd i'r ysgol yn Aberdar (Rhydywaun) Mae na lawer o gyflesterau yn Aberdar e.e Coliseum Aberbar a chanolfan ieuenctid

Emily Williams o Ferthyr
Mae na llawer o cyfleusterau gwahanol yn Aberdar ee actio yn yr colliseum, gwahanol chwaraeon yn yr sobell.

Gwawr o Ferthyr Tudful
Mae bywyd cymdeithasol gwych ar gael yn Aberdar, ond efallai y gallai fod mwy o weithgareddau cyfrwng Cymraeg yno!

Stacie o Merthyr a Cerys o Hirwaun!
Mae angen mwy o bethau i wneud am pobl yn eu harddegau. Mwy o siopau dillad.

Ceri-Anne o Merthyr Tudfil
Mae angen mwy o siopau yn y dref Aberdar, rydw i'n hoffi y pwll nofio, mae'r ysgol yn dda.

Daniel Jones o Aberdar
Mae yna bethau i wneud yn Aberdar ond mae angen mwy i'w wneud. Mae angen gwneud rhywbeth i lanhau'r sbwriel ac i sicrhau bod pobl yn stopio taflu sbwriel.

Kyle Davies o Aberpennar
Mae Aberdar ddim mor da a Aberpennar achos does dim Ras nos galen neu tim rygbi mor da a Aberpennar oherwydd mae Aberpennar llawer yn well.Yn fy marn i dyle y cyngor wneud aberdar cael pethau well fel tim rygbi Aberpennar i wneud Aberdar bron mor da a'r lle llawer yn well drws nesaf ati.

Dale Hames o Aberdar
Mae aberdare yn frwnt.Does dim llawer i'w neud dim ond sobell, mae yn tref fach a does dim yna siopau da

Stacie o Merthyr a Cerys o Hirwaun!
Mae angen mwy o bethau i wneud am pobl yn eu harddegau. Mwy o siopau dillad.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Elusennau
Adolygiadau
Papurau Bro
Digwyddiadau


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy